Newyddion da i Brighton & Hove Albion
28.10.05


Llongyfarchiadau i glwb pêl-dored Brighton & Hove Albion am gael caniatad o'r diwedd i adeiladu stadiwm newydd. Ers saith tymor, bu'r clwb yn chwarae eu gemau cartref 75 milltir i ffwrdd yn Gillingham ac yna mewn stadiwm athletau gyda lle i ddim ond 7,000 o gefnogwyr, gyda chanran bach iawn o'r seddi dan do. Er hyn i gyd fe lwyddodd y clwb esgyn i fyny dau adran. Chwarae teg i'r cefnogwyr, rheolwyr a chwarawyr y clwb am ddal ati. Bu llawer o gefnogwyr Brighton yn gefnogol iawn i ymdrechoedd cefnogwyr Wrecsam i ymladd Hamilton, gan rhoi annogaeth a chyngor gan iddyn nhw brofi colli eu maes eu hunain drwy weithredoedd wancar o berchennog. Bu gwrthwynebiad i'r stadiwm newydd gan drigolion lleol, ac mewn cyfweliad dywedodd Mark McGhee, sef y rheolwr bod eisiau cydnabod teimladau'r pobl hyn a chyd-weithio â nhw.
Days of Autonomy, Caerdydd - 4-6/11/05
Mewn ymgais i ennill gwobr am y post mwya vague, dyma chi rywbeth ddarllenais ar negesfwrdd Urban75:
Dyw'r wefan ddim yn fyw eto, ac efallai daw'n fwy amlwg beth yn umion mae amdan bryd hynny. Swnio'n ddiddorol ta beth.
The PAD (People's Autonomous Destination) Presents "Days Of Autonomy",
4/5/6th November, location to be announced
This is a free weekend of events to be held at a new social centre for Cardiff. Included over the weekend is a vegan cafe, radical bookshop and library, activist info point, live music and performance, art space, freeshop, kids space, films, Queer night, healing space.
Workshops and discussions around climate change, Iraq, direct action, animal rights, transgender, video activism, ID Cards, No Borders and more.
A website should be up by the end of the weekend: www.thepad.org.uk
e-mail us at: thepad@riseup.net for location details or if you want help out or get involved.
we need your art work, photography, banners to make the PAD look lovely. were having a tart-up day next Thursday at the venue so if you fancy helping to make the PAD (your PAD!) beautiful, e-mail us!
cheers
Dyw'r wefan ddim yn fyw eto, ac efallai daw'n fwy amlwg beth yn umion mae amdan bryd hynny. Swnio'n ddiddorol ta beth.
Pwy di pwy?
27.10.05
Efallai mod i'n anghywir (ac yn fflatro fy hun ychydig), ond o ddarllen y sylwadau yma ar Brit Nat Watch, allai'm peidio meddwl fod awdur y wefan na chawn ei henwi'n awgrymu mai fi sy'n gyfrifol am y wefan. Tydw i ddim yn aelod o'r Blaid yn y sir (na nunlle arall chwaith, ar hyn o bryd) ond chi'n gwbod be sgynai?
Mr Scruff v Poppies (29/10/05)
Y Poppies yw fy hoff fand Cymraeg ar y foment, a dwi heb eu gweld yn fyw ers amser, ond mae Mr Scruff hefyd yn Chwarae yn Nghaerdydd ar yr un noson. Diw eirioed wedi ei weld yn chwarae'n fwy ond mae un o'i albyau gynnai adref. Hmm, penbleth go iawn.
Wyt ti'n addas?
26.10.05
| Cliciwch yma i weld beth yw eich gradd chi |
| Creuwyd gan bart666 |
Efallai mai arywdd o pa mor ddiniwed ydw i yw'r ffaith mai 12A dwi'n gael. Sgwn i beth fyddai awdur Geiriau Gwyllt yn ei gael?
Ymgyrch Tîm Olympaidd i'r Alban
Defnyddio Haloscan
Bues braidd yn fyrbwyl yn gosod Haloscan i reoli sylwadau ar fy mlog Dysgwyr De Ddwyrain. Y rheswm dros wneud oedd er mwyn cael gweld unrhyw 'Trackbacks'. Be sylwais i ddim oedd bod rhaid talu er mwyn cael yr opsiwn trackback, ac yn waeth fyth mae'n rhaid talu er mwyn cael gybod (drwy e-bost) pan mae rhwyun yn gadael sylw.
Gan mod i'n berson gwirion, wnes iddim cadw copi o templad fy mlog (byddai Nic yn cael ffit!) ac felly doedd dim modd i mi fynd yn ôl i'r hen drefn.
Digwyddodd yr un peth i Nick, a diolch iddo am fy ngwneud yn ymwybodol bod modd cael Ffrwd RSS o holl sylwadau ar eich blog.
(Dwi wedi gadael sylw i fy hun er mwyn profi fod o'n gweithio gan mai ychydig iawn o boble eraill sydd trafferthu - sniff )
Newydd sylwi wrth sgwennu'r post hwn bod Trackbacks am ddim rwan, ond rhaid i mi ddallt sut mae'n gweithio'n gyntaf.
Gan mod i'n berson gwirion, wnes iddim cadw copi o templad fy mlog (byddai Nic yn cael ffit!) ac felly doedd dim modd i mi fynd yn ôl i'r hen drefn.
Digwyddodd yr un peth i Nick, a diolch iddo am fy ngwneud yn ymwybodol bod modd cael Ffrwd RSS o holl sylwadau ar eich blog.
(Dwi wedi gadael sylw i fy hun er mwyn profi fod o'n gweithio gan mai ychydig iawn o boble eraill sydd trafferthu - sniff )
Newydd sylwi wrth sgwennu'r post hwn bod Trackbacks am ddim rwan, ond rhaid i mi ddallt sut mae'n gweithio'n gyntaf.
Mwy'n defnyddio Firefox
Ar wefan Spread Firefox, mae creuwyr a defnyddwyr Firefox yn dathlu'r ffaith bod 100 miliwn wedi lawr-lwytho y porowr Firefox.
Beth am y defnydd?
Yn amlwg nid yw hyn yn golygu fod pawb sydd wedi ei lawrlwytho'n ei ddefnyddio, ond mae arwyddio bod y defnydd ar gynnydd. Yn ôl Currybet, mae 9.7% o ymwelwyr i dudalen cartref gwefan y BBC yn defnyddio Firefox.
Yn amlwg mae darllenwyr y blog hwn yn fwy soffistigedig, gan fod yr ystadegau'n dangos mai dim ond 64% sy'n defnyddio porwr Microsoft a bod 28.5% yn defnyddio Firefox.
Cofiwch bod Firefox ar gael yn Gymraeg.
Ac os ydych yn hapus gyda'r porwr mae modd rhoi Botwm Firefox ar eich blog i'w hyrwyddo.
Beth am y defnydd?
Yn amlwg nid yw hyn yn golygu fod pawb sydd wedi ei lawrlwytho'n ei ddefnyddio, ond mae arwyddio bod y defnydd ar gynnydd. Yn ôl Currybet, mae 9.7% o ymwelwyr i dudalen cartref gwefan y BBC yn defnyddio Firefox.
The browser market amongst those requesting the BBC homepage still shows a vice-like grip from Microsoft products, but both Firefox and Safari represent small but significant deviations from the Internet Explorer norm. All the versions of IE together make up just under 86% of requests to the BBC homepage, with Firefox accounting for 9.1%, and Safari 2.6%.
Yn amlwg mae darllenwyr y blog hwn yn fwy soffistigedig, gan fod yr ystadegau'n dangos mai dim ond 64% sy'n defnyddio porwr Microsoft a bod 28.5% yn defnyddio Firefox.
Cofiwch bod Firefox ar gael yn Gymraeg.
Ac os ydych yn hapus gyda'r porwr mae modd rhoi Botwm Firefox ar eich blog i'w hyrwyddo.
Blogio yn y maes parcio
Yn ôl Marketing Tom (boi o Gaerffili), mewn arolwg i ymwybyddiaeth y cyhoedd am flogio, roedd llawer o'r atebwyr yn camgymeryd y gair am weithred arall tra wahanol.
Latest research from the UK shows that the majority of people are not aware what a blog is - 70 percent had never heard of blogging, whilst 90 percent had no idea what a podcast is - and most seemed to confuse the word with 'dogging'.
Mae Caerdydd yn fy nychryn

Cardiff Terrifies Me - Casgliad o lunaiu 'billboard's' gyda pennawdau y South Wales Echo. Rhai doniol iawn.
Gol.
Nid yw'r llun uchod yn rhan o'r blog mae'n ymddengys, ond yn lun o gyfrif flickr Dwlwen!. Tydi'r Rhithfro'n le bach dudwch?
caerdydd, cardiff, doniolwch, south wales echo
Generated By Technorati Tag Generator
Labels: caerdydd, cardiff, doniolwch, south wales echo
Rosa Parks 1913 - 2005
25.10.05
Bu farw Rosa Parks heddiw yn 92 oed. Yn 1955 cafodd ei harestio yn Mongomery yn nhalaith Alabama am wrthod rhoi ei sedd i ddyn gwyn ar fws. Bu'r weithred syml hyn yn sbardun i'r ymgyrchu hawliau sifil i bobl croenddu yn yr UDA. Clywais glip ar y radio pan gafodd ei chyfweld ychydig o flynyddoedd yn dilyn y digwiddad a dywedodd;
..I had to find out what rights I had as a human being.
Wicipedia
Dathlu 200 mlynedd ers beth yn union?
24.10.05
Beth wnaethoch chi'r penwythnos hwn i ddathlu brywdr Traffalgar? Dim mae'n debyg os fel fi. Mae gan Galgacus sylwadau dilys yma ynglŷn a'r ffaith bod yr un fyddin oedd yn ymladd yn erbyn Ffrainc hefyd yn clirio ucheldiroedd yr Alban o'i boblogaeth gynhenid.
Mwy ar wefan y BBC ac ar Wikipedia
Yesterday marked the 200th Anniversary of the battle of Trafalgar, with celebrations around the country marking the victory, and the death of Nelson. It’s worth remembering what was going on at home whilst these victories were taking place abroad. The same army which was bravely standing up to Napoleon was also “bravely” standing up to unarmed farmers, burning them out of their homes and throwing them off their own land.
Mwy ar wefan y BBC ac ar Wikipedia
Unrhyw un am Coets?
20.10.05
Dyma fi'n darllen post gan A Welsh Born Icon am Ceilys Cymreig. Ers byw yn y de, dwi wedi sylweddoli bod Ceilys yn dal yn boblogaidd iawn mewn tafarndai yma, ond doeddwn ddim yn ymwybodol bod pinnau a pheli Ceilys gwahanol mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru a Lloegr.

Wrth fynd trwy wefan Masters Traditional Games, dyma fi'n dod ar draws Coits (gweler llun uchod), sef gêm draddodiadol Cymreig (a'r Alban a Lloegr yn ôl pob sôn). Mae engrheifftiau o'r rhain yn yr Amgueddfa Werin, ond hyfyd cefais i bar o'r rhain yn anrheg nadolig un flwyddyn gyda R. W. wedi ei osod arnynt. Roeddwn yn fy arddegau ar y pryd ac yn ddigon aniolchgar rhaid i mi gyfaddef. Mae nhw yn nhŷ fy rhieni rhywle heb eu defnyddio - sôn am gywilydd. Waeth mi heb chwilota amdanynt, achos dwi byth yn ffeindio pethau fel hynny. Gobeithioaf y dof ar eu traws trwy damwain yn fuan.
Clwb Coets Felinfach
Tîm Coets Cymru'n curo'r Alban (2003)

Wrth fynd trwy wefan Masters Traditional Games, dyma fi'n dod ar draws Coits (gweler llun uchod), sef gêm draddodiadol Cymreig (a'r Alban a Lloegr yn ôl pob sôn). Mae engrheifftiau o'r rhain yn yr Amgueddfa Werin, ond hyfyd cefais i bar o'r rhain yn anrheg nadolig un flwyddyn gyda R. W. wedi ei osod arnynt. Roeddwn yn fy arddegau ar y pryd ac yn ddigon aniolchgar rhaid i mi gyfaddef. Mae nhw yn nhŷ fy rhieni rhywle heb eu defnyddio - sôn am gywilydd. Waeth mi heb chwilota amdanynt, achos dwi byth yn ffeindio pethau fel hynny. Gobeithioaf y dof ar eu traws trwy damwain yn fuan.
Clwb Coets Felinfach
Tîm Coets Cymru'n curo'r Alban (2003)
Wps
17.10.05
Dwi ddim y person mwy prydlon, dyna pam felly dwi'n blogio am rhywbeth ddigwyddodd wythnos i heddiw pan gwrddais gyda Chris Cope yn nhafarn y Mochyn Du, Caerdydd. Roedd Chris wedi cyrraedd Caerdydd y noson gynt ac roedd eisioes wedi bod yn Llundain ac yn Llwdylo. Yn ogystal a fi roedd Geraint a Mair wedi dod draw i'r dafarn a bu'r pedwar ohonom yn treulio'r noson yn sgwrsio'n Gymraeg (er, fel sa chi'n ddisgwyl o Americanwr, Chris oedd yn gwneud rhan fwyaf o'r sgwrsio ;-) ). Un peth yw ysgrifnnu'n Gymraeg ond peth arall yw cyfleu eich hun mewn sgwrs a deall (popeth?) ddwedir gan eraill, a rhaid dweud roedd hi'n anhygoel gwrando ar Chris yn siarad Cymraeg mor naturiol. Does ryfedd iddo gael ei dderbyn i astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Gallwch ddarllen am ei ymweliad â Chaerdydd ar ei flog Saesneg.
Gallwch ddarllen am ei ymweliad â Chaerdydd ar ei flog Saesneg.
Y GLC i deithio ar draws Cymru mis Tachwedd
Trwy Crossfire
Y lleoliadau fydd
Y lleoliadau fydd
Blackwood Miner's Institute (November 21)
Swansea Patti Pavilion (22)
Bangor University (23)
Aberystwyth University (24)
Bridgend Recreation Centre (25)
Wrexham Central Station (26)
Brecon Market Hall (27)
Ymgyrchu clyfar yn Llydaw
Bu rhieni oedd yn ymgyrchu i gael penodi athro sy'n siarad Llydaweg yn rhedeg Teleathon, wedi i'r awdurdod addysg wrthod ei ariannu. Cafodd hyn lawer o gyhoeddusrwydd ar y rhyngrwyd ac achosi tro-pedol gan yr awdurdodau.
Yn ystod yr ymgyrchu, meddianodd rhai o'r rhieni rhan o'r ysgol a dysgu'r plant eu hunain. Gwrthododd yr awdurdodau trafod a nhw oni bai bod y pedwar amod canlynol yn cael eu cwrdd:
1) Bod y rhieni'n gadel yr adeilad
2) Bod banner Llydaw ddim yn cael ei arddangos
3) Bod y plant ddim yn gwisgo eu bathodynnau sy'n dweud Me a gomz brezhoneg (Dwi'n siarad Llydaweg)
4) Bod neb yn siarad â'r wasg
Mae ymddygiad awdurdodau Ffrainc yn warthus!
Mwy am yr uchod ar archif Eurolang (PDF)
Tagiau Technorati: Llydaweg, Ffrainc, Ieithoedd, Ymgyrchu
Cochion Caerdydd (Grŵp cefnogwyr CPD Wrecsam)

Yn y 5 mlynedd dwi wedi bod yn byw yng Nghaerdydd, dwi wedi dod ar draws ambell i gefnogwr Wrecsam a wastad wedi meddwl byddai'n dda dod a chriw at eu gilydd er mwyn teithio i gemau. Dwi ddim y person mwy trefnus ond gyda dyfodiad y rhyngrwyd dyma fi'n penderfynnu dechrau blog a fforwm er mwyn dod a chefnogwyr at eu gilydd. Hysbysebias i fforwm ar wefan cefnogwyr Red Passion, ac o fewn ychydig ddyddiau roedd 16 aelod wedi ymaelodi.
Y peth cyntaf rydym am drefnu yw bws mini i'r gêm oddi cartref yn Rhydychen ar y 12fed o Dachwedd.
Technorati tags: Wrecsam, Wrexham, Football, Pêl-droed, Cochion Caerdydd, Cardiff Reds
Pigion Independent on Sunday
16.10.05
Dadl dros benderfyniad i roi Gwarchodfa Natur Amboseli yn cael ei roi yn ôl dan reolaeth y Masai. Cadwriaethwyr yn ofni bydd bywyd gwyllt yn dioddef, tra mae'r Masai yn dadlau eu bod llwyddiant diweddar y rhywiogaethau cymaint i wneud a nhw ag y mae i'w wneud a ddeddfwriaethau. Amser a ddengys.
AS yn gwneud beth mae'n ddweud am unwaith!
Alan Simpson, AS dros Dde Nottingham yn adeiladu ty 'gwyrdd', wrth addasu hen felin yn defnyddio deunydd wedi ei ail-gylchu ac sy'n hunan gynhaliol gyda thrydan a dwr.
Dolenni at
www.lamurals.org - Gwefan MURAL CONSERVANCY of LOS ANGALES
www. shopdropping.net - Y gwrthwyneb i shopliffting, ble mae artistiaid cerddorol yn rhoi eu CD's mewn siopau cerddoriaeth os and ydynt yn cael lwc o'u gwerthu a phan mae ymgyrchwyr yn addasu labeli rhai cynnyrch
AS yn gwneud beth mae'n ddweud am unwaith!
Alan Simpson, AS dros Dde Nottingham yn adeiladu ty 'gwyrdd', wrth addasu hen felin yn defnyddio deunydd wedi ei ail-gylchu ac sy'n hunan gynhaliol gyda thrydan a dwr.
Dolenni at
www.lamurals.org - Gwefan MURAL CONSERVANCY of LOS ANGALES
www. shopdropping.net - Y gwrthwyneb i shopliffting, ble mae artistiaid cerddorol yn rhoi eu CD's mewn siopau cerddoriaeth os and ydynt yn cael lwc o'u gwerthu a phan mae ymgyrchwyr yn addasu labeli rhai cynnyrch
Arddangosfa newydd Banksy

O'r Independent.
Mae arddangosfa newydd Banksy (yr arlunydd graffiti, nid colofnydd Dail y Post) wedi agor yn Llundain. Y tro hwn mae wedi mentro i fyd peintio ag olew, ble mae wedi 'addasu' clasuron gan arlunwyr enwog gan gynnwys Constable, Monet, Van Gough, Jack Vettriano ac Edward Hopper (deoddwn rioed wedi clywed am y ddau olaf). Yn gyntaf bu'n prynnu copiau o'r darluniau mewn siopau elusen a ffeiriau, ond yna bu'n rhaid iddo ail-greu rhai ei hun pan allai ddim darganfod dim mwy.

Geraint oedd y cyntaf i'm cyfeirio at waith y gwr hwn pan bostiodd am ei waith graffiti ar 'y wal ddiogelwch' yn Israel.
Mwy o'i luniau trwy Google
Be ti'n edrych ar?
12.10.05

Gwgl di, gwgl di, gwgl di, gwgl di gwgl di gŵŵŵŵŵŵŵŵ!
Dyma un o'r canlyniadau ar fy ystadegau, rhywun o'r cyfrifiadur canlynol: host251.welsh-ofce.gov.uk
Sgwn i beth oedd yn chwilio amdano?
Enw newydd yn stori Wrecsam
10.10.05
O'r BBC.
Maed dynes busnes o Sir Ddinbych sy'n filiwnydd wedi dweud ei bod yn rhan o gais Neville Dickens.
Mae'r ffaith ei bod hi'n berson lleol, gyda chynlluniau i ddatblygu'r safle fel bod modd arallgyfeirio gyfochr a'r pêl-droed (ar ffaith bod ganddi arian) yn arwyddion da dwi'n meddwl.
Maed dynes busnes o Sir Ddinbych sy'n filiwnydd wedi dweud ei bod yn rhan o gais Neville Dickens.
Mrs Booth is supporting Wrexham car dealer Neville Dickens, one of two parties interested in buying the Racecourse ground.
"I have been involved in the club for the last few months {but} no one can do anything until after the court case," she said.
"I'm co-operating with the administrators and Neville Dickens," she added.
Mrs Booth, from Corwen, who was at the Dragons' game last Saturday, said the club's team manager Denis Smith also has her full support.
She wants to re-develop the Kop stand, host conferences and concerts and turn the Racecourse into a community facility.
Mae'r ffaith ei bod hi'n berson lleol, gyda chynlluniau i ddatblygu'r safle fel bod modd arallgyfeirio gyfochr a'r pêl-droed (ar ffaith bod ganddi arian) yn arwyddion da dwi'n meddwl.
Ble mae Minsk?
7.10.05
Dyna'r cwestiwn roeddwn i'n gofyn i mi fy hun neithiwr wrth...(gylp)...wylio Friends. Roedd cariad i Phoebe yn mynd yn ôl i Minsk, Russia. 'Rwsia' meddyliais i, nid yn Belarws mae hwnna? Mae llawer iawn o ail-ddanosiadau ar teledu digidol ond siwans nad oedd hwn wedi ei ffilmio wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd. Mae'n gwneud i mi feddwl, a'i camgymeriad gan gwneuthurwyr y rhaglen oedd hyn, neu oedd yn fwriadol rhag drysu'r gwyliwyr draun drwy grybwyll gwlad anghyfarwydd?
Siopa Teg: Oyster Clothing Ltd, Caerdydd
6.10.05

Dwi wedi postio o'r blaen ac o'r blaen ac o'r blaen am sut hoffwn brynnu dillad sydd wedi eu cynhyrchu unai'n lleol neu oleiaf gyda amodau teg i'r gweithwyr. Bach iawn yw'r dewis, er mae blogiau City Hippy, Adventures in Ethical Consumerism a TreeHugger yn cynnwys dolenni at nifer o wefannau sy'n dangos bod dewis allan yna. Y peth yw, dwi eto ddim yn or-hoff o brynnu tros y wê, yn arbennig pan mae'n dod i ddillad, ac roeddwn yn hapus iawn dydd Sadwrn wedi i mi a Sarah ddod ar draws siop newydd ar hap o'r enw Oyster Clothing Ltd, yn Arcêd y Castell yng Nghaerdydd.
Yn bennaf mae'r siop yn gwerthu dillad gan gwmni o Aberteifi o'r enw Howies. Mae Howies yn cynhyrchu dillad sydd wedi eu gwneud o dan amodau teg i'w gweithwyr ac hefyd gan ddefnyddio defnyddiau sydd ddim yn rhy andwyol i'r amgylchedd fel cotwm organig. Mae na negeseuon gwych ar eu cysau-T (dwy y rhai gorau ddim i'w gweld ar y wefan). Mae'r dillad yn ddrytach na rhywle fel River Island neu Next, gyda crysau-T am £25 a phâr o Jeans am £80, ond gan nad ydw i'n prynnu dillad newydd yn aml dwi'n barod i dalu gwir bris dillad fel hyn.
Hyd yn oed o nad ydych ffansi prynnu dillad mae'n werth ymweld â'u gwefan gan fod y cwmni'n sôn am eu syniadaeth ac hefyd mae cystadleuath celf o'r enw Art Think (gwobr £500). Os ydych yng Nghaerdydd, pigwch draw am gatalog, eto, mae'n werth ei ddarllen.
Oyster Clothing Ltd
029 2064 4107
28 Castle Arcade
Cardiff (Cardiff), CF10 1BW
Tagiau Technorati: Oyster Clothing Ltd, Howies, Caerdydd, Cardiff, Cymraeg, Siopa Teg, Amgylchedd
Blog-gwrdd
3.10.05
Beth yw Blog-gwrdd? Wel, yn syml pobl sy'n blogio yn cwrdd â'u gilydd. Efallai mai dyma yw blog-gwrdd cyntaf y Rhithfro, pan fydda i a Geraint yn cwrdd gyda Chris yn nharafn Y Mochyn Du* yng Nghaerdydd, nos lun nesaf sef y 10fed o Hydref (amser i'w gadarnhau). Mae Chris wedi bod yn dysgu Cymraeg ar ben ei hun yn yr UDA ac ei uchelgais yw astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae draw yng Nghymru ar gyfer cyfweliad gyda'r Ysgol Gymraeg a mae croeso i unrhywun ddod draw boed gyda chi flog neu beidio. Os oes gyda chi awgrymiadau o beth ddylai Chris wneud/ble ddylai ymweld tra yn y brifddinas, gadewch sylw.
*Sylwch ar yr adolygiad BBC o'r Mochyn Du, dwi wedi rhoi'r opsiwn Vocab Somali ymlaen.
*Sylwch ar yr adolygiad BBC o'r Mochyn Du, dwi wedi rhoi'r opsiwn Vocab Somali ymlaen.









