<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blog-gwrdd

3.10.05

Beth yw Blog-gwrdd? Wel, yn syml pobl sy'n blogio yn cwrdd â'u gilydd. Efallai mai dyma yw blog-gwrdd cyntaf y Rhithfro, pan fydda i a Geraint yn cwrdd gyda Chris yn nharafn Y Mochyn Du* yng Nghaerdydd, nos lun nesaf sef y 10fed o Hydref (amser i'w gadarnhau). Mae Chris wedi bod yn dysgu Cymraeg ar ben ei hun yn yr UDA ac ei uchelgais yw astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae draw yng Nghymru ar gyfer cyfweliad gyda'r Ysgol Gymraeg a mae croeso i unrhywun ddod draw boed gyda chi flog neu beidio. Os oes gyda chi awgrymiadau o beth ddylai Chris wneud/ble ddylai ymweld tra yn y brifddinas, gadewch sylw.

*Sylwch ar yr adolygiad BBC o'r Mochyn Du, dwi wedi rhoi'r opsiwn Vocab Somali ymlaen.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:42 am

21 sylw:

Biti na allai ymuno efo chi, fydd raid cael cwrdd blogwyr Aberystwyth!

[gyda llaw, ti di darllen y gair Somali am "food"? Fnar fnar!]
sylw gan Blogger Nwdls, 12:14 pm  

O diar. Newydd fod i wefan 'cuz', a dechreuodd fy nghalon guro tuag ugain gwaith yr eiliad yn fwy na'r arfer...
sylw gan Blogger cridlyn, 12:26 pm  

Gobeithio y byddwch chi'n cael amser da gyda Chris ac eraill. Dw i'n eitha cenfigennus!

To cuz: there are plenty of blogs in English. We write in "that Brythonic jibberish" because we love it.
sylw gan Anonymous Anonymous, 12:30 pm  

Dwi ddim am glicio ar flog y mwnci bach, be mae o'n ddweud? Ydw i eisiau gwybod?

gyda llaw, ti di darllen y gair Somali am "food"? Fnar fnar!

hi hi hi
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 12:37 pm  

Mae gen i docyn i Chris ar gyfer y gêm yn erbyn Azerbaijan, ond dwi heb glywed yn ôl ganddo - Rhys, alli di weld os dio eisiau'r tocyn,

diolch.
sylw gan Blogger Gary, 12:40 pm  

Hmm, roeddwn o dan yr argraff ei fod yn mynd i'r gêm gyda'r Criddlefeistr.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:09 pm  

Doh, Gary, dw i'n ymddiheuro. Dw i wedi anghofio dy fod to wedi cynnig tocyn. Dw i'n meddwl bod Geraint wedi prynu tocyn wrtha i. Os wyt ti'n 'stuck' gyda'r tocyn, dweud wrtha i a fe fydda i'n geisio dy dalu di'n ôl.
sylw gan Blogger Chris Cope, 1:10 pm  

Sylwadau hiliol am Foslemiaid, y Ffrancwyr, sylwadau'n erbyn pobl hoyw... Y math o berson sy'n rhoi cystal enw i Americanwyr o amgyclh y byd, gwaetha'r modd, Chris.

Heb gael gafael ar docyn 'to, felly s'dim angen poeni. Ond bydd rhaid i fi roi'r arian nol i ti, Chris.
sylw gan Blogger cridlyn, 1:31 pm  

Newydd sylweddoli mod i wedi postio sylw ar ei flog. Yn ôl pob sôn nid yw'r genedl Gymreig yn bodoli.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:49 pm  

Bydda i gyda chi mewn ysbryd bois, ond bydd fy nghorff yn Aberteifi mewn dosbarth Cymraeg.

(Peidiwch bwydo'r troliaid nawr ;-)
sylw gan Blogger Nic, 3:00 pm  

Chris, Geraint, peidiwch â phoeni am y tocyn - mae gen i un sbâr os oes ei angen ond peidiwch nid yw'n broblem os yw'r ddau ohonoch am eistedd gyda'ch gilydd - mae hynny'n gweud mwy o synnwyr.

Chris - ni fydd yn y coch - paid disgwyl i ddyn wy fel Criddle ddeall y pethau bach 'ma ;-)
sylw gan Blogger Gary, 3:53 pm  

Pob lwc gyda'r cwrdd! Dwi'n mynd i adio pwt bach ar rhithfro.com ar gyfer mwy o ddigwyddiadau fel hyn! Bydd rhaid i blogwyr Aberystwyth drefnu un, yfe nwdls?
sylw gan Blogger Aled, 5:05 pm  

14 o sylwadau (15 yn cynnwys hwn) a phob un eithr un mewn iaith Brythoneg. Croeso i ti ddod draw Blogel, tua 7:30 fydda ni'n cwrdd dwi'n meddwl.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:52 am  

Methu dod nos Lun yn anffodus ond ych chi ffansi peint nos Fercher wedi gem Azerbaijan?
Bydda i o gwmpas. Nawn i driop cwrdd. MOchgyn Du neu Cayo efallai, neu canol ddinas. Gall hwn fod yn Blog-gwrdd2!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:01 am  

Deunaw o sylwadau! Ai record yw hyn ar gyfer Gwenu Dan Fysiau?

Reit - manylion Blog Gwrdd 2 (off top fy mhen)... Clwb Ifor Bach am y ddiod draddodiadol cyn gem Cymru, wedyn trefniadau ar gyfer ar ol y gem i'w gwneud yn Clwb. Awe!
sylw gan Blogger cridlyn, 7:20 am  

Clwb cyn gêm - gwych!
Cofiwch ddod draw i ddweud helo gan mai Mr Criddle yw'r unig un ohonnoch rwy'n adnabod!
Na'i gario llun o mr Cope efo fi er mwyn ei adnabod!!
sylw gan Blogger Gary, 8:06 am  

Ha, ddangosith hyn i'r Imperialydd!

Reit - manylion Blog Gwrdd 2 (off top fy mhen)... Clwb Ifor Bach am y ddiod draddodiadol cyn gem Cymru, wedyn trefniadau ar gyfer ar ol y gem i'w gwneud yn Clwb. Awe!

Syniad da, welai chi 'na.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:28 am  

Clwb cyn gem amdani yn wir. Hwre!
sylw gan Blogger Siôn, 3:43 pm  

Gobeithio cewch noson dda a welwn mwy o ddigwyddiadau debyg i'r Blog Gwrdd yn y dyfodol.

Rwy'n gweithio o hanner dydd tan yn hwyr iawn dydd Llun ac felly bydd hi'n amhosib i mi ddod i'ch "blog-gwrdd".

Dymunaf pob lwc i Chris Cope yn ei gyfweliad gyda'r Ysgol Gymraeg.

D
sylw gan Anonymous Anonymous, 8:03 pm  

Gwrddais i Geraint a Dwlwen â Chris neithiwr, roedd o'n sgwrsio'n Gymraeg drwy'r nos dim problem.

Newydd gerdded i'r swyddfa rwan o chofio rhoi'r radio ymlaen fel oedd Hywel a Nia'n ei longyfarch ac yn cloi'r cyfweliad, hmph.

Mae o'n ganol ei gyfweliad rwan dwi'n meddwl.

Ella cei di gyfle i'w gwrdd nos Fercher, bydd o gwmpas Caerdydd cyn y gêm unai gyda Geraint yng Nglwb Ifor Bach, neu yn yr hen O'Neills gyda chwpwl o Bontypridd sy'n darllen ei flog Saesneg.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:52 am  

Gadawa sylw