tag:blogger.com,1999:blog-92912872024-03-07T07:56:59.547-01:00Gwenu dan FysiauLlawlyfr y Piwritan NewyddRhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.comBlogger577125tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-33005497510453686192013-01-14T13:35:00.000-01:002016-11-02T19:37:48.310-01:00Dw i wedi symudMeddwl basai'n werth pwyntio allan mod i wedi symud i www.gwenu.com.Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-63144505210350181702010-08-17T18:45:00.005-01:002010-08-18T19:42:34.619-01:00Fy meirniadaeth eisteddfodol mewn print (a rwan ar-lein)
Er mawr syndod gofynnwyd i mi feirniadu un o gystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mae beirniadu (a chystadlu ran hynny) yn beth gwbl newydd i mi, felly awgrymwyd fy mod yn edrych ar gopi o Gyfansoddiadau a Beirniadaeth blynyddoedd cynt i weld pa arddull i'w ddefnyddio a.y.y.b.

Doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfryn hwn, ac roedd yn reit diddorol, achos ar gyfer rhai cystadlaethau, roedd y darn buddugol hefyd yn cael ei gyhoeddi. Sylwais nad oedd fawr neb yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Baswn i falle wedi ceisio un neu ddau fy hun, ond wyddwn i ddim am eu bodolaeth.

Dyma un o wendidau'r Eisteddfod, sef nad yw lot o bethau fel y testunau ddim yn cael hyrwyddo'n dda iawn, felly mond eisteddfodwyr hard-core sy'n gwybod pryd a ble i edrych am restr testunau. Gan mod i mor vain, es i'r llyfrgell ddoe i weld fy meirniadaeth mewn print, a sylwais bod testunau Eisteddfod 2011 allan yn barod, ond does dom sôn am hyn y y wasg, mewn hysbysebion, ar gyfrif Twitter yr Eisteddfod nac ar adran newyddion eu gwefan hyd yn oed..

Mae teitl y gystadleuaeth a'r feirniadaeth islaw:

Blog gan unigolyn yn cynnwys o leiaf tri mewnbwn, dim mwy na 300
gair yr un: Lefel Agored

BEIRNIADAETH RHYS WYNNE

Cafwyd dim ond tri chynnig i’r gystadleuaeth hon a dau ohonynt gan yr un person. Efallai mai dryswch ynglŷn ag enw’r gystadleuaeth sy’n gyfrifol am y nifer isel yma, oherwydd beth yw blog ond cyfnodolyn ar-lein (daw’r enw o’r Saesneg, ‘web log’) ac nid darn o ysgrifen ar bapur. Cyflwynwyd y tri darn o waith ar ffurf dyddiadur, a’r tri yn ymwneud a theithiau y bu’r awdur arnynt.

Collen Fach: Roedd ‘AR y gwibdaith I Bortmeirion’ yn adrodd hanes gwibdaith o Sir Benfro i Bortmeirion a gafodd ei drefnu gan y Fenter Iaith leol. Mwynheais ddarllen am y daith gan fod y darn yn llawn disgrifiadau manwl ac yn fy atgoffa o wibdeithiau tebyg rwyf innau wedi bod arnynt. Yn anffodus, roedd nifer o wallau sillafu a chamdeipio, rhywbeth sy’n hawdd i’w hosgoi drwy ddefnyddio gwirydd sillafu. Roedd yna un neu ddwy idiom Saesneg wedi eu trosi’n anghywir; ‘ar gyrhaeddiad’ yn hytrach na ‘wedi cyrraedd’, a hefyd ‘o’r cwrs’ yn lle ‘wrth gwrs’ - ond fe ddaw hyn gydag ymarfer.

Fy mrawd: Dyma hanes taith Fy mrawd wrth iddo/iddi ymweld â dinas Belfast am dridiau. Nid ydym yn cael gwybod beth yn union yw diben yr ymweliad, ond o ddarllen rhwng y llinellau, dw i’n dyfalu taw cerddor yw Fy mrawd. Dros dri chofnod, un ar gyfer pob diwrnod o’r ymweliad, cawn ein cyflwyno i sawl rhan o ddinas Belfast ac ambell i gymeriad mae Fy mrawd yn cwrdd â nhw - sawl un yn bobl adnabyddus ac yn gysylltiedig â’r Trafferthion mewn un ffordd neu’r llall.
Ychydig iawn o wallau sydd, ac unwaith eto byddai gwirydd sillafu wedi mai ‘Dulyn’ yw’r sillafiad cywir, ac nid ‘Dulun’. Byddai’n ddiddorol gweld cofnod blog ar gyfer y daith hon, gan y byddai modd wedyn rhoi dolen at wefannau eraill i roi mwy o gefndir (e.e., ni esboniwyd mai gŵyl gerddorol yw Féile ân Earraigh).

Collen Fach: Dyma ail gais Collen Fach, ac yn ‘Ysgol Pasg - Amser Arbennig’ cawn hanes yr awdur yn mynychu Ysgol Undydd yn y coleg lleol. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd cymryd mantais o bob cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ac adolygu beth a ddysgwyd yn ystod gwersi arferol. Cawn wybod pa fath o ymarferion sy’n cael eu gwneud ar gwrs penwythnos, a hefyd pwy arall o ddosbarth Collen Fach sy’n manteisio ar y gwersi ychwanegol hyn (neb y tro hwn, er mae digon o ddysgwyr eraill yno.) Unwaith eto, mae ambell enghraifft o gamdeipio a chamsillafu yn y darn hwn.

Dw i am roi’r wobr gyntaf i Fy mrawd. Nid am safon uchel a chywirdeb y Gymraeg, ond hefyd gan fod gan Fy mrawd y gallu i adrodd stori mewn ffordd mor ddarllenadwy. Diolch i’r ddau ymgeisydd.
Nid clod ffug yw'r uchod, mi roedd darn buddugol Fy mrawd (Les Barker o Fwlchgwyn, ger Wrecsam) yn wirioneddol ddifyr. Digwydd i mi sylwi heddiw bod blog Golwg 360 hefyd wedi cyhoeddi darn buddugol y gystadleuaeth ar gyfer trigolion y Wladfa. Oes rhywun yn gwybod am waith buddugol arall sydd wedi ei gyhoeddi ar lein?

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com6tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-35181937272226226412010-07-28T11:40:00.004-01:002010-07-28T12:28:27.501-01:00Clod i Lyfrgell Canolog Caerdydd
Efallai mai un o'r rhesymau nad oes cymaint o Lyfrau Cymraeg yn cael eu benthyg o lyfrgelloedd Caerdydd (o'i gymhau a'r rhai Saesneg) yw bod darllenwyr Cymraeg yn cael eu difetha'n llwyr gan yr holl cylchgronnau Cymraeg (a Chymreig) sydd i'w cael yno i'w darllen (ond na ellir eu benthyg).

Pan nad ydw i'n treulio fy amser cinio'n teipio'n wyllt ar eu niferus gyfrifiaduron (fel ydw i rwan), dw i ar lawr uchaf y Llyfrgell Ganolog yn pori drwy'r cylchgronnau - wyddwn i ddim bod cymaint o rai Cymraeg a Chymreig ar gael. Fel arfer bydda i'n darllen Golwg (cy), Y Traethodydd (cy), Llafar Gwlad (cy), Welsh Football (en), a Planet (en). Mae copiau o Barn a'r Faner Newyd i gael yna hefyd, ond dw i'n prynu'r rheini fy hun. Hefyd mae Y Cymro ar gael yna ac ymddengys bod gan pob enwad Cristnogol yng Nghymru eu cylchgrawn eu hunain, ond does dim diddordeb gyda fi yn y rhain.

Os nad ydych yn darllen cylchgonau Cymraeg, hoffwn eich pwynti i gyfeirad rhifynnau presenol dau gylchgrawn:

Mae gan Llafar Gwlad erthygl ddifyr am enwau Cymraeg yn y Wladfa - trafodir sut parhaodd y Cymry yno i roi enwau Cymraeg i'w plant tra daeth yn ffasinol yn Nghymru ar ddechrau'r ganrif diwetha i roi enwau bedydd Saesneg i'w plant, sut datblygodd enwau Cymraeg unigryw ar gyfer y Wladfa, sut bu i enwau Cymraeg gael eu gwahardd, ac er nad yw enwau Cymraeg wedi eu gwahardd bellach, mae yna gyfyngiad yn Yr Ariannin ar ba enwau y cewch roi ar eich plant.

Dw i heb ddarllen Planet ers sbel, ond mae ambell eitem ddifyr yn y rhifyn diwethaf

The Exchange - ebyst agored rhwng Julie Morgan AS, Nick Bounre a Cynnog Dafis yn trafod y glymblaid y San Steffa a'r goblygiadau i Gymru a'r DG.
Keywords - Cyfres newydd yn edrych ar air Cymraeg penodol pob mis, ei wahanol ystyr a sut all amrwyio'n sylweddol o'r ystyr Saesneg.
Queen of Camouflage: The UK and the Rule of Law - Ddim bod hyn yn newydd i'r mwyafrif ohonoch, ond mae Tim Richards yn amlygu'r potes maip llwyr sef cyfansoddiad (neu ddiffyg cyfansoddiad) y Deyrnas Gyfunol a'i goblygiadau i ni fel unigolion. Mae'n waeth na da ni'n feddwl!

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com4tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-68301270852612371762010-05-17T13:05:00.002-01:002010-05-17T13:37:49.432-01:00Openbook - dangos bod Facebook llawn cachu.
Mae Openbook yn ceisio amlygu newidiadu i osodiadau preifatrwydd ar Facebook, (manylion ar ffurf siart handi yma) sy'n golygu bob mwy a mwy o fanylion amdanoch chi'n cael eu gwneud yn hysbys i eraill yn ddiarwybod i chi.

Yn y gorffenol, roedd unai angen bod yn ffrind gyda rhywun i fod yn gallu gweld eu proffil a darllen eu negeseuon, neu o leiaf roedd rhaid bod cyfrif gyda chi a'ch bod chi wedi mewngofnodi. Ddim bellach, ac mae Openbook yn dangos canlyniadau searches am gymalau mewn brawddeg a all fod yn o embaras i bobl. Pethau fel "i'm not racist but", "boss is an asshole" ayyb.

Er mwyn cael slant Cymraeg, es i am yr opsiwn syml a jyst teipio 'cachu' i mewn. Mae'n debyg bod Cachu yn gyfenw poblogaidd ac yn ymddangos mewn sawl iaith arall (gol. newydd syleddoli beth ydy'r holl "coo coo cachu"), ond roedd ambell neges Gymraeg - pob un yn ddoniol i'r person anaeddfed (fel fi). Dyma rai o'r clasuron:

Hwbla di cachu yn trons ha ha hwbla!!

cachu ci, cachu cath, cahcu MONICA LOT YN WATH!!

Sian catherin jones bobl eraill sydd yn galw t yn sian cachu, dim v. Just gofyn oni.

Waw im so not happy with channel 1 ia....malu cachu leadio ni ar ta be!! Di eastenders ddim even ar wan mwudro!!!

rhaid i rachel stopio cachu ia,dir babi myn stopio crio a ma v a paul yn marwn drws cefyn hahahahahaha

hwyl yn gdnin club heddiw efo siwan, sam a rhys!!! lol!!! mynd ar to wedyn siwan yn cachu ei hun a nath o fynd trwy ei overalls gwyn!!!! RHYS YN NASTY!!! TAFLU T.BAG GWAG AR YSGWYDD V!!!! lol

Falle bo chi'n meddwl mai gwastaff llwyr oedd yr ymarferiad yma. Wel chi'n rong, dois i ar draws dolen at Radio Cachu ar YouTube. Plentynaidd ond 10 mundud o lol holloll ddoniol. Dw i'n dechrau dod i'r casgliad mai mond pobl ochre Caernarfon sy'n defnyddio Facebook, ond hir oes hynny.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com4tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-23318570341981075572010-04-05T19:38:00.003-01:002010-04-05T19:47:21.568-01:00ydy Ceidwardwyr Gorllewin #Caerdydd yn ceisio cam arwain pobl?
Mae'r tafelnni etholiadol yn dechrau cyrraedd, (rhai ailgysylltu'r scanner a'u uwchlwytho at The Straight Choice), a dwi newydd dderbyn y trydydd un gan Geidwadwyr Gorllewin Caerdydd, a'r ail un uniaith Saesneg.

Y prif bwnc ar y daflen yw'r NHS a beth mae David Cameron am wneud iddo ar ôl yr etholiad, er fod o'n fater sydd wedi ei ddatganoli. Dw i'n cymeryd bod nhw'n ymwybodol o hyn, ond falle'n gobeithio nad yw'r etholwyr twp yn deall na fydd gan Aelodau Seneddol ddim dylanwad ar bolisiau iechyd tng Nghymru.

Yn ail, mae'r ymgeisydd yn dweud ei bod yn byw yn Riverside, er mod i'n gwybod ei bod hi'n byw ym Mhontcanna. Pam sgwn i?

Gyda'r holl sôn wleidyddion yn ceisio cam-arwain a thwyllo'r cyhoedd, basech chi'n disgwyl i ddarpar Aelod Seneddol geisio dangos ei bod hi'n wahanol. O wel, mwy o'r un peth felly.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-31384318193828201972010-04-03T09:36:00.004-01:002010-04-03T13:20:29.455-01:00Pethe da ar S4C (nid cofnod ffwl Ebrill hwyr mo hwn) a'r genre llyfrau teithio Cymraeg.
Gyda chymaint o raglenni angrhedadwy o sâl yn ymddangos ar S4C ar hyn o bryd (Dathlu a Cyfnewid e.e.) mae'n braf gweld Pethe, sy'n trafod, wel, y Pethe, ond nid mewn ffordd hen ffasiwn. Mae ganddyn nhw wefan reit da, sydd a rhestr (anghyflawn) o hen eitemau ac mae blog sy'n cael ei ddiweddaru'n reit cyson. Maen nhw hefyd wedi creu cyfrifon Flickr a Vimeo, ond mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio am yr rhain.

Roedd rhifyn wythnos yma werth ei weld jyst am yr erthygl llysenwau - roedd rhai am drigolion Pesda'n uffern o ddoniol.

Un eitem wnes i fwynhau'n fawr oedd un am Lyfrau Taith T. Ifor Rees. Yn yr eitem maen nhw'n trafod traddodiad o lyfrau teithio Cymraeg. Mae llyfrau teithio (travel writing) a thywyslyfrau (guidebooks) yn ddau beth gwahanol, ond dw i ddim yn meddwl bod yna ddewis mawr o'r ddau fath yn Gymraeg. Mae llyfrau T. Ifor Rees am nifer o deithiau a fu arnynt ar draws de America yn hanner cynta'r 20fed ganrif tra'n lysgynhenad i Brydaun yn y rhanbarth. Dw i eisoes wedi prynu un o'i lyfrau yn ail-law drwy Amazon, ond heb ei ddarllen eto.

Mae gyda fi ddau dywyslyfr Cymraeg, Y Wladfa yn dy boced, a Iwerddon:Llawlyfr teithio i'r Cymry Cymraeg. Liciwn i ddarllen Pobl Drws Nesa - Taith fusneslud drwy Iwerddon a Taith i Awstralia. Yn ogystal a llyfrau Bethan Gwanas a Diolch i 'Nhrwyn gan Arwel Rocet Jones, all rhywun feddwl am un rhyw lyfrau teithio neu thywyslyfrau eraill Cymraeg?
Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com6tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-90976367510101429422010-03-19T17:22:00.007-01:002010-03-22T12:42:37.943-01:00Let's all say 'bore da' to shy Dave
Yr uchod yw teitl llythyr a ymddangosodd yn y Denbighshire Free Press rhai wythnosau'n ôl

An interesting sequel to your letter sequel to your letter from the Welsh language learner (Free Press, December 17) who complained about Morrisons' "contempt of out language" was my experience at the store last month.
Requiring some assistance with the vegetables, I asked in Welsh for some help from an attendant, Dave,but was answered with the blunt command, "English!"
Surprised by his response, I apologised by saying that I didn't realise he couldn't speak Welsh, and was then astonished at his reply: "Yes i do speak Welsh, but don't want to do so."
In case this was due to lack of confidence on his part, having presumably been expected to speak English for some years at his place of work, can I ask all your Welsh-speaking readers who shop at Morrisons' to help Dave by going to him and address him kindly in Welsh.
I'm sure their assistance will help Dave to overcome his inferiority complex and regain the confidence required to use his suppressed ability to speak Welsh.
This could be a New Year's resolution for all us Welsh shoppers... and Dave.

LEAH JONES
Prion
Dinbych

Mae Leah'n gymdoges i'm rhieni ac yn wraig i Eifion Lloyd Jones, sydd hefyd yn un nad iw'n ofn dweud y caswir pan mae cenedlaetholwyr eraill ofn pechu (er, dwi dim yn siwr os yw'n haeddu Fan Page ar Facebook chwaith!).

Ta waeth, dw i'n meddwl bod tôn y llythyr yn ardderchog, ac yn wahanol iawn i ymateb cwsmeriad eraill sydd wedi eu sarhau am ddefnyddio'r Gymraeg mewn ddigwyddiadau tebyg yn ddiweddar (fel yn Blacks ym Metws y Coed a Spar ym Mlaenau Ffestiniog), ble aeth y sawl a bechwyd at Gymdeithas yr Iaith a hwythau wedyn yn gweiddi "Hawliau!" gan weithiau fethu'r pwynt.

Er mod i'n siwr bod Leah'n gandryll mae hi'n llwyddo i osgoi ymosod ar y 'Dave', ac er nad o'n i'n siwr ar y dechrau os oedd yn deg cynnwys ei enw yn y llythyr, mae'n amlwg mai nid Dave ei hun yw'r 'broblem' na tharged y llythyr. Beth sydd gyda ni yw sefyllfa sy'n arwain at ddyn (ifanc dw i'n ddychmygu), sydd â'r gallu i siarad Cymraeg, yn penderfynnu nad yw e eisiau gwneud hynny, ac nid yn unig hynny, tydy o ddim yn credu y dylai neb arall wneud chwaith.

Beth sy'n gwneud agwedd o'r fan yn waeth ydy natur ieithyddol Dinbych:
-Dinbych Ucha/Henllan 36% yn gallu siaradCymraeg

-Dinbych Ganol 37%
-Dinbych Isaf 44%

a'r pedair ward sy'n amgylchynu'r dref:
-Llansannan (sir Conwy) 65%
-Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch 59%
-Llandyrnog 41%
-Trefnant 33%

(cyfrifiad 2001)

Am ryw reswm, mae Dave, fel sawl un arall wedi cael i'w ben nad oes gwerth i'r iaith a'i fod yn amherthnasol iddo fo a'r gymuned. Mae meddylfryd o'r fath yn ganlyniad i ffactorau cymdeithasol cymhleth sydd, ac ni ellid eu newid dros nos, ac a dweud y gwir ni fyddai unrhwy ddeddfau iaith newydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i hyn.

Nid ceisio lladd ar Gymdeithas yr Iaith ydw i na dadlau yn erbyn unrhyw welliannau i'r Ddeddf iaith bresenol/Mesur iaith arfaethig (dw i o blaid y ddau beth), ond os rhywbeth, mae pethau pwysicach i'w gwneud i adennill statws 'llawr gwlad' i'r iaith, ac mae llythyr Leah'n enghraifft dda o'r tacteg o amlygu sefyllfa leol, ac hefyd awgrymu bod gan siaradwyr Cymraeg rol ymarferol i'w chwarae.
Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-14860882847439165952010-03-19T12:20:00.003-01:002010-03-19T17:22:06.255-01:00Torri'r gyfraith wrth dorri syched ieuenctid Sir DdinbychAr ymweliad diweddar i'r gogledd gwelais erthygl yn y Daily Post o dan y pennawd Pubs caught selling alcohol to underage drinkers forced to shut over Easter.

Cafodd 11 o dafarndai eu gorfodi i gau am ddeuddydd, chwech ohonynt yn Ninbych.

A major operation to crack down on underage drinking yesterday saw a staggering 11 pubs in Ruthin, Denbigh and Llanfair DC ordered to close their doors for two days.

Test purchasers, all girls aged 15 and 16, were sent to try to buy alcoholic drinks in December and January, supervised by undercover police.

Er mod i'n ysytyried fy hun yn reit rhyddfrydol, rhaid i mi gyfaddef fod yna stric reit ceidwadol ('c' fach cofiwch) yn mynd trwyddfa fi weithiau, a dw i yn credu mewn rhyw gymaint o gyfraith a threfn, ac yn credu bod gosod isafswm oed cyn y gellid prynnu alcohol yn beth doeth.

Ond wedi dweud hynny, ble oeddwn i pan yn 17 oed, ond yn llymentian yn yr union dafarndai yn Ninbych sydd wedi eu cosbi, felly byddwn i braidd yn ragrithiol yn deud, "Eitha reit, taflwch yr allweddi i ffwrdd!". Mae yfed dan oed yn 'right of passage' bron, ac er na ddylid ei annog, dw i'n meddwl bod o'n reit anheg bod hedldu yn mynd ati'n fwriadol i geisio twyllo'r tafarnwyr. Ydy entrapment yn dacteg moesol i ddal rhywun allan, yn arbennig gyda 'trosedd' fel hyn?

O'i gymharu a threfi bach cefn gwlad, dw i ddim yn meddwl bod yfed dan oed yn rhywbeth mor amlwg yng nghanol dinas Caerdydd (er gall yfed dan oed ar strydoedd y maestrefi fod yn waeth), ond hyd yn oed wedyn, tydy'r rhai dros 18 ddim fel tasen nhw'n gallu dal eu cwrw ar St Mary's Street.Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-45904138137510576082010-03-17T16:50:00.003-01:002010-03-17T17:18:14.116-01:00Noson Cwis a Bingo, Glyn Ebwy 26.3.10Nos Wener 26ain o Fawrth am 7pm
Friday evening 26th of March at 7pm

yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy
at Ebbw Vale Rugby Club

Suitable for Welsh speakers of all levels

Mwy o wybodaeth / more infoRhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-25157691970667955882010-01-30T22:18:00.003-01:002010-01-30T23:42:09.302-01:00Wedi Hacio'r Iaith
Ychydig yn ddistaw fu'r blogio byw o hacio'r iaith (er bu digonedd o drydar), felly dyma rai sylwadau am y diwrnod o'r sesiynau y mynychais i.

1. SaySomethingWelsh gan Aran ac Adnoddau i Ddysgwyr gan Neal (clip fideo)
Soniodd Aran am y syniadaeth y tu cefn i'r wefan boblogaidd SaySomethingWelsh, y rhesymeg dros gynnig y gwasanaeth am ddim, sut mae cymuned glos wedi datblygu ymysg defnyddiwyr gyda chanlyniadau annisgwyl, fel rhaglenwr gwe sy'n defnyddio'r wefan i ddysgu yn cynnig creu meddalwedd iddynt am ddim fel ffordd o ddiolch.
Siaradod Neal am yr ategolyn iPhone ar gyfer dysgyr, beth mae'n gallu ei wneud a beth elli'r ei ddisgywl yn y dyfodol. Mi sbardunodd y cyflwyniadau yma drafodaeth pellach gyda'r gynulleidfa yn rhannu eu syniadau a rhai sy'n gweithio yn y maes Cymraeg i Oedolion rannu eu profiadau nhw.

2. Ail-lawnsiad gwefan meddal.com
Wrth sgwennu hwn, tydy'r wefan newydd ddim yn fyw eto, ond cawsom gipolwg ar y wefan ar ei newydd wedd, sy'n edrych yn drawiadol iawn ar WordPress. Gobeithio bydd hyn n arwain at fwy o fobl yn gwenud defnydd o waith cael y criw tu cefn i'r wefan.

3. SALT Cymru
Dyma un o noddwyr y dydd, a cawsom esboniad o beth SALT yn ei gynnig (cynnig cyngor ym maes Technolegau Llais a Lleferydd). Eto, cawso gip ar wefan newydd a fydd yn defnyddio WorPress, a cawson arddangosfa cyflym o'r plugin amlieithrwydd wpml.

4. llennatur.com
Mae Llen Natur yn wefan gan Gymdeithas Edward Llwyd er mwyn rhannu eu holl wybodaeth, data, delweddau a rhestrau termau gyda'r byd i gyd. Des ar draws eu gwefan ar hap tua pythefnos yn ôl, ac fe wahoddais i nhw i Hacio'r iaith. Ces ymateb brwdfrydig yn ôl o fewn yr awr ac mi gawsom ni arddangosfa trylwyr o'r wefan, er dw i'n siwr i ni ond weld ffracsiwn o beth oedd sydd ar gael. Da chi, ewch arni a dilyn yr holl ddoleni. Dw i'n hoff iawn o'r stwnsh googlemaps yn yr adran mapiau.

7. Fy ngwefan WordPress cyntaf.
Unig sesiwn 'dwylo budur' y diwrnod yn anfodus, gyda Carl Morris yn dangos i'r ofnus ohonom pa mor syml yw sefydlu gwefan/blog eich hun yn defnyddio WordPress.org.

6. Lleoleiddio
Bues i ac Iwan Stanley yn arwain trafodaeht am leoleiddio (er, Iwan wnaeth y rhan fwya o'r siarad), y gwahanol ffyrdd o'i wneud, yr anhawsterau sy'n gallu codi ayyb.

7. Civilization IV ar gael yn Gymraeg
Fel rhan o'i Masters, dyma Gruffydd Prys yn lleoddeiddio'r gêm gyfrifiadurol Civilization IV i'r Gymraeg. Un o'i resyma dros ddewis hyn (heblaw am yr esgus i chwarae'r gêm rownd y rîl) odd bod llawer o'r geiriau sy'n codi yn y gêm yn rai sydd yn ymddngos ar y Termiadur, ac efallai byddai chwarae'r gêm yn fodd o ehangu geirfa Cymraeg pobl ifanc.
Cododd bwynt da bod gemau cyfrifiadurol yn ran mor anatod o fywyd pobl ifanc, bod angen gwneud mwy i sicrhau nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn iaith amherthnasol yn y byd cyfoes yn llygiad yr ifanc. Mwy o wybodaeth yma.

Methais sawl sesiwn arall oedd yn mynd ymlaen yr un pryd, fel trafodaeth agored am Golwg360, podlediad byw Metastwnsh (o flaen cynulleidfa fyw!) a llawer mwy.

Diolch i Rhodri am ei waith caled yn trefnu'r dydd ac i bawd wnaeth droi fyny i wneud yr holl beth yn llwyddiant. Rydym wedi dysgu tipyn ar gyfer digwyddiad o'r fath eto yn y dyfodol - gobeithio y gwela i chi yno.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-52209081190620565742010-01-10T16:28:00.006-01:002010-01-21T20:40:15.106-01:00Digwyddiad 'Hacio'r Iaith' llai nai thair wythnos i ffwrdd.
Bydda i'n mynd i Aberystwyth ar y 30ain o'r mis hwn ar gyfer digwyddiad o'r enw Hacio'r Iaith (diolch i Carl am greu'r wefan, ac i Iestyn am y poster).

Mae hanner cynta'r diwrnod yn cymryd ffurf BarCamp, sef unconfrence, hynny yw math o gynhadledd cwbl anffurfiol ble mae croeso i unrhwy un ei fynychu ac hefyd, yn ddelfrydol, mae pawb yn cyfrannu ato. thema'r digwyddiad yw Y Gymraeg a Thechnoleg.

Fel dwedais i, mae croeso i unrhwyn fynychu (ac mae am ddim, diolch i noddwyr caredig), er dim ond lle i 30 o fobl sydd, ac mae 22 eisoes wedi dweud eu bod am ddod ar y wiki.

Oherwydd fformat y dydd, bydd pawb yno'n diddorol a dylanwadol, ond ymysg y mynychwyr bydd cyfle i hobnobio gyda:

-Pennaeth Golwg360
-Nifer o staff Canolfan Bedwyr (yn trafod eu prosiectau -gwaith a prosectau amser sbar)
-Unigolyn sy'n gweithio ar y BBC iPlayer

Mae cyfle i bawb wneud cyflwyniad hyd at 20 munud am bwnc perthnasol o'u dewis, a dw i'n ystyried y canlynol
-Wicipedia Cymraeg
-Cymraeg i Odeolion (e-ddysgu a rhywdwiethio cymdeithasol)
-Gwefannau mewn ieithoedd lleafrifol

Yn y prynhawn byddwn yn dilyn fformat HackDay (nau 'HacBnawn' o leia) lle byddwn yn ceisio creu rhywbeth yn defnyddio data agored. Dwi wedi bod yn dilyn dolenni delicious rhywun o'r enw Hyfforddwr. Mae wedi casglu rhai diddorol am fapio, ystadegau a visualizations. Sgynna i ddim syniad pwy ydy o neu hi, na sut i gysylltu â fo/hi, ond byddai'n gret ei weld/gweld yn Aber i roi help llaw.
Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-74803141096339550042009-12-10T20:10:00.001-01:002009-12-10T21:21:21.094-01:00Blogiau galore
Un ffordd da o waredu'r 'euogrwydd' o beidio blogio'n rheolaidd yw drwy restru blogiau Cymraeg newydd sy'n ymddangos.

O Bell - blog DJ yn Melboure a gafodd ei eni a'i fagu yn Lloegr ond sy'n rhugl yn y Gymraeg. Cofnodion amrywiol am wleidyddiaeth, chwaraeon a diwylliant Awstralia.

Blog Guto Dafydd - Dyma yw trît, blog deallusol gyda chofnodion llawn cic, am wlediyddiaeth yn amlach na dim - er nid pob tro, ond sy'n hynod hawdd e darllen.

Storïau Tir Du (a.k.a Blog mam Guto Dafydd) - Blog Siân yw hwn, sy'n trafod pynciau tebyg i Guto. Dw i'n edrych ymlaen i weld sut mae hwn yn datblygu.

Sothach Cymru - Ychydig yn wahanol i'r uchod, ond mae'r enw'n dweud y cyfan. Blog yn dued hi fel y mai am slebs tew di-dalent Cymru (ac adolygiadau fferins).

Y Twll - Cylchgrawn ar-lein yw hwn. Dim ond dau erthygl sydd arno hyd yma, ond maent yn rhai swmpus a difyr. Mae'r ddau hefyd yn digywdd bod am bynciau arty (ffilmiau ac electronica ), ond dw i'n meddwl bod fi'n iawn i ddweud bod croeso i bobl gyfrannu erthyglau am ystod eang o bynciau.

Quixotic Quisling - Mae Carl (un o'r bois tu cefn i Sleeveface) nawr yn blogio'n Gymraeg am yn ail a chofnodion Saenseg ar ei flog hynnod ddifyr. Hei, Carl, beth am greu caregori newydd 'Cymraeg' fel bod ganddyn dy gofnodion Cymraeg eu RSS eu hunain er mwyn eu hychwnaegu at y Blogiadur?

O, a tra dw i'n cofio, mae Carl a Rhodri Nwdls (a fi sort of) yn trefnu digwyddiad o'r enw Hacio'r Iaith. Ewch draw i'r wiki i weld beth fydd yn digwydd a cymerwch ran.

Neb O Nebo - Blog gan Alun yn trafod lot o stwff amrywiol.

Blog Malu Cachu - Mae'r wefan eiconig yma ar fi'n cael ei hailwampio, ac mae Suw (o'r boi Carl yna eto) wedi dechrau blog Saesneg ar y cyd yn trafod dysgu Cymraeg.

Y Dysgwr Araf - Ddim yn flog newydd, ond efallai'n newydd i rai gan ddysgwr o'r canolbarth. Mae'r boi yn licio'i fiwsig Cymraeg ac yn llwyddo i fynychu ambell gig/gwyl Cymraeg er ei fod yn byw yn Llandrindod (neu rhywle felly).

Draig Wen - Blog derwydd yn Llundain

Cymry'r Canolbarth - Canolbarth lloegr hynny yw.

Off fy nhen ar draws Cymru - Go iawn dw i'n meddwl! Dw i'n dyfalu mai casgliad o bookmarks ydy hwn, ond difyr yr un fath.

Diddorol yw nodi (wel, i fi eniwe), heblaw am y tri diwetha, mae'r blogiau newydd eraill i gyd yn defnyddio WordPress.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com3tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-66323826900443491202009-10-28T19:28:00.004-01:002009-10-28T20:49:43.097-01:00Oi, Gwynfryn! Noooooooooo
Esgusodwch fi tra dw i'n newid i mewn i fy nghostiwm spandex ' Mr Pedant'.

Dyna welliant.

Prynnias i gopi o Golwg yr wythnos diwethaf (Hydref 15). Rhaid i mi ddeud mae yna ambell i beth reit diddordol ynddo. Mae colofn Mike Parker yn werth ei ddarllen pob tro, er alla i ddim dweud yr un peth am rai o'r colofnwyr eraill. Dau golofn a dynnodd fy sylw i yn y rhifyn yma oedd un Angharad Mair a oedd yn reit feirniadol o ddefnyddiwyr maes-e ac un gan Hywel Gwynfryn yn trafod 'hanes' blogio.

Fel y gwyddoch (neu mwy na thebyg, fel na wyddoch), mae BBC Cymru yn cynnal 5 blog Cymraeg. Mae pob un yn dra wahanol, Ar y Marc (yn trafod pêl-droed), Vaughan Roderick (gwleidyddiaeth), C2 (cerddoriaeth), Blog Cylchgrawn (y pethe) ac un Hywel Gwynfryn (malu cachu Radio Cymru-aidd, ond gyda LOT o luniau).

Mae ansawdd y gwahanol flogiau yn amrywio hefyd. Er mai pêl-droed yw fy nileit mwyaf i, credaf mai blog Ar y Marc yw'r salaf, mae'n cael ei ddiweddaru'n anghyson, ar cynnwys yn reit arwynebol. Mae blog C2 yn reit bywiog ac mae sawl cyfranwr iddo, ac mae ganddo botensial gwych i allu rhestru playslists a rhoi rhaglfas o raglenni'r dyfodol, ond am ryw reswm dw i braidd byth yn yn ei ddarllen. Mae Blog y Cylchgrawn yn cael ei ddiweddaru'n gyson , mae'r cofnodion yn amrywiol ac yn gynhwysfawr, ac eto tydy o ddim cweit at fy nant i. Un peth sy'n gyffredin am y tri yma yw does neb yn gadael sylwadau, tra ar y llaw arall blog Vaughan Roderick yn ddi-os yw y blog Cymraeg mwyaf poblogiadd o ran darllenwyr ac o ran faint sy'n gadael sylwadau, a chi'n cael yr argraff ei fod yn wir mwynhau blogio ac ymateb i sylwadau eraill, rhywbeth holl bwysig.

Ond y blog sydd wedi fy synnu i yw un Hywel Gwynfryn, mae o wedi cymryd at flogio gyda argyhoeddiad. Mae'n blogio'n rheolaidd a hefyd mae o leaif un llun gyda phob cofnod (weithiau hyd at bump).

Yn ôl at bwynt y cofnod yma. Yn ei golofn yn Golwg mae Mr G yn nodi bod y gair 'blog' yn dalfariad o 'web+log' ac mai diffiniad 'swyddogol' am flog yw
Dyddiadur personol, sy'n cynnwys sylwadau diddorol ac yn adlewyrchu diddordeb y blogar [sic]
Mae'n dilyn y dyfniad yma (ond ddim yn nodi o ble daw'r diffiniad) gyda

Felly, roedd Capten Cook yn cadw blog
Mae'n dod i'r casgliad yma dw i'n meddwl achos roedd Capten Cook yn cadw log, a'u bod nhw wedi cael eu ddigideiddio (er na nodwyd URL yn golofn) . Iesu, sôn am ddryswch.

Roedd colofn Angharad Mair yn gwneud llawer mwy o synnwyr. Teitl ei cholofn oedd Mae'n bryd rhoi gorau i'r ffug enw. Mae hi'n dechrau i ffwrdd drwy ddweud na oes ganddi ddim diddordeb yn Twitter, Facebook na MySpace, sy'n ddigon teg a rhesymol. Mae hi wedyn yn cyfeirio at stori ddiddorol (nad oeddwn i'n gyfarwydd a hi), ble wnaeth model o'r enw Liskula Cohen ennill achos llys oedd yn gorfodi Google i ddatgelu pwy oedd y person fu'n blogio'n ddienw gan gan ei galw hi'n bob math o enwau ffiaidd. Mae'n debyg bod Angharad yn gallu uniaethu a'r stori, gan iddi hefyd ysgrifennu

Mae maes-e ers blynyddoedd wedi bod yn gorlifo o sothach gwenwynig a phlentynaidd. Onid yw hi'n hen bryd i ni yng Nghymru i dyfu i fyny?
Dw i'n cytuno mai peth diflas iawn yw'r busnes yma o bobl yn mynd ar-lein yn ddienw a phostio pethau digon cas am bobl (enwog fel arfer) ac mae tipyn o hyn yn digwydd ar maes-e yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion cymedrolwyr i atal/ddileu hyn. Er teimlaf bod Angharad yn lladd gormod ar y cyfrwng yn hytrach na'r cynnwys, ac hefyd rhaid cofio fe gewch chi grancs cenfigenus ymhob man mewn bywyd.

Byddai'n ddiddorol hefyd gwybod beth yw barn Angharad am golofn 'Jac Codi Baw' (nid ei enw go iawn!) yng nghefn Golwg, sydd yn yr union rifyn yn ac y mae Angharad wedi ysgrifennu'r uchod, yn nodi iddo fod yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon yr un pryd a chystadleuwyr Fferm Ffactor, a bod sawl un ohonynt wedi bod yn 'or-gyfeillgar' a'i gilydd.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com4tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-79694580380079941252009-10-02T09:17:00.004-01:002009-10-02T09:29:24.045-01:00Yn eisiau: Siaradwyr Cymraeg yn ardal Caerdydd ar gyfer Cynllun PontioEfallai bydd hwn o ddiddordeb i chi os ydych chi'n byw yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau:

Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg eisiau gwirfoddolwyr i ymweld â llu o’i dosbarthiadau er mwyn helpu dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg ar eu taith i ddysgu’r iaith. Mae cynnal sgwrs â Chymry Cymraeg yn beth fuddiol iawn i ddysgwyr ac felly byddwn wir yn gwerthfawrogi eich help chi!

Dych chi’n gallu dewis faint o ddosbarthiadau dych chi’n ymweld â nhw. Gallwch ymweld ag un yn unig neu lan at 20. Does dim ots! Byddwch yn derbyn tâl o £20 bob tro dych chi’n gwneud hefyd a dim ond tua awr neu’n llai bydd y sesiynau yn para bob tro!
Os hoffech fod yn rhan o'r Cynllun Pontio cwblhewch yr holiadur a'i anfon yn ôl at Gwenllian Willis, Canolfan Cymraeg i Oedolion, Adran y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd, Colum Road, Caerdydd , CF10 3EU.

Gwenllian

Gwenllian Willis
Swyddog Dysgu Anffurfiol / Informal Learning Officer
Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg
Cardiff & the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre
029 20 876 451
www.learnwelsh.co.uk

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-5809154270990405702009-08-31T06:54:00.002-01:002009-08-31T07:12:48.311-01:00Blogiau 'newydd'.Newydd i fi ta beth.

Dw i'n ceidio peidio ychwanegu mwy o flogiau at fy rhestr bloglines, achos mae'n amhosib dilyn popeth, ond dw i wedi ychwanegu'r canlynol yn ddiweddar:

Iaith a Thechnoleg
Young, Single, Multilingual - blog gan ŵr o'r Weriniaeth Siec sy'n byw yn Iwerddon ac yn gyfrifil am wefan Focal.ie

Pêl-droed
Pitch Invasion - erthyglau trylwyr ar byth sy'n mynd ymlaen ar ac oddi ar y cae gyda chlybiau'r MLS (UDA) a chynghreiriau Ewrop, ac hefyd round up o Ogledd America ac Ewrop.
TwoHundredPercent - eto, erthyglau manwl yn trafod pynciau llosg yn ymwneyd â phêl-droed yn Lloegr yn bennaf gyda llawer o sylw yn ael ei roi i'r adrannau is a non-league.

O'r Alban
Tocasaid - dyma'r blurb: A blog about and promoting whisky, politics, philosophy and Gaelic culture. A natural combination. Oes rhaid dweud mwy?

Cymru
WalesHome - datblygiad cyffrous i'r byd cyfryngau yng Nghymru bel mae nifer o gyfrannwyr gwahanol yn trafod gwleidyddiaeth yn bennaf.

Yn Gymraeg
Does dim lot o bethau newydd yn digwdd yn y byd blogio Cymraeg, ond dw i'n mynhau cofnodion diweddar Emma Rees yn adrodd hanes ei hymweliad â gogledd orllewin Cymru.
Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-58916166567612704332009-08-26T19:52:00.003-01:002009-08-26T20:21:57.223-01:00Fy enw i ydw Rhys a dw i'n gwylio Come Dine With Me
Dw i fel arfer yn eithafol o snobyddyddlyd pan mae'n dod i raglenni teledu, yn enwedig rhai trashy, ond allai'm stopio gwylio Come Dine With Me. Dois ar ei draws ar ryw sianel Freeview pan oedd rhaglenni'n cael eu hail ddangos. Mae'r fformat yn un da, 4/5 dieithryn yn coginio pryd tri cwrs i'w gilydd yn eu cartrefi eu hunain, ac yn marcio ei gilydd yn gyfrinachol. Nid dim ond y bwyd, ond hefyd y lletygarwch sy'n cael ei farcio ac mae'r person gyda'r marciau uchaf ar y diwedd yn cael £1,000. Ond uchafbwynt y rhaglen heb os yw sylwadau y dyn voice over, Dave Lamb.

Fel dwedais i, ailddangosiadau dw i wedi eu gwylio, ond pan gyhoeodd Sioned bod cyfres newydd ar fin dechrau, roeddwn yn edrych ymlaen.

Fel arfer mae'r criw o bobl yn dod o ddinas, tref neu ardalpenodol. Yr unig un o Gymru oeddwn wedi ei weld oedd un yng Nghaerdydd, ble roedd yna un gotsan uffernol yn tynnu pawb i'w phen.

Yn y gyfres newydd, Abertawe yw'r lle cyntaf i gynnal y nosweithiau yma, ac mae nhw wedi llwyddo dod o hyd i gystadleuwyr 'gwahanol' eto. Tro hyn, mae dwy gotsan wirion, sydd, nid yn annisgwyl, yn casau ei gilydd. Mae un yn rhedeg tafarn o'r enw'r Found Out Inn yn Dyfnant (un i'w osgoi dybiwn i!), a'r llall yn hen wrach sydd â obsesiwn gyda Dylan Thomas (i'r fath raddau ei bod wedi prynu ei gartref enedigol) ac yn mynd ymlaen ac ymlaen bod popeth Cymreig yn well na dim arall - ond yn mynnu ynganu Dylan fel Dilun, yn hytrach na Dul-ann -AAARGH! Ar ben hyn i gyda, o'r tri cyntaf sydd wedi bod wrthi nos Lun, neithiwr a heno, does dim un yn llawer o gwc chwaith.

Ta waeth, mae'n werth gwylio'r wythnos yma i weld y ffrîcs, ond fel arall mae'n gyfres reit da, a gyda phobl sy'n gallu coginio ac ymddwyn yn hanner call o leiaf.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com4tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-58332358115568548072009-07-27T16:58:00.004-01:002009-07-27T17:09:29.185-01:00MicroBEER Festival 2009: 1af ac 2ail o Awst, CaerdyddOs na fydda i'n gorfod gweithio y dydd Sadwn hwn (mae mab y bos yn sâl gyda 'ffliw' ar hyn o bryd!) dw i'n gobeithio mynd i hwn.

Os ydych mewn band sy'n chwarae cerddoriaeth reit chilled a ddim wedi mynd i'r Eisteddfod eto, danfonwch e-bost gyda dolen at eich MySpace at Artisan Brewing Co.

MicroBEER Festival 2009
1st & 2nd August 2009

Artisan Brewing Co.in conjunction with the Kings Road Art Studios is pleased to announce the second follow-on MicroBEER Festival

Starting 10am Saturday (12noon Sun)

Market Stalls, Open Studios, Live Music, BBQ and specialty beers on tap.

Sunday is a little more relaxed with beer flowing, music throughout the day, home made chilli beef burgers from the BBQ.

Join us... entry is free

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-24102285354761021712009-07-21T19:43:00.007-01:002009-07-23T07:09:17.670-01:00Hyrwyddor digwyddiadau'r EisteddfodMae'n debyg na fydda i'n gallu mynd i'r Eisteddfod eleni, ac felly byddaf yn colli allan ar Gorsedd y Gîcs ar y dydd Iau a nifer o bethau gwych eraill mae'n siwr. eleni fydd yr Eisteddfod cyntaf ble bydd twitro'n wirioneddol boblogaidd, felly bydd yn werth dilyn #eisteddfod09 yn ystod yr wythnos i weld beth yw'r diweddaraf.

Newydd weld map handi iawn isod gan Rhys Llwyd (sy'n gwneud i ymdrech ar fap gan y BBC edrych yn so 1990's!)

View Eisteddfod 2009 in a larger map

Ond beth bod yn bygio fi ers rhai blynyddoedd yw pa mor anodd - na amhosib yw dod o hyd i wybodaeth am y gwanaol ddiwyddiadau sy'n digwydd ar y Maes. Rhiad i chi rywsut fod in the know gyda phob sefydliad i fod ag unrhyw siawns o wybod o flaen llaw am unrhywbeth.

Sylwais bod defnyddiwr Facebook (pawb yn cofio'r wefan?) o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi creu grŵp o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau. Mae 674 aelod i'r grŵp, ond dw i ddim yn siwr os os yw'r Eisteddfod yn gwybod beth i wneud efo'r grŵp.
Danfonais neges at fo neu hi heddiw, ac mae wedi cytuno i ychwnaegu unrhyw ddigwyddiau at y grŵp a'u danfon at yr aelodau i gyd.
Manteisiwch ar y cyfle, ac i wneud pethau'n haws i weinyddwr y grŵp, danfonwch wybodaeth yn y fformat canlynol:

Enw'r Digwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad byr:
Math o Ddigwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad:
Dyddiad ac amser dechrau:
Dyddiad ac amser gorffen:
Lleoliad (gofynnol):
Stryd:
Dinas:
Ffôn:
Ebost:

(Nodyn i'r Eisteddfod - plis ticiwch y blwch ar waelod yr ail dudalen sy'n dweud: Hysbysebu - Dangos y digwyddiad hwn mewn canlyniadau chwilio)
Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-20373651966104653042009-07-07T09:36:00.003-01:002009-07-07T14:58:39.505-01:00Deutsche Homo-Erotik, ja, ja
Os oes yna un peth yn fwy trist na gwneud twat o'ch hun drwy fynychu gemau pêl-droed jyst er mwyn achosi helynt ac ymddwyn fel plant, yna gwneud sticeri bach i gyd fynd â'ch criw ydy hynny (gweler isod).

Mae'r sticer yma bron a difalanu oddi ar bostyn lamp wrth groesfan dw i'n defnyddio'n ddyddiol. Mae wedi bod yna ers i Gymru chwarae'r Almaen yn ddiweddar yn Stadiwm y Mileniwm. Dw i ddim yn gwybod os mai er ein budd ni y mae'r sticer yn yr iaith Saesneg ac nid Almaeng, neu oes gan y ffyliaid yma gyn lleied o hunan barch fel eu bod yn ystyried hwligniaid Seisnig fel eilunod ac eisiau eu hefelychu ym mhob modd posib?Efallai mai fy sgiliau Gwglo i sy'n wael, ond pan chwiliais am Cologne Street Fighters, does fawr ddim canlyniadau heblaw am ychydig o fideos YouTube. Mae nhw mor chwerthinllyd, ac yn gasgliad o luniau camra wedi eu gosod gyda'i gilydd hefo sain cefndir o unai cerddoriaeth dawns mwya cawslyd neu ryw ganu gwerin/gwlad sy'n gwneud i arlwy Radio Cymru swnio'n hanner derbyniol. Ond os ydych yn joio sbio ar criw o lanciau penfelen heb grysau ymlaen yn esgus ymladd gyda'i gilydd, dyma'r lle i fod.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-25536345599796530582009-07-07T07:19:00.006-01:002009-07-07T09:49:40.503-01:00Jane Davidson AC vs Mark Thomas
Es i wylio Mark Thomas yn y Sherman neithiwr (mae o yno heno hefyd, ac yn Aberhonddu yfory). Enw ei daith ydy Its the Economy, Stupid!. Doedd y sioe yma ddim wedi ei ffocysu cymaint ar un testun o'i chymharu a'i daith diwethaf oedd yn canolbwyntio ar y diwydiant arfau, ond roedd yn lot o hwyl.

Un elfen o'r daith yw bod y gynulleidfa yn cael cyfle o flaen y sioe ac yn ystod yr egwyl i gynnig polisi ar gyfer maniffesto newydd, yna ar ddiwedd pob sioe bydd un polisi newydd yn cael ei ddewis a'i ychwanegu at y maniffesto. Ar ddiwedd ei daith, bydd Mark Thomas yn mynd ati i weld pa mor ymarferol yw pob polisi (ddim o gwbl yn achos rhai!) ac yn ceisio eu gwireddu.

Mae eisoes wrthi'n ceisio gwireddu polisi buddugol gig Huddersfield, sef bod rhaid i Margaret Thatcher dalu am ei hangladd ei hun. Gan mai'r Frenhines sy'n penderfynu (as if!) pwy sy'n cael angladd gwladol neu beidio, mae cardiau post ar gael i unigolion ddanfon ati yn gofyn iddi hi beidio gorfodi cymdeithas i dalu am angladd rhywun sydd ddim/nad oedd yn credu bod y fath beth a chymdeithas yn bodoli.

Un cwyn bach am ei sioe, ac efallai bod o ond i'w ddisgwyl gan ffigwr o'r chwith Brydeinig, ond doedd ei sioe ddim wedi cymeryd i ystyriaeth y deimensiwn Gymreig (heblaw am ddefnyddio acen y Cymoedd pob tro roedd o'n dynwared pobl o Gaerdydd). Cododd dau beth:

Cynnig i ddod o hyd i anthem 'genedlaethol' newydd, gan bod God Save the Queen yn anaddas i 'ni Brydeinwyr' gweriniaethol. Wnaeth neb ei atgoffa bod gyda ni anthem yn barod.

Yn un o'r sioeau blaenorol, y polisi buddugol oedd: To create a measure for politicians performance along the lines of school SATs - sy'n syniad ardderchog ( i raddau mae modd mesur perfformiadau yn barod drwy TheyWorkForYou). Yn ystod yr egwyl, dyma rhywun yn 'dob in' (geiriau Mark Thomas) bod Jane Davidson yn y gynulleidfa. Yn amlwg doedd o ddim am golli'r cyfle i dynnu coes gwleidydd, a dyma fo'n bygwth rhoi prawf SATs iddi - ond hi gafodd y gair olaf drwy ei ateb yn ôl a dweud ei bod hi wedi eu diddymu yng Nghymru!

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-61491991422275114592009-06-29T18:55:00.003-01:002009-06-29T19:19:00.631-01:00Yfed tu allan i'r bocs
Roeddwn wedi darllen am Artisan Brewery o Gaerdydd mewn rhifyn o Buzz ond heb erioed flasu'r cwrw. Diolch i Brew Wales, dyma osgoi trychineb ar y penwythnos, sef beth fyddai wedi bod petawn wedi methu Meicro Ŵyl Gwrw lleol (aeth ebost o restr postio Artisan i fy mlwch spam).

Ar y dydd Sul es i ac roedd ychydig tawelach na'r diwrnod cynt o beth dw i'n ddeall, ond roedd llwyfan bach i'r bandiau, bwyd cartref hyfryd (burgers cig a llysieuol, salads ac amryw o gacs) ac wrth gwrs o'r diwedd ces flasu'r cwrw. Anghofiais fynd i'r peirant twll-yn-wal ar y ffordd yno, felly cael a chael oedd hi ond blasais y tri cwrw oedd ar gael, sef math o Pilsnser, cwrw Bafaraidd a fy ffefryn Chocolate Wheat Beer. Dw i'n meddwl mod i wedi perswadio Sarah y byddai poteli o'r rhain yn anrheg addas i ben-blwydd ei thad yn 65! Roedd y cwrw i gyd yn neis iawn, ac mae mae £2 y botel (am un maint 660ml) yn rhesymol iawn. Dw i'n hoffi eu polisi o ddychwelyd y poteli hefyd:

In an attempt to promote our ethical standards for a cleaner and greener world, we are pleased to introduce a bottle return policy. Simply return your empty bottles (rinsed), and we will refund you £1 cash for every 6 bottles returned. It’s the beer that keeps on giving you might say!
Ar hyn o bryd, mond yn mariau Gwdihw a Cwtsh mae modd prynnu'r cwrw.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-36406992974858498962009-06-14T06:44:00.006-01:002009-06-14T07:15:24.246-01:00Iwerddon fel 100 person
Dw i wedi tanysgrifio i ffrwd blog ffantastig o'r enw Strange Maps. Fel mae'r enw'n awgrymmu, mae'n gasgliad o fapiau anarferol hen a newydd, yn aml ble mae'r dylunydd yn defnyddio'r ddelwedd i gyfleu negeseuon gleidyddol a/neu chymdeithasol. Mae'r un diweddaraf yn cyfleu natur ieithyddol Iwerddon, wedi ei selio ar y cyfrifiad diwethaf.

If there were only 100 people in Ireland, 55 of them would be speaking only English (Coch), 39 of them would be speaking mainly English, and occasionally Irish (Glas), 2 of them would be speaking mainly Irish (Gwyrdd) and one would be speaking Polish. Three would be speaking other languages.

Michal Boleslav Mechura collected these and other data from the Irish Census 2006, and crafted them into a few interesting cartograms.

Many thanks to him for sending in this map. Visit his website here for more, reflecting immigration, religion and residence intrapolated (if that’s the right word) from Republic of Ireland’s 4.24 million actual residents (Census 2006) to only 100 representative ones.

Mae degau o fapiu eraill hoofwn eich cyfeirio atynt, ond yma un neu ddau
-Europe Beyond ASCII - Pa wledydd sy'n defnyddio pa ffontiau/ysgrif
-City Maps As A Rorschach Test - Faint o dir mae dinasoed o wahanol feintiau poblogaeth yn eu gorchddio
-The Population of China’s Provinces Compared - Cymharu poblogaeth taleithiau Tseina gyda phoblogaeth gwledydd eraill.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-37015218350487696362009-06-09T11:52:00.003-01:002009-06-09T12:14:14.507-01:00Mapumental - mae o'n...mental?
Ydych chi'n cofio cofnod ar Metastwnsh gan Rhodri am wefan ScenicOrNot? Gwefan gan MySociety oedd o ble gofynwyd i bobl gyfrannu at bosiect "hush, hush" drwy raddio gwahanol golygfeydd ar draws ynys Prydain.

I'r rhai ohonoch a gymerodd ran, ffrwyth eich llafur yw Mapumental. Ar hyn o bryd mae mewn BETA preifat, felly rhaid cofrestru cyn cael dolen ato (fe gewch chi un yn syth).

Yn fras, gwefan ydy o sydd wedi ei anelu'n bennaf at gynorthwyo pobl sydd ar fin symud i ardal newydd i allu penderfynu ble hoffent fyw, yn seiliedig ar dri peth:

pa mor gyflym gellir cyrraedd y gwaith yn defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus

ble mae'r prisiau tai rhataf

ac yn olaf ble mae'r golygfeydd harddaf

Gall hefyd fod o ddefnydd os ydych yn mynd ar wyliau ac eisiau gweld pa mor bell allwch chi aros tu allan i ganol dinas drud a dal fod o fewn cyrraedd y prif atyniadau.

Dyma eisamplau wedi ei selio ar fy swyddfa i yng nghanol Caerdydd

Map 1: O ble gallaf diethio i'm gwaith o fewn awr

Map 2: O ble gallaf gyrraedd y gwaith o fewn hanner awr

Map 3: O ble gallaf gyrraedd y gwaith o fewn hanner awr AC lle mae prisiau tai o dan £150,000

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-25114528642680244602009-05-25T14:20:00.003-01:002009-05-25T14:46:58.134-01:00Unrhyw un yn defnyddio WordPress?
Y rheswm dw i'n gofyn yw oherwydd bod WordCamp UK 2009 yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd (fel soniwyd ar Metastwnsh sbel yn ôl). Dyma gynhadledd blynyeddol ar gyfer defnyddiwyr a datblygwyr WordPress. Mae'n cymryd lle mewn gwesty yn y bae ar benwythnos y 18fed a'r 19eg o Orffennaf.

Gan bod tipyn o wefannau a blogiau Cymraeg yn defnyddio WordPress erbyn hyn, bues i mor wirion ag awgrymu ar wici'r digwyddiad bod sesiwn yn cael ei gynnal ar leoleiddio.

SON AM GAMGYMERIAD.

Mae sesiwn am leoleidido wedi ei neilltuo ar gyfer y bore Sul, ac yn ôl Carl, fi sy'n ei arwain! I ddweud y gwir, prin iawn ydy fy mhrofiad i o WordPress, er dw i am drio gosod blog/gwefan yn defnyddio'r meddalwedd rhwng rwan a'r gynhadledd ac hefyd ceisio gosod y ffeiliau Cymraeg.

Fel mod i ddim yn edrych fel prat llwyr ar y diwrnod, oes gyda rhywun unrhyw sylwadau ar ddefnyddio WordPress (.org neu .com), yn benodol ynglŷn a'r fersiynnau Cymraeg?

Gwell fyth os fyddai chi'n dod i'r sesiwn a chymryd rhan. Mae tocyn ar gyfer y dau ddiwrnod yn costio £35 (£25 os archebwch chi cyn Mai 31ain). Dw i eisoes wedi prynu tocyn, ond ddim yn siwr os byddaf yn mynd ar y dydd Sadwrn, felly buaswn yn ystyried ei rannu â rhywun.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-9291287.post-56866371608769596942009-05-17T07:23:00.003-01:002009-05-17T09:10:49.572-01:00Golwg 360
Fel cefnogwr i'r syniad o bapur newydd Cymraeg (nes i bobl tu cefn i Y Byd wneud tro-pedol a dweud bod nhw eisiau grant), roeddwn yn edrych ymlaen at y lawnsiad hir ddisgwyliedig Golwg 360 echdoe. Roedd gyda fi rhai ofnau am safon y newyddiaduraeth ac hefyd safon y wefan, ac yn anffodus dw i'n meddwl fe wireddwyd y ddau ofn.

Hyd yn oed gyda'r grant, rhaid derbyn na fydd gan y gwasanaeth byth yr un math o adnoddau a'r papurau mawrion ond cefais fy synnu pa mor fyr ac arwynebol ydy'r erthyglau. Os rhywbeth, maen nhw'n fyrrach na rhai y BBC. Yn ôl Vaughan Roderick, esboniad Dylan Iorweth am hyn oedd er mwyn gwahaniaethu rhwng y wefan a chylchgrawn Golwg. Wel, i mi, gan bod erthyglau cylchgrawn Golwg yn rhai arwynebol iawn ar y cyfan, yna dylai'r rhai ar y wefan fod yn fwy swmpus a gyda mwy o sylwedd, nid y ffordd arall rownd. Dyma i chi'r erthygl cyntaf i ymddangos ar y wefan am fy nghlwb pêl-droed i, CPD Wrecsam, yn ei chyfanrwydd:

Dylai clybiau pêl-droed fel Wrecsam gael mwy o arian er mwyn adlewyrchu’r gwaith y maen nhw’n ei wneud yn y gymuned.<o:p></o:p>

Dyna farn gweinidog diwylliant yr wrthblaid yn San Steffan, a fu’n ymweld â’r clwb a’n siarad gyda’i gyfarwyddwyr ddoe.<o:p></o:p>

Dywedodd bod angen cydnabod y budd y mae clybiau bychain yn ei gael ar y gymuned.<o:p></o:p>

“Mae’n sicr yn rhywbeth y byddwn i’n siarad gyda’r FA amdano,” meddai.

68 gair! Tydyn nhw heb hyd yn oed mynd i'r drafferth o enw'r gweinidog dan sylw! Mae'n anodd plesio pawb, ond efallai byddai'n well cyhoeddi llai o erthyglau, ond mynd i fwy o fanylder, neu mewn gwirionedd does dim newyddion yn cael ei adrodd yma, ond yn hytrach penawdau wedi eu hymestyn.

Er ddim yn ffantastig o ddeniadol, fy argraff cyntaf o edrychiad y hafan oedd ei fod yn 'lan' iawn, ond fel sydd wedi eu nodi'n barod ar ambell bost ar Metastwnsh, mae yna amryw o ddiffygion, gyda rhai ohonynt yn rhai sylfaenol dros ben. Wna i ddim eu hailadrodd i gyd, ond dyma'r rhai sydd wedi fy nharo i:

Does dim RSS. Dyma yn fy marn i yw'r gwendid mwyaf, ac mae'n anfaddeuol nad ydy gwefan newyddion yn 2009 yn darparu porthiant RSS. Mae'n ei wneud yn anodd i unigolyn wybod pryd mae'r wefan wedi ei diweddaru, ac hefyd dw i'n siwr byddai blogwyr Cymraeg yn fodlon gosod RSS y wefan (at adran a fyddai o ddiddordeb iddyn nhw) ar eu blog.

Cofrestru. Does dim esboniad o fanteision cofrestru gyda'r wefan. Dw i wedi ceisio ddwywaith gyda dau gyfeiriad e-bost gwahanol heb fawr o lwc - efallai mai fi sy'n dwp.

Digwyddiadau. Mae'r adran Calendr yn syniad da, yn enwedig y gallu i chwilio yn ôl lleoliad, dyddiad a math o ddigwyddiad, ond mae edrychiad y peth yn reit difflach. Byddai defnydd o Googlemaps neu tagio yn well na dewislen (dw i'n casau mynd i chwilio am drama yn Dinbych/Rhuthun mond i ffeindio allan does yna ddim un.) Hefyd, mae'r lleoliadau braidd yn random. Am ryw reswm mae 'Llantrisant a Bro Morgannwg' wedi eu gosod â'u gilydd, er bod Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf, ac mae yna ddewis am 'Cymoedd Gwent' ond hefyd mae yna 'Blaenau Gwent' a 'Cwmbran, Pontypwl'. Wrth gwrs nid pawb sy'n meddwl yn ôl ffiniau siroedd 1994, ond byddai'n well cadw rhyw fath o gysondeb.
Eto petai modd cael RSS i ddigwyddiadau mewn ardal penodol, os oes gan y bapur bro neu gyngor tref/cymuned leol wefan, gallant fod a rhestr ready made o ddigwyddiadau ar eu gwefan, a fyddai yn ei dro yn gallu gyrru traffig yn ôl at wefan golwg.

Dyluniad a dolenni hysbysebion. Er mor fawr ydy rhai o'r blychau hysbysebu, dw i ddim yn meddwl ey bod yn obtrusive o gwbl i'r darllenwr, sy'n beth da. Ond tydy rhai o'r dolenni banner ar y top ddim yn arwain ar wefannau. Efallai mai dewis yr hysbysebwr yw hun, ond dw i'n synnu na fyddai Calon Wen eisiau dolen i'w gwefan nhw. Hefyd, mae gormod o destun a hwnnw'n rhy fan i'w ddarllen yn y blychau ochr dde, eto gall fod mai bai yr hysbysebwr yw hyn, ond dylai Golwg bwyntio allan iddynt nad yw ail ddefnyddio graffeg poster yn addas i hysbyseb ar-lein.

To Bach. Dw i ddim yn siwr os mai nam technegol ta dynol yw hyn, achos mae to bach yn ymddangos yn yr erthygl uchod am Wrecsam, ond does dim un yn yr erthygl yma am y coc-oen Chris Bryant.

Mae'r post yma yn hynod o negyddol, dw i'n cyfaddef, ond dw i'n gobeithio os caiff ei ddarllen gan staff Golwg y byddant yn ei dderbyn fel beirniadaeth adeiladol y gallant ei ddefnyddio i wella'r wefan. Dw i ddim wedi mynd mor bell ag ail-ddylunio'r wefan iddyn nhw (fel mae Dafydd wedi wneud!), ond yn ei ffurf presenol, dw i ddim yn ei weld y math o wefan y byddaf yn gweld eisiau ail ymweld â fo, ac os na fydd pobl yn ymweld â'r wefan yna mae'n annhebygol y bydd yn cael unrhyw nawdd pellach yn y dyfodol.

Rhys Wynnehttp://www.blogger.com/profile/17524815272093960511noreply@blogger.com1