Wps
17.10.05
Dwi ddim y person mwy prydlon, dyna pam felly dwi'n blogio am rhywbeth ddigwyddodd wythnos i heddiw pan gwrddais gyda Chris Cope yn nhafarn y Mochyn Du, Caerdydd. Roedd Chris wedi cyrraedd Caerdydd y noson gynt ac roedd eisioes wedi bod yn Llundain ac yn Llwdylo. Yn ogystal a fi roedd Geraint a Mair wedi dod draw i'r dafarn a bu'r pedwar ohonom yn treulio'r noson yn sgwrsio'n Gymraeg (er, fel sa chi'n ddisgwyl o Americanwr, Chris oedd yn gwneud rhan fwyaf o'r sgwrsio ;-) ). Un peth yw ysgrifnnu'n Gymraeg ond peth arall yw cyfleu eich hun mewn sgwrs a deall (popeth?) ddwedir gan eraill, a rhaid dweud roedd hi'n anhygoel gwrando ar Chris yn siarad Cymraeg mor naturiol. Does ryfedd iddo gael ei dderbyn i astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Gallwch ddarllen am ei ymweliad â Chaerdydd ar ei flog Saesneg.
Gallwch ddarllen am ei ymweliad â Chaerdydd ar ei flog Saesneg.
2 sylw:
Dyn trist, on'd dw i?
sylw gan Chris Cope, 9:07 pm
Na, dyn gwallgof! :-)