<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Siopa Teg: Oyster Clothing Ltd, Caerdydd

6.10.05


Dwi wedi postio o'r blaen ac o'r blaen ac o'r blaen am sut hoffwn brynnu dillad sydd wedi eu cynhyrchu unai'n lleol neu oleiaf gyda amodau teg i'r gweithwyr. Bach iawn yw'r dewis, er mae blogiau City Hippy, Adventures in Ethical Consumerism a TreeHugger yn cynnwys dolenni at nifer o wefannau sy'n dangos bod dewis allan yna. Y peth yw, dwi eto ddim yn or-hoff o brynnu tros y wê, yn arbennig pan mae'n dod i ddillad, ac roeddwn yn hapus iawn dydd Sadwrn wedi i mi a Sarah ddod ar draws siop newydd ar hap o'r enw Oyster Clothing Ltd, yn Arcêd y Castell yng Nghaerdydd.

Yn bennaf mae'r siop yn gwerthu dillad gan gwmni o Aberteifi o'r enw Howies. Mae Howies yn cynhyrchu dillad sydd wedi eu gwneud o dan amodau teg i'w gweithwyr ac hefyd gan ddefnyddio defnyddiau sydd ddim yn rhy andwyol i'r amgylchedd fel cotwm organig. Mae na negeseuon gwych ar eu cysau-T (dwy y rhai gorau ddim i'w gweld ar y wefan). Mae'r dillad yn ddrytach na rhywle fel River Island neu Next, gyda crysau-T am £25 a phâr o Jeans am £80, ond gan nad ydw i'n prynnu dillad newydd yn aml dwi'n barod i dalu gwir bris dillad fel hyn.

Hyd yn oed o nad ydych ffansi prynnu dillad mae'n werth ymweld â'u gwefan gan fod y cwmni'n sôn am eu syniadaeth ac hefyd mae cystadleuath celf o'r enw Art Think (gwobr £500). Os ydych yng Nghaerdydd, pigwch draw am gatalog, eto, mae'n werth ei ddarllen.
Oyster Clothing Ltd
029 2064 4107
28 Castle Arcade
Cardiff (Cardiff), CF10 1BW


Tagiau Technorati:
, , , , , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:11 am

5 sylw:

Ces i grys-T "Wendell Berry" gan howies ddiwrnod o'r blaen (dw i'n ei wisgo nawr, sb... wci) - yn yr adran sêl ar eu gwefan, am £15.

Mae siop achlusurol 'da nhw yn Aberteifi, tu ôl i'r Llew Du, sy'n gwerthu crysiau-T am £5, jeans am £20 ayb.

Drueni bod nhw ddim wedi wneud crysiau Cymraeg hyd yn oed. Byddwn i'n talu £25 am grys-T "Emyr Oernant", dim problem.
sylw gan Blogger Nic, 8:22 am  

hyd yn oed...

Hyd yn hyn.

Dim gair o Gymraeg yn eu catalog chwaith. Colli cyfle mawr yma, dwedwn i.
sylw gan Blogger Nic, 8:23 am  

Cytuno, roeddwn yn bwriadu eu e-bostio i ddweud cymaint dwi'n hoffi eu syniadaeth a byddai'n awgrymu byddai o leif ycydig o Gymraeg yn atgyfnerthu eu 'Brand' ymhellach.

(rhaid mynd i chwilio am yr adran sêl)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:30 am  

Wedi ei ddarganfod
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:37 am  

Stwff hyfryd ganddyn nhw. Fi'n credu'r af i i brynu pâr o drowsus o 'na ddydd Sadwrn. :)
sylw gan Blogger cridlyn, 10:25 am  

Gadawa sylw