<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Let's all say 'bore da' to shy Dave

19.3.10

Yr uchod yw teitl llythyr a ymddangosodd yn y Denbighshire Free Press rhai wythnosau'n ôl

An interesting sequel to your letter sequel to your letter from the Welsh language learner (Free Press, December 17) who complained about Morrisons' "contempt of out language" was my experience at the store last month.
Requiring some assistance with the vegetables, I asked in Welsh for some help from an attendant, Dave,but was answered with the blunt command, "English!"
Surprised by his response, I apologised by saying that I didn't realise he couldn't speak Welsh, and was then astonished at his reply: "Yes i do speak Welsh, but don't want to do so."
In case this was due to lack of confidence on his part, having presumably been expected to speak English for some years at his place of work, can I ask all your Welsh-speaking readers who shop at Morrisons' to help Dave by going to him and address him kindly in Welsh.
I'm sure their assistance will help Dave to overcome his inferiority complex and regain the confidence required to use his suppressed ability to speak Welsh.
This could be a New Year's resolution for all us Welsh shoppers... and Dave.

LEAH JONES
Prion
Dinbych


Mae Leah'n gymdoges i'm rhieni ac yn wraig i Eifion Lloyd Jones, sydd hefyd yn un nad iw'n ofn dweud y caswir pan mae cenedlaetholwyr eraill ofn pechu (er, dwi dim yn siwr os yw'n haeddu Fan Page ar Facebook chwaith!).

Ta waeth, dw i'n meddwl bod tôn y llythyr yn ardderchog, ac yn wahanol iawn i ymateb cwsmeriad eraill sydd wedi eu sarhau am ddefnyddio'r Gymraeg mewn ddigwyddiadau tebyg yn ddiweddar (fel yn Blacks ym Metws y Coed a Spar ym Mlaenau Ffestiniog), ble aeth y sawl a bechwyd at Gymdeithas yr Iaith a hwythau wedyn yn gweiddi "Hawliau!" gan weithiau fethu'r pwynt.

Er mod i'n siwr bod Leah'n gandryll mae hi'n llwyddo i osgoi ymosod ar y 'Dave', ac er nad o'n i'n siwr ar y dechrau os oedd yn deg cynnwys ei enw yn y llythyr, mae'n amlwg mai nid Dave ei hun yw'r 'broblem' na tharged y llythyr. Beth sydd gyda ni yw sefyllfa sy'n arwain at ddyn (ifanc dw i'n ddychmygu), sydd â'r gallu i siarad Cymraeg, yn penderfynnu nad yw e eisiau gwneud hynny, ac nid yn unig hynny, tydy o ddim yn credu y dylai neb arall wneud chwaith.

Beth sy'n gwneud agwedd o'r fan yn waeth ydy natur ieithyddol Dinbych:
-Dinbych Ucha/Henllan 36% yn gallu siaradCymraeg
-Dinbych Ganol 37%
-Dinbych Isaf 44%

a'r pedair ward sy'n amgylchynu'r dref:
-Llansannan (sir Conwy) 65%
-Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch 59%
-Llandyrnog 41%
-Trefnant 33%

(cyfrifiad 2001)
Am ryw reswm, mae Dave, fel sawl un arall wedi cael i'w ben nad oes gwerth i'r iaith a'i fod yn amherthnasol iddo fo a'r gymuned. Mae meddylfryd o'r fath yn ganlyniad i ffactorau cymdeithasol cymhleth sydd, ac ni ellid eu newid dros nos, ac a dweud y gwir ni fyddai unrhwy ddeddfau iaith newydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i hyn.
Nid ceisio lladd ar Gymdeithas yr Iaith ydw i na dadlau yn erbyn unrhyw welliannau i'r Ddeddf iaith bresenol/Mesur iaith arfaethig (dw i o blaid y ddau beth), ond os rhywbeth, mae pethau pwysicach i'w gwneud i adennill statws 'llawr gwlad' i'r iaith, ac mae llythyr Leah'n enghraifft dda o'r tacteg o amlygu sefyllfa leol, ac hefyd awgrymu bod gan siaradwyr Cymraeg rol ymarferol i'w chwarae.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 5:22 pm

1 sylw:

Mae ambell i un o'r 'Daves' 'ma yn troi fyny yn ganol oed mewn dosbarthiadau nos Cymraeg er mwyn ail-ddysgu, ar ôl sylweddoli mae 'na werth mewn iaith a diwylliant unigryw eu gwlad, (mae gen i un neu ddau yn fy nosbarth i fan hyn ar lannau Mersi!). Tydy'r rhan mwyaf ohonynt ddim wrth cwrs, efo bod yn cŵl yn eu costio llawer mwy na labeli 'designer'. Ond tybed os ydy 'Shy Dave Morrisons' yn medru yn y Gymraeg o gwbl? neu falle roedd o'n rhy cŵl i gyfadde nad oedd o!
sylw gan Blogger neil wyn, 11:07 pm  

Gadawa sylw