<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Fy meirniadaeth eisteddfodol mewn print (a rwan ar-lein)

17.8.10

Er mawr syndod gofynnwyd i mi feirniadu un o gystadleuaeth ar gyfer Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Mae beirniadu (a chystadlu ran hynny) yn beth gwbl newydd i mi, felly awgrymwyd fy mod yn edrych ar gopi o Gyfansoddiadau a Beirniadaeth blynyddoedd cynt i weld pa arddull i'w ddefnyddio a.y.y.b.

Doeddwn i ddim yn gwybod am y llyfryn hwn, ac roedd yn reit diddorol, achos ar gyfer rhai cystadlaethau, roedd y darn buddugol hefyd yn cael ei gyhoeddi. Sylwais nad oedd fawr neb yn cystadlu mewn rhai cystadlaethau. Baswn i falle wedi ceisio un neu ddau fy hun, ond wyddwn i ddim am eu bodolaeth.

Dyma un o wendidau'r Eisteddfod, sef nad yw lot o bethau fel y testunau ddim yn cael hyrwyddo'n dda iawn, felly mond eisteddfodwyr hard-core sy'n gwybod pryd a ble i edrych am restr testunau. Gan mod i mor vain, es i'r llyfrgell ddoe i weld fy meirniadaeth mewn print, a sylwais bod testunau Eisteddfod 2011 allan yn barod, ond does dom sôn am hyn y y wasg, mewn hysbysebion, ar gyfrif Twitter yr Eisteddfod nac ar adran newyddion eu gwefan hyd yn oed..

Mae teitl y gystadleuaeth a'r feirniadaeth islaw:
Blog gan unigolyn yn cynnwys o leiaf tri mewnbwn, dim mwy na 300
gair yr un:
Lefel Agored

BEIRNIADAETH RHYS WYNNE

Cafwyd dim ond tri chynnig i’r gystadleuaeth hon a dau ohonynt gan yr un person. Efallai mai dryswch ynglŷn ag enw’r gystadleuaeth sy’n gyfrifol am y nifer isel yma, oherwydd beth yw blog ond cyfnodolyn ar-lein (daw’r enw o’r Saesneg, ‘web log’) ac nid darn o ysgrifen ar bapur. Cyflwynwyd y tri darn o waith ar ffurf dyddiadur, a’r tri yn ymwneud a theithiau y bu’r awdur arnynt.

Collen Fach: Roedd ‘AR y gwibdaith I Bortmeirion’ yn adrodd hanes gwibdaith o Sir Benfro i Bortmeirion a gafodd ei drefnu gan y Fenter Iaith leol. Mwynheais ddarllen am y daith gan fod y darn yn llawn disgrifiadau manwl ac yn fy atgoffa o wibdeithiau tebyg rwyf innau wedi bod arnynt. Yn anffodus, roedd nifer o wallau sillafu a chamdeipio, rhywbeth sy’n hawdd i’w hosgoi drwy ddefnyddio gwirydd sillafu. Roedd yna un neu ddwy idiom Saesneg wedi eu trosi’n anghywir; ‘ar gyrhaeddiad’ yn hytrach na ‘wedi cyrraedd’, a hefyd ‘o’r cwrs’ yn lle ‘wrth gwrs’ - ond fe ddaw hyn gydag ymarfer.

Fy mrawd: Dyma hanes taith Fy mrawd wrth iddo/iddi ymweld â dinas Belfast am dridiau. Nid ydym yn cael gwybod beth yn union yw diben yr ymweliad, ond o ddarllen rhwng y llinellau, dw i’n dyfalu taw cerddor yw Fy mrawd. Dros dri chofnod, un ar gyfer pob diwrnod o’r ymweliad, cawn ein cyflwyno i sawl rhan o ddinas Belfast ac ambell i gymeriad mae Fy mrawd yn cwrdd â nhw - sawl un yn bobl adnabyddus ac yn gysylltiedig â’r Trafferthion mewn un ffordd neu’r llall.
Ychydig iawn o wallau sydd, ac unwaith eto byddai gwirydd sillafu wedi mai ‘Dulyn’ yw’r sillafiad cywir, ac nid ‘Dulun’. Byddai’n ddiddorol gweld cofnod blog ar gyfer y daith hon, gan y byddai modd wedyn rhoi dolen at wefannau eraill i roi mwy o gefndir (e.e., ni esboniwyd mai gŵyl gerddorol yw Féile ân Earraigh).

Collen Fach
: Dyma ail gais Collen Fach, ac yn ‘Ysgol Pasg - Amser Arbennig’ cawn hanes yr awdur yn mynychu Ysgol Undydd yn y coleg lleol. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd cymryd mantais o bob cyfle i ymarfer siarad Cymraeg ac adolygu beth a ddysgwyd yn ystod gwersi arferol. Cawn wybod pa fath o ymarferion sy’n cael eu gwneud ar gwrs penwythnos, a hefyd pwy arall o ddosbarth Collen Fach sy’n manteisio ar y gwersi ychwanegol hyn (neb y tro hwn, er mae digon o ddysgwyr eraill yno.) Unwaith eto, mae ambell enghraifft o gamdeipio a chamsillafu yn y darn hwn.

Dw i am roi’r wobr gyntaf i Fy mrawd. Nid am safon uchel a chywirdeb y Gymraeg, ond hefyd gan fod gan Fy mrawd y gallu i adrodd stori mewn ffordd mor ddarllenadwy. Diolch i’r ddau ymgeisydd.
Nid clod ffug yw'r uchod, mi roedd darn buddugol Fy mrawd (Les Barker o Fwlchgwyn, ger Wrecsam) yn wirioneddol ddifyr. Digwydd i mi sylwi heddiw bod blog Golwg 360 hefyd wedi cyhoeddi darn buddugol y gystadleuaeth ar gyfer trigolion y Wladfa. Oes rhywun yn gwybod am waith buddugol arall sydd wedi ei gyhoeddi ar lein?

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:45 pm

6 sylw:

Ie mae'n wir am y rhestr testunau.. sdim digon o sylw yn cael ei roi iddo. Mae Mam o hyd yn dweud y dylwn i roi cynnig ar wahanol gystadlaethau am fod neb arall yn gwneud.

Ar ôl i bobl adael ysgol, hyd yn oed os ydyn nhw wedi'u codi yn niwylliant Cymraeg ac eisteddfodau, ydyn nhw yn anghofio am neu ddim eisiau 'cystadlu'?

Mae yna rai sy'n arfer cystadlu mewn côr, gyda tîm chwaraeon neu mewn rhai meysydd eraill. Ond i lawer o bobl (fel y fi) dwi ddim yn gweld 'cystadlu' fel rhywbeth dwi eisiau wneud. Dwi'n ei gysylltu gyda phobl gelfyddydol fel actorion, cantorion, artistiaid, awduron, beirdd ayyb.

Sdim ateb gen i, ond dyna sut dwi'n teimlo am y peth :)
sylw gan Blogger Dafydd Tomos, 8:31 pm  

Mae hwn yn bwynt difyr gen ti. Mae dyddiad cau'r cystadlaethau ysgrifenedig tua 1 Ebrill a'r rhai llwyfan tua 1 Mai, dwi'n meddwl - cyn i'r rhan fwya o bobl ddechrau meddwl am y Steddfod. Byddai'n dda cael rhyw ffordd o atgoffa pobl yn gynt.
Dw i wedi blogio fan hyn: http://siantirdu.wordpress.com/2010/08/14/steddfod-glyn-ebwy/ a fan hyn:http://siantirdu.wordpress.com/2010/08/17/nol-ir-steddfod/#comment-159 am ffyrdd o wella'r Eisteddfod. Croeso i ragor o syniadau.
sylw gan Anonymous Sian Roberts, 8:54 pm  

@Dafydd Tydy'r ochr gystadleuol ddim yn apelio cymaint ata i chwaith, ond falle hoffwn roi tro ar gystadlu er mwyn ceisio gwella/ymestyn fy sgiliau ysgrifenedig a trio bod yn greadigol.

@Siân yn union, mond tua dechrau Gorffennaf bydda i'n dechrau meddwl am 'steddfod ac mae hi'n 3-4 mis rhy hwyr erbyn hynny. Dw i wedi bod yn dilyn dy gofnodion difyr am welliannau at yr Eisteddfod ac yn bwiriadu ychwanegu atynt (cyn i'r Steddfod ddiflannu o feddyliau pawb am 12 mis arall!). Bydd rhaid pasio'r holl sylwadau yno ymlaen at yr Eisteddfod, mae wedi esgor ar drafodaeth adeiladol.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:48 am  

Dwi wedi meddwl gadael sylw ar hyn ers tro byd, ond mae hi dal yn wych gweld enw Les Barker ymysg y pethe Cymraeg. Rwy'n cofio ei weld mewn gwyliau gwerin Saesneg nôl yng nghanol y 1990au a chael fy swyno gan ei grefft o lorio cynulleidfa gyda'i hiwmor. Mi glywais ei fod wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i ardal Wrecsam tua degawd yn ôl, ond feddyliais i erioed y byddai'n dod yn rhan mor flaenllaw o fywyd Cymraeg yr ardal (wrth iddo helpu trefnu Tegeingl a.y.b. ac wrth gwrs bod yn hynod weithgar gyda'r Eisteddfod sy'n dod).

Rwy'n teimlo fel fod dau fyd yn gwrthdaro, ond gyda chanlyniadau gwych.

Cytunaf â sylwadau'r beirniad :)
sylw gan Blogger Rhys, 12:54 pm  

Doeddd yr enw yn golygu dimi mi ar y pryd, ond ers hynny, dw i wedi dod i ddeall bod o'n dipyn o lej.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:35 pm  

i dont know this language,,
but me helped with google translate, hihihi
sylw gan Anonymous Agen Bola, 7:28 pm  

Gadawa sylw