<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Wedi Hacio'r Iaith

30.1.10

Ychydig yn ddistaw fu'r blogio byw o hacio'r iaith (er bu digonedd o drydar), felly dyma rai sylwadau am y diwrnod o'r sesiynau y mynychais i.

1. SaySomethingWelsh gan Aran ac Adnoddau i Ddysgwyr gan Neal (clip fideo)
Soniodd Aran am y syniadaeth y tu cefn i'r wefan boblogaidd SaySomethingWelsh, y rhesymeg dros gynnig y gwasanaeth am ddim, sut mae cymuned glos wedi datblygu ymysg defnyddiwyr gyda chanlyniadau annisgwyl, fel rhaglenwr gwe sy'n defnyddio'r wefan i ddysgu yn cynnig creu meddalwedd iddynt am ddim fel ffordd o ddiolch.
Siaradod Neal am yr ategolyn iPhone ar gyfer dysgyr, beth mae'n gallu ei wneud a beth elli'r ei ddisgywl yn y dyfodol. Mi sbardunodd y cyflwyniadau yma drafodaeth pellach gyda'r gynulleidfa yn rhannu eu syniadau a rhai sy'n gweithio yn y maes Cymraeg i Oedolion rannu eu profiadau nhw.

2. Ail-lawnsiad gwefan meddal.com
Wrth sgwennu hwn, tydy'r wefan newydd ddim yn fyw eto, ond cawsom gipolwg ar y wefan ar ei newydd wedd, sy'n edrych yn drawiadol iawn ar WordPress. Gobeithio bydd hyn n arwain at fwy o fobl yn gwenud defnydd o waith cael y criw tu cefn i'r wefan.

3. SALT Cymru
Dyma un o noddwyr y dydd, a cawsom esboniad o beth SALT yn ei gynnig (cynnig cyngor ym maes Technolegau Llais a Lleferydd). Eto, cawso gip ar wefan newydd a fydd yn defnyddio WorPress, a cawson arddangosfa cyflym o'r plugin amlieithrwydd wpml.

4. llennatur.com
Mae Llen Natur yn wefan gan Gymdeithas Edward Llwyd er mwyn rhannu eu holl wybodaeth, data, delweddau a rhestrau termau gyda'r byd i gyd. Des ar draws eu gwefan ar hap tua pythefnos yn ôl, ac fe wahoddais i nhw i Hacio'r iaith. Ces ymateb brwdfrydig yn ôl o fewn yr awr ac mi gawsom ni arddangosfa trylwyr o'r wefan, er dw i'n siwr i ni ond weld ffracsiwn o beth oedd sydd ar gael. Da chi, ewch arni a dilyn yr holl ddoleni. Dw i'n hoff iawn o'r stwnsh googlemaps yn yr adran mapiau.

7. Fy ngwefan WordPress cyntaf.
Unig sesiwn 'dwylo budur' y diwrnod yn anfodus, gyda Carl Morris yn dangos i'r ofnus ohonom pa mor syml yw sefydlu gwefan/blog eich hun yn defnyddio WordPress.org.

6. Lleoleiddio
Bues i ac Iwan Stanley yn arwain trafodaeht am leoleiddio (er, Iwan wnaeth y rhan fwya o'r siarad), y gwahanol ffyrdd o'i wneud, yr anhawsterau sy'n gallu codi ayyb.

7. Civilization IV ar gael yn Gymraeg
Fel rhan o'i Masters, dyma Gruffydd Prys yn lleoddeiddio'r gêm gyfrifiadurol Civilization IV i'r Gymraeg. Un o'i resyma dros ddewis hyn (heblaw am yr esgus i chwarae'r gêm rownd y rîl) odd bod llawer o'r geiriau sy'n codi yn y gêm yn rai sydd yn ymddngos ar y Termiadur, ac efallai byddai chwarae'r gêm yn fodd o ehangu geirfa Cymraeg pobl ifanc.
Cododd bwynt da bod gemau cyfrifiadurol yn ran mor anatod o fywyd pobl ifanc, bod angen gwneud mwy i sicrhau nad yw'r iaith Gymraeg yn cael ei hystyried yn iaith amherthnasol yn y byd cyfoes yn llygiad yr ifanc. Mwy o wybodaeth yma.

Methais sawl sesiwn arall oedd yn mynd ymlaen yr un pryd, fel trafodaeth agored am Golwg360, podlediad byw Metastwnsh (o flaen cynulleidfa fyw!) a llawer mwy.

Diolch i Rhodri am ei waith caled yn trefnu'r dydd ac i bawd wnaeth droi fyny i wneud yr holl beth yn llwyddiant. Rydym wedi dysgu tipyn ar gyfer digwyddiad o'r fath eto yn y dyfodol - gobeithio y gwela i chi yno.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:18 pm

2 sylw:

Adolygiad da.

Diolch i ti am dy waith caled hefyd!
sylw gan Anonymous Carl Morris, 1:32 pm  

Hi Rhys,

Sorry for the off-topic.

Would you be interested in writing something for a collection of essays I'm putting together?

http://www.englishparliament.net/news/constitutional-futures-where-now

toque at canadamail.co.uk
sylw gan Blogger Gareth, 10:00 am  

Gadawa sylw