<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pethe da ar S4C (nid cofnod ffwl Ebrill hwyr mo hwn) a'r genre llyfrau teithio Cymraeg.

3.4.10

Gyda chymaint o raglenni angrhedadwy o sâl yn ymddangos ar S4C ar hyn o bryd (Dathlu a Cyfnewid e.e.) mae'n braf gweld Pethe, sy'n trafod, wel, y Pethe, ond nid mewn ffordd hen ffasiwn. Mae ganddyn nhw wefan reit da, sydd a rhestr (anghyflawn) o hen eitemau ac mae blog sy'n cael ei ddiweddaru'n reit cyson. Maen nhw hefyd wedi creu cyfrifon Flickr a Vimeo, ond mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio am yr rhain.

Roedd rhifyn wythnos yma werth ei weld jyst am yr erthygl llysenwau - roedd rhai am drigolion Pesda'n uffern o ddoniol.

Un eitem wnes i fwynhau'n fawr oedd un am Lyfrau Taith T. Ifor Rees. Yn yr eitem maen nhw'n trafod traddodiad o lyfrau teithio Cymraeg. Mae llyfrau teithio (travel writing) a thywyslyfrau (guidebooks) yn ddau beth gwahanol, ond dw i ddim yn meddwl bod yna ddewis mawr o'r ddau fath yn Gymraeg. Mae llyfrau T. Ifor Rees am nifer o deithiau a fu arnynt ar draws de America yn hanner cynta'r 20fed ganrif tra'n lysgynhenad i Brydaun yn y rhanbarth. Dw i eisoes wedi prynu un o'i lyfrau yn ail-law drwy Amazon, ond heb ei ddarllen eto.

Mae gyda fi ddau dywyslyfr Cymraeg, Y Wladfa yn dy boced, a Iwerddon:Llawlyfr teithio i'r Cymry Cymraeg. Liciwn i ddarllen Pobl Drws Nesa - Taith fusneslud drwy Iwerddon a Taith i Awstralia. Yn ogystal a llyfrau Bethan Gwanas a Diolch i 'Nhrwyn gan Arwel Rocet Jones, all rhywun feddwl am un rhyw lyfrau teithio neu thywyslyfrau eraill Cymraeg?
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:36 am

6 sylw:

This comment has been removed by the author.
sylw gan Blogger Iestyn, 8:14 pm  

This comment has been removed by the author.
sylw gan Blogger Iestyn, 8:16 pm  

Cytuno fod S4slashC wedi colli'u ffordd yn ddiweddar. Rhaglenni ffroen uchel am gerddoriaeth clasurol (Elin Miss Piggy Manahan Thomas) ac Aled Samuel yn gwneud rhaglenni crap ar westai crand gall neb ond efe a'i gyfeillion fforddio aros ynddynt. Cywilydd eu bod wedi colli cysylltiad a'r werin datws. Mae cyfrygis s4slashc fel eu bod yn byw mewn byd arall i bawb arall - yn nhy bwyta Bryn Williams yn Primrose Hill. Wankers!
sylw gan Anonymous Iestyn Davies, 8:18 pm  

Dw i dim wir yn siwr at bwy mae pethau ffroen uchel cerddorol wedi eu hanelu, canran fechan iawn o wylwyr S4C sydd a lot o ddiddordeb yn y fath yna o beth dybia i.

O'n i arfer licio Aled Samuel pan yn iau, dw i efo brith gof ohono fo gyda ryw raglen doniol-ish ei hun ac roedd o'n gallu bod eitha ffraeth. Mae rhagleni fel Tŷ Cymreig a 04 Wal (ac eithirio'r gwestai crand) yn apelio ata i, ond dw i ddim yn siwr os mai fo ydy'r boi i'w cyflwyno - mae o fel tasai gyda fo ddim lot o ddiddordeb yn beth mae o'n sôn amdano, ac yn waeth fyth ar Tocyn. Roedd Tocyn y math o raglen a allai fod yn dda, ond oedd yn boenus i'w wylio ar adegau.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:16 pm  

1. Triawd Machynlleth gan Jan Morris a Twm Morys

Baswn i disgwyl mwy gan Jan Morris, mae hi'n sgwennu llyfrau wych yn Saesneg.

2. Blwyddyn Gap gan Bethan Marlow a Laura Wyn
sylw gan Anonymous Carl Morris, 6:53 pm  

Helo, falch dy fod yn lico Pethe! Ond dwi am neud un peth yn gliriach, nid rhestr o gyn-eitemau'r rhaglen yw 'eitemau' ond eiteamu'r wefan. Dyw hi ddim yn fwriad i gyfeirio at bob dim sydd wedi bod ar y rhaglen, yn hytrach dewis a dethol eitemau sy'n 'cynnig mwy' i rywun sy'n dod i'r wefan.

Cymryd y pwynt am Flickr.

Vimeo yn cael ei ddefnyddio pan fod rywbeth gyda ni i rhoi ynddo. (3 video hyd yma). Oherwydd hawlfraint cerddoriath ac yn y blaen mae'n anodd rhoi darnau o'r rhaglen ar y we a'u gadael yno.

Darn byr am flogio yn mynd i fyny ar y wefan brynhawn 'ma. Eitem am flogio ar Pethe heno. (sy am 21:00)

Byddwn yn gwethfawrogi sylwadau ar eitemau / blog / Clwb darllen pethe. Diolch!
sylw gan Anonymous Pethe, 1:39 pm  

Gadawa sylw