Arddangosfa newydd Banksy
16.10.05

O'r Independent.
Mae arddangosfa newydd Banksy (yr arlunydd graffiti, nid colofnydd Dail y Post) wedi agor yn Llundain. Y tro hwn mae wedi mentro i fyd peintio ag olew, ble mae wedi 'addasu' clasuron gan arlunwyr enwog gan gynnwys Constable, Monet, Van Gough, Jack Vettriano ac Edward Hopper (deoddwn rioed wedi clywed am y ddau olaf). Yn gyntaf bu'n prynnu copiau o'r darluniau mewn siopau elusen a ffeiriau, ond yna bu'n rhaid iddo ail-greu rhai ei hun pan allai ddim darganfod dim mwy.

Geraint oedd y cyntaf i'm cyfeirio at waith y gwr hwn pan bostiodd am ei waith graffiti ar 'y wal ddiogelwch' yn Israel.
Mwy o'i luniau trwy Google
1 sylw:
Roedd na un o weithio Banksy ar y wal tu allan i ble roedd fy nghariad yn gweithio llynedd - ond dwi'm yn gallu ffeindio llun, yn anffodus.
sylw gan
Mari, 6:14 pm
