Blogiau galore
10.12.09
O Bell - blog DJ yn Melboure a gafodd ei eni a'i fagu yn Lloegr ond sy'n rhugl yn y Gymraeg. Cofnodion amrywiol am wleidyddiaeth, chwaraeon a diwylliant Awstralia.
Blog Guto Dafydd - Dyma yw trît, blog deallusol gyda chofnodion llawn cic, am wlediyddiaeth yn amlach na dim - er nid pob tro, ond sy'n hynod hawdd e darllen.
Storïau Tir Du (a.k.a Blog mam Guto Dafydd) - Blog Siân yw hwn, sy'n trafod pynciau tebyg i Guto. Dw i'n edrych ymlaen i weld sut mae hwn yn datblygu.
Sothach Cymru - Ychydig yn wahanol i'r uchod, ond mae'r enw'n dweud y cyfan. Blog yn dued hi fel y mai am slebs tew di-dalent Cymru (ac adolygiadau fferins).
Y Twll - Cylchgrawn ar-lein yw hwn. Dim ond dau erthygl sydd arno hyd yma, ond maent yn rhai swmpus a difyr. Mae'r ddau hefyd yn digywdd bod am bynciau arty (ffilmiau ac electronica ), ond dw i'n meddwl bod fi'n iawn i ddweud bod croeso i bobl gyfrannu erthyglau am ystod eang o bynciau.
Quixotic Quisling - Mae Carl (un o'r bois tu cefn i Sleeveface) nawr yn blogio'n Gymraeg am yn ail a chofnodion Saenseg ar ei flog hynnod ddifyr. Hei, Carl, beth am greu caregori newydd 'Cymraeg' fel bod ganddyn dy gofnodion Cymraeg eu RSS eu hunain er mwyn eu hychwnaegu at y Blogiadur?
O, a tra dw i'n cofio, mae Carl a Rhodri Nwdls (a fi sort of) yn trefnu digwyddiad o'r enw Hacio'r Iaith. Ewch draw i'r wiki i weld beth fydd yn digwydd a cymerwch ran.
Neb O Nebo - Blog gan Alun yn trafod lot o stwff amrywiol.
Blog Malu Cachu - Mae'r wefan eiconig yma ar fi'n cael ei hailwampio, ac mae Suw (o'r boi Carl yna eto) wedi dechrau blog Saesneg ar y cyd yn trafod dysgu Cymraeg.
Y Dysgwr Araf - Ddim yn flog newydd, ond efallai'n newydd i rai gan ddysgwr o'r canolbarth. Mae'r boi yn licio'i fiwsig Cymraeg ac yn llwyddo i fynychu ambell gig/gwyl Cymraeg er ei fod yn byw yn Llandrindod (neu rhywle felly).
Draig Wen - Blog derwydd yn Llundain
Cymry'r Canolbarth - Canolbarth lloegr hynny yw.
Off fy nhen ar draws Cymru - Go iawn dw i'n meddwl! Dw i'n dyfalu mai casgliad o bookmarks ydy hwn, ond difyr yr un fath.
Diddorol yw nodi (wel, i fi eniwe), heblaw am y tri diwetha, mae'r blogiau newydd eraill i gyd yn defnyddio WordPress.
Labels: blogio
Oi, Gwynfryn! Noooooooooo
28.10.09
Dyna welliant.
Prynnias i gopi o Golwg yr wythnos diwethaf (Hydref 15). Rhaid i mi ddeud mae yna ambell i beth reit diddordol ynddo. Mae colofn Mike Parker yn werth ei ddarllen pob tro, er alla i ddim dweud yr un peth am rai o'r colofnwyr eraill. Dau golofn a dynnodd fy sylw i yn y rhifyn yma oedd un Angharad Mair a oedd yn reit feirniadol o ddefnyddiwyr maes-e ac un gan Hywel Gwynfryn yn trafod 'hanes' blogio.
Fel y gwyddoch (neu mwy na thebyg, fel na wyddoch), mae BBC Cymru yn cynnal 5 blog Cymraeg. Mae pob un yn dra wahanol, Ar y Marc (yn trafod pêl-droed), Vaughan Roderick (gwleidyddiaeth), C2 (cerddoriaeth), Blog Cylchgrawn (y pethe) ac un Hywel Gwynfryn (malu cachu Radio Cymru-aidd, ond gyda LOT o luniau).
Mae ansawdd y gwahanol flogiau yn amrywio hefyd. Er mai pêl-droed yw fy nileit mwyaf i, credaf mai blog Ar y Marc yw'r salaf, mae'n cael ei ddiweddaru'n anghyson, ar cynnwys yn reit arwynebol. Mae blog C2 yn reit bywiog ac mae sawl cyfranwr iddo, ac mae ganddo botensial gwych i allu rhestru playslists a rhoi rhaglfas o raglenni'r dyfodol, ond am ryw reswm dw i braidd byth yn yn ei ddarllen. Mae Blog y Cylchgrawn yn cael ei ddiweddaru'n gyson , mae'r cofnodion yn amrywiol ac yn gynhwysfawr, ac eto tydy o ddim cweit at fy nant i. Un peth sy'n gyffredin am y tri yma yw does neb yn gadael sylwadau, tra ar y llaw arall blog Vaughan Roderick yn ddi-os yw y blog Cymraeg mwyaf poblogiadd o ran darllenwyr ac o ran faint sy'n gadael sylwadau, a chi'n cael yr argraff ei fod yn wir mwynhau blogio ac ymateb i sylwadau eraill, rhywbeth holl bwysig.
Ond y blog sydd wedi fy synnu i yw un Hywel Gwynfryn, mae o wedi cymryd at flogio gyda argyhoeddiad. Mae'n blogio'n rheolaidd a hefyd mae o leaif un llun gyda phob cofnod (weithiau hyd at bump).
Yn ôl at bwynt y cofnod yma. Yn ei golofn yn Golwg mae Mr G yn nodi bod y gair 'blog' yn dalfariad o 'web+log' ac mai diffiniad 'swyddogol' am flog yw
Dyddiadur personol, sy'n cynnwys sylwadau diddorol ac yn adlewyrchu diddordeb y blogar [sic]Mae'n dilyn y dyfniad yma (ond ddim yn nodi o ble daw'r diffiniad) gyda
Felly, roedd Capten Cook yn cadw blogMae'n dod i'r casgliad yma dw i'n meddwl achos roedd Capten Cook yn cadw log, a'u bod nhw wedi cael eu ddigideiddio (er na nodwyd URL yn golofn) . Iesu, sôn am ddryswch.
Roedd colofn Angharad Mair yn gwneud llawer mwy o synnwyr. Teitl ei cholofn oedd Mae'n bryd rhoi gorau i'r ffug enw. Mae hi'n dechrau i ffwrdd drwy ddweud na oes ganddi ddim diddordeb yn Twitter, Facebook na MySpace, sy'n ddigon teg a rhesymol. Mae hi wedyn yn cyfeirio at stori ddiddorol (nad oeddwn i'n gyfarwydd a hi), ble wnaeth model o'r enw Liskula Cohen ennill achos llys oedd yn gorfodi Google i ddatgelu pwy oedd y person fu'n blogio'n ddienw gan gan ei galw hi'n bob math o enwau ffiaidd. Mae'n debyg bod Angharad yn gallu uniaethu a'r stori, gan iddi hefyd ysgrifennu
Mae maes-e ers blynyddoedd wedi bod yn gorlifo o sothach gwenwynig a phlentynaidd. Onid yw hi'n hen bryd i ni yng Nghymru i dyfu i fyny?Dw i'n cytuno mai peth diflas iawn yw'r busnes yma o bobl yn mynd ar-lein yn ddienw a phostio pethau digon cas am bobl (enwog fel arfer) ac mae tipyn o hyn yn digwydd ar maes-e yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion cymedrolwyr i atal/ddileu hyn. Er teimlaf bod Angharad yn lladd gormod ar y cyfrwng yn hytrach na'r cynnwys, ac hefyd rhaid cofio fe gewch chi grancs cenfigenus ymhob man mewn bywyd.
Byddai'n ddiddorol hefyd gwybod beth yw barn Angharad am golofn 'Jac Codi Baw' (nid ei enw go iawn!) yng nghefn Golwg, sydd yn yr union rifyn yn ac y mae Angharad wedi ysgrifennu'r uchod, yn nodi iddo fod yng Ngwesty'r Celt yng Nghaernarfon yr un pryd a chystadleuwyr Fferm Ffactor, a bod sawl un ohonynt wedi bod yn 'or-gyfeillgar' a'i gilydd.
Labels: rhithfro golwg
Yn eisiau: Siaradwyr Cymraeg yn ardal Caerdydd ar gyfer Cynllun Pontio
2.10.09
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg eisiau gwirfoddolwyr i ymweld â llu o’i dosbarthiadau er mwyn helpu dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg ar eu taith i ddysgu’r iaith. Mae cynnal sgwrs â Chymry Cymraeg yn beth fuddiol iawn i ddysgwyr ac felly byddwn wir yn gwerthfawrogi eich help chi!
Dych chi’n gallu dewis faint o ddosbarthiadau dych chi’n ymweld â nhw. Gallwch ymweld ag un yn unig neu lan at 20. Does dim ots! Byddwch yn derbyn tâl o £20 bob tro dych chi’n gwneud hefyd a dim ond tua awr neu’n llai bydd y sesiynau yn para bob tro!
Os hoffech fod yn rhan o'r Cynllun Pontio cwblhewch yr holiadur a'i anfon yn ôl at Gwenllian Willis, Canolfan Cymraeg i Oedolion, Adran y Dyniaethau, Prifysgol Caerdydd, Colum Road, Caerdydd , CF10 3EU.
Gwenllian
Gwenllian Willis
Swyddog Dysgu Anffurfiol / Informal Learning Officer
Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg
Cardiff & the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre
029 20 876 451
www.learnwelsh.co.uk
Blogiau 'newydd'.
31.8.09
Dw i'n ceidio peidio ychwanegu mwy o flogiau at fy rhestr bloglines, achos mae'n amhosib dilyn popeth, ond dw i wedi ychwanegu'r canlynol yn ddiweddar:
Iaith a Thechnoleg
Young, Single, Multilingual - blog gan ŵr o'r Weriniaeth Siec sy'n byw yn Iwerddon ac yn gyfrifil am wefan Focal.ie
Pêl-droed
Pitch Invasion - erthyglau trylwyr ar byth sy'n mynd ymlaen ar ac oddi ar y cae gyda chlybiau'r MLS (UDA) a chynghreiriau Ewrop, ac hefyd round up o Ogledd America ac Ewrop.
TwoHundredPercent - eto, erthyglau manwl yn trafod pynciau llosg yn ymwneyd â phêl-droed yn Lloegr yn bennaf gyda llawer o sylw yn ael ei roi i'r adrannau is a non-league.
O'r Alban
Tocasaid - dyma'r blurb: A blog about and promoting whisky, politics, philosophy and Gaelic culture. A natural combination. Oes rhaid dweud mwy?
Cymru
WalesHome - datblygiad cyffrous i'r byd cyfryngau yng Nghymru bel mae nifer o gyfrannwyr gwahanol yn trafod gwleidyddiaeth yn bennaf.
Yn Gymraeg
Does dim lot o bethau newydd yn digwdd yn y byd blogio Cymraeg, ond dw i'n mynhau cofnodion diweddar Emma Rees yn adrodd hanes ei hymweliad â gogledd orllewin Cymru.
Labels: blogio
Fy enw i ydw Rhys a dw i'n gwylio Come Dine With Me
26.8.09
Fel dwedais i, ailddangosiadau dw i wedi eu gwylio, ond pan gyhoeodd Sioned bod cyfres newydd ar fin dechrau, roeddwn yn edrych ymlaen.
Fel arfer mae'r criw o bobl yn dod o ddinas, tref neu ardalpenodol. Yr unig un o Gymru oeddwn wedi ei weld oedd un yng Nghaerdydd, ble roedd yna un gotsan uffernol yn tynnu pawb i'w phen.
Yn y gyfres newydd, Abertawe yw'r lle cyntaf i gynnal y nosweithiau yma, ac mae nhw wedi llwyddo dod o hyd i gystadleuwyr 'gwahanol' eto. Tro hyn, mae dwy gotsan wirion, sydd, nid yn annisgwyl, yn casau ei gilydd. Mae un yn rhedeg tafarn o'r enw'r Found Out Inn yn Dyfnant (un i'w osgoi dybiwn i!), a'r llall yn hen wrach sydd â obsesiwn gyda Dylan Thomas (i'r fath raddau ei bod wedi prynu ei gartref enedigol) ac yn mynd ymlaen ac ymlaen bod popeth Cymreig yn well na dim arall - ond yn mynnu ynganu Dylan fel Dilun, yn hytrach na Dul-ann -AAARGH! Ar ben hyn i gyda, o'r tri cyntaf sydd wedi bod wrthi nos Lun, neithiwr a heno, does dim un yn llawer o gwc chwaith.
Ta waeth, mae'n werth gwylio'r wythnos yma i weld y ffrîcs, ond fel arall mae'n gyfres reit da, a gyda phobl sy'n gallu coginio ac ymddwyn yn hanner call o leiaf.
Labels: teledu
MicroBEER Festival 2009: 1af ac 2ail o Awst, Caerdydd
27.7.09
Os na fydda i'n gorfod gweithio y dydd Sadwn hwn (mae mab y bos yn sâl gyda 'ffliw' ar hyn o bryd!) dw i'n gobeithio mynd i hwn.Os ydych mewn band sy'n chwarae cerddoriaeth reit chilled a ddim wedi mynd i'r Eisteddfod eto, danfonwch e-bost gyda dolen at eich MySpace at Artisan Brewing Co.
MicroBEER Festival 2009
1st & 2nd August 2009
Artisan Brewing Co.in conjunction with the Kings Road Art Studios is pleased to announce the second follow-on MicroBEER Festival
Starting 10am Saturday (12noon Sun)
Market Stalls, Open Studios, Live Music, BBQ and specialty beers on tap.
Sunday is a little more relaxed with beer flowing, music throughout the day, home made chilli beef burgers from the BBQ.
Join us... entry is free
Labels: caerdydd, cerddoriaeth, cwrw
Hyrwyddor digwyddiadau'r Eisteddfod
21.7.09
Newydd weld map handi iawn isod gan Rhys Llwyd (sy'n gwneud i ymdrech ar fap gan y BBC edrych yn so 1990's!)
View Eisteddfod 2009 in a larger map
Ond beth bod yn bygio fi ers rhai blynyddoedd yw pa mor anodd - na amhosib yw dod o hyd i wybodaeth am y gwanaol ddiwyddiadau sy'n digwydd ar y Maes. Rhiad i chi rywsut fod in the know gyda phob sefydliad i fod ag unrhyw siawns o wybod o flaen llaw am unrhywbeth.
Sylwais bod defnyddiwr Facebook (pawb yn cofio'r wefan?) o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru wedi creu grŵp o'r enw Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau. Mae 674 aelod i'r grŵp, ond dw i ddim yn siwr os os yw'r Eisteddfod yn gwybod beth i wneud efo'r grŵp.
Danfonais neges at fo neu hi heddiw, ac mae wedi cytuno i ychwnaegu unrhyw ddigwyddiau at y grŵp a'u danfon at yr aelodau i gyd.
Manteisiwch ar y cyfle, ac i wneud pethau'n haws i weinyddwr y grŵp, danfonwch wybodaeth yn y fformat canlynol:
Enw'r Digwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad byr:
Math o Ddigwyddiad (gofynnol):
Disgrifiad:
Dyddiad ac amser dechrau:
Dyddiad ac amser gorffen:
Lleoliad (gofynnol):
Stryd:
Dinas:
Ffôn:
Ebost:
(Nodyn i'r Eisteddfod - plis ticiwch y blwch ar waelod yr ail dudalen sy'n dweud: Hysbysebu - Dangos y digwyddiad hwn mewn canlyniadau chwilio)
Labels: eisteddfod, eisteddfod09, rhithfro








