Ymgyrchu clyfar yn Llydaw
17.10.05
Bu rhieni oedd yn ymgyrchu i gael penodi athro sy'n siarad Llydaweg yn rhedeg Teleathon, wedi i'r awdurdod addysg wrthod ei ariannu. Cafodd hyn lawer o gyhoeddusrwydd ar y rhyngrwyd ac achosi tro-pedol gan yr awdurdodau.
Yn ystod yr ymgyrchu, meddianodd rhai o'r rhieni rhan o'r ysgol a dysgu'r plant eu hunain. Gwrthododd yr awdurdodau trafod a nhw oni bai bod y pedwar amod canlynol yn cael eu cwrdd:
1) Bod y rhieni'n gadel yr adeilad
2) Bod banner Llydaw ddim yn cael ei arddangos
3) Bod y plant ddim yn gwisgo eu bathodynnau sy'n dweud Me a gomz brezhoneg (Dwi'n siarad Llydaweg)
4) Bod neb yn siarad â'r wasg
Mae ymddygiad awdurdodau Ffrainc yn warthus!
Mwy am yr uchod ar archif Eurolang (PDF)
Tagiau Technorati: Llydaweg, Ffrainc, Ieithoedd, Ymgyrchu