Newyddion da i Brighton & Hove Albion
28.10.05
Llongyfarchiadau i glwb pêl-dored Brighton & Hove Albion am gael caniatad o'r diwedd i adeiladu stadiwm newydd. Ers saith tymor, bu'r clwb yn chwarae eu gemau cartref 75 milltir i ffwrdd yn Gillingham ac yna mewn stadiwm athletau gyda lle i ddim ond 7,000 o gefnogwyr, gyda chanran bach iawn o'r seddi dan do. Er hyn i gyd fe lwyddodd y clwb esgyn i fyny dau adran. Chwarae teg i'r cefnogwyr, rheolwyr a chwarawyr y clwb am ddal ati. Bu llawer o gefnogwyr Brighton yn gefnogol iawn i ymdrechoedd cefnogwyr Wrecsam i ymladd Hamilton, gan rhoi annogaeth a chyngor gan iddyn nhw brofi colli eu maes eu hunain drwy weithredoedd wancar o berchennog. Bu gwrthwynebiad i'r stadiwm newydd gan drigolion lleol, ac mewn cyfweliad dywedodd Mark McGhee, sef y rheolwr bod eisiau cydnabod teimladau'r pobl hyn a chyd-weithio â nhw.