Cochion Caerdydd (Grŵp cefnogwyr CPD Wrecsam)
17.10.05
Yn y 5 mlynedd dwi wedi bod yn byw yng Nghaerdydd, dwi wedi dod ar draws ambell i gefnogwr Wrecsam a wastad wedi meddwl byddai'n dda dod a chriw at eu gilydd er mwyn teithio i gemau. Dwi ddim y person mwy trefnus ond gyda dyfodiad y rhyngrwyd dyma fi'n penderfynnu dechrau blog a fforwm er mwyn dod a chefnogwyr at eu gilydd. Hysbysebias i fforwm ar wefan cefnogwyr Red Passion, ac o fewn ychydig ddyddiau roedd 16 aelod wedi ymaelodi.
Y peth cyntaf rydym am drefnu yw bws mini i'r gêm oddi cartref yn Rhydychen ar y 12fed o Dachwedd.
Technorati tags: Wrecsam, Wrexham, Football, Pêl-droed, Cochion Caerdydd, Cardiff Reds