<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Unrhyw un yn defnyddio WordPress?

25.5.09

Y rheswm dw i'n gofyn yw oherwydd bod WordCamp UK 2009 yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd (fel soniwyd ar Metastwnsh sbel yn ôl). Dyma gynhadledd blynyeddol ar gyfer defnyddiwyr a datblygwyr WordPress. Mae'n cymryd lle mewn gwesty yn y bae ar benwythnos y 18fed a'r 19eg o Orffennaf.

Gan bod tipyn o wefannau a blogiau Cymraeg yn defnyddio WordPress erbyn hyn, bues i mor wirion ag awgrymu ar wici'r digwyddiad bod sesiwn yn cael ei gynnal ar leoleiddio.

SON AM GAMGYMERIAD.

Mae sesiwn am leoleidido wedi ei neilltuo ar gyfer y bore Sul, ac yn ôl Carl, fi sy'n ei arwain! I ddweud y gwir, prin iawn ydy fy mhrofiad i o WordPress, er dw i am drio gosod blog/gwefan yn defnyddio'r meddalwedd rhwng rwan a'r gynhadledd ac hefyd ceisio gosod y ffeiliau Cymraeg.

Fel mod i ddim yn edrych fel prat llwyr ar y diwrnod, oes gyda rhywun unrhyw sylwadau ar ddefnyddio WordPress (.org neu .com), yn benodol ynglŷn a'r fersiynnau Cymraeg?

Gwell fyth os fyddai chi'n dod i'r sesiwn a chymryd rhan. Mae tocyn ar gyfer y dau ddiwrnod yn costio £35 (£25 os archebwch chi cyn Mai 31ain). Dw i eisoes wedi prynu tocyn, ond ddim yn siwr os byddaf yn mynd ar y dydd Sadwrn, felly buaswn yn ystyried ei rannu â rhywun.

Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:20 pm | dolen | 0 sylw |

Cardiff Web Scene Meetup, 26.2.08

11.2.08

Yn ddiweddar dois ar draws grŵp Facebook ar gyfer Cardiff Web Geeks. Roeddwn yn hoffi syniadaeth y peth:

Hey there. Cardiff Geeks was recently formed due to the common feeling amongst many passionate geeks in Wales that there was a lack of community between them.

We are comprised of researchers, computer scientists, web professionals and enthusiasts though are open to just about anyone who has an interest in the topics we discuss.

Tra bod cymuned gref (ond hynod o fach) o ddefnyddwyr gwe Cymraeg a elwir y Rhithfro, does yna ddim cymuned ar-lein Cymreig amlwg o gwbwl, unai'n gymdeithasol neu ar gyfer busnes, sy'n rhwystredig iawn ond sydd eto efallai ddim yn annisgwyl. Gobeithio y bydd modd newid hyn.

Doeddwn ddim yn siwr os oedd y grŵp yn dal i fynd, ond cefais wahoddiad Facebook ddoe (ok, efallai bod pwynt i'r dam peth wedi'r cyfan), i fynychu Cardiff Web Scene Meetup yng Nghafe Floyd ar nos Fawrth y 26ain o Chwefror. Yn anffodus dwi'n dysgu ar nos Fawrth ond efallai byddaf yn galw mewn wedyn os na fyddai'n rhy flinedig. Fydde rhywun arall yn y cyffuniau â diddordeb mynychu?

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:04 am | dolen | 2 sylw |

Stwnsh Sain Ffagan

21.5.07

Dwi heb ei orffen ei goginio eto, ond meddwl bod y blog yma ac ambell flog Cymraeg yn dawel, felly...

Cynhwysion:
Lluniau Sain Ffagan o Flickr*
Eitemau Sain Ffagan o Casglu'r Tlysau
Ambell ddolen o wefan swyddogol Sain Ffagan
Manylion o wefan BBC South East


Cyfarwyddiadau:
Rhowch yn y popty (Tagzania) am 5 munud, a'i dagio gyda sainffagan ac hefyd y flwyddyn adeiladwyd, nes bod llun a dolen at wybodaeth am bob adeilad ar safle'r amgueddfa. [mwy o fanylion]

Serving Suggestion:

sainffagan tagged map by user - Tagzania

*Dwi'n sylwi mod i'n nabod y rhan fwyaf o gyfranwyr lluniau Sain Ffagan ar Flickr. h.y. dwi wedi unai dod ar draws eu blogiau neu manet yn aelodau o maes-e.


This is a mash-up for the Welsh Folk Museum at Sain Ffagan (or 'Sain Fagan National History Museum' as it's been re-branded in English), using social networking sites Tagzania and Flickr, and also public funded sites like BBC, Gathering the Jewels and the museum's official website. You can help me finish it by using the tag 'sainffagan' and the construcion date of the building if known.

Labels: , , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:21 pm | dolen | 0 sylw |

Ffilm 'Iraq for Sale': Caerdydd 15.2.07

15.2.07

Mae'r ffilm 'Iraq for Sale' ymlaen yng Nghanolfan Chapter heno (15.2.07) am 8:30pm. Noson wedi ei drefnu gan Oyster Clothing.



Labels: , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:32 pm | dolen | 0 sylw |

Mae Caerdydd yn fy nychryn

26.10.05


Cardiff Terrifies Me - Casgliad o lunaiu 'billboard's' gyda pennawdau y South Wales Echo. Rhai doniol iawn.

Gol.

Nid yw'r llun uchod yn rhan o'r blog mae'n ymddengys, ond yn lun o gyfrif flickr Dwlwen!. Tydi'r Rhithfro'n le bach dudwch?

, , ,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:32 am | dolen | 3 sylw |