<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Clod i Lyfrgell Canolog Caerdydd

28.7.10

Efallai mai un o'r rhesymau nad oes cymaint o Lyfrau Cymraeg yn cael eu benthyg o lyfrgelloedd Caerdydd (o'i gymhau a'r rhai Saesneg) yw bod darllenwyr Cymraeg yn cael eu difetha'n llwyr gan yr holl cylchgronnau Cymraeg (a Chymreig) sydd i'w cael yno i'w darllen (ond na ellir eu benthyg).

Pan nad ydw i'n treulio fy amser cinio'n teipio'n wyllt ar eu niferus gyfrifiaduron (fel ydw i rwan), dw i ar lawr uchaf y Llyfrgell Ganolog yn pori drwy'r cylchgronnau - wyddwn i ddim bod cymaint o rai Cymraeg a Chymreig ar gael. Fel arfer bydda i'n darllen Golwg (cy), Y Traethodydd (cy), Llafar Gwlad (cy), Welsh Football (en), a Planet (en). Mae copiau o Barn a'r Faner Newyd i gael yna hefyd, ond dw i'n prynu'r rheini fy hun. Hefyd mae Y Cymro ar gael yna ac ymddengys bod gan pob enwad Cristnogol yng Nghymru eu cylchgrawn eu hunain, ond does dim diddordeb gyda fi yn y rhain.


Os nad ydych yn darllen cylchgonau Cymraeg, hoffwn eich pwynti i gyfeirad rhifynnau presenol dau gylchgrawn:

Mae gan Llafar Gwlad erthygl ddifyr am enwau Cymraeg yn y Wladfa - trafodir sut parhaodd y Cymry yno i roi enwau Cymraeg i'w plant tra daeth yn ffasinol yn Nghymru ar ddechrau'r ganrif diwetha i roi enwau bedydd Saesneg i'w plant, sut datblygodd enwau Cymraeg unigryw ar gyfer y Wladfa, sut bu i enwau Cymraeg gael eu gwahardd, ac er nad yw enwau Cymraeg wedi eu gwahardd bellach, mae yna gyfyngiad yn Yr Ariannin ar ba enwau y cewch roi ar eich plant.

Dw i heb ddarllen Planet ers sbel, ond mae ambell eitem ddifyr yn y rhifyn diwethaf
The Exchange - ebyst agored rhwng Julie Morgan AS, Nick Bounre a Cynnog Dafis yn trafod y glymblaid y San Steffa a'r goblygiadau i Gymru a'r DG.
Keywords - Cyfres newydd yn edrych ar air Cymraeg penodol pob mis, ei wahanol ystyr a sut all amrwyio'n sylweddol o'r ystyr Saesneg.
Queen of Camouflage: The UK and the Rule of Law - Ddim bod hyn yn newydd i'r mwyafrif ohonoch, ond mae Tim Richards yn amlygu'r potes maip llwyr sef cyfansoddiad (neu ddiffyg cyfansoddiad) y Deyrnas Gyfunol a'i goblygiadau i ni fel unigolion. Mae'n waeth na da ni'n feddwl!

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:40 am

4 sylw:

ydy Cambria yno?

dolen
sylw gan Anonymous Anonymous, 7:06 pm  

Dw i ddim 100% yn siwr, tydw i ddim yn tueddu ei ddarllen, er bod ambell erthygl dda ynddo. Dw i'n picio i'r llyfrgell heddiw, mi wnai i sbio.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 6:14 am  

Ydy, mae Cambria yno hefyd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 7:43 pm  

Thank yyou for sharing this
sylw gan Anonymous Celestialsam, 2:01 pm  

Gadawa sylw