<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Cynnyrch cartref

9.2.05

Pan dwi'n prynnu dillad neu esgidiau newydd (ddim yn aml) dwi'n diflasu ar y ffaith fod popeth yn cael ei wneud mewn gwledydd pell fel Tseina neu Bangladesh. Yn gyntaf dwi ddim yn hoffi'r ffaith fod y cynyrch yn trafeilio cymaint a'r effaith amgylcheddol mae hyn yn greu, ond yn bennaf dwi'n pryderu am yr amodau gwaith mae'r gweithwyr yn eu dioddef ar cyflogau pitw mae'nt yn ei dderbyn er bod y dilledyn dal yn costio crocbris i ni brynnwyr. Anodd iawn i'w dod o hyd i unrhywbeth sydd wedi ei gynhyrchu 'yn y wlad yma'. Er mai cenedlaetholwr Cymraeg ydwyf, cyfeirio ydw i at y DG.

Os oes rhaid i mi brynnu unrhywbeth o dramor, ceisiaf wneud yn siwr ei fod yn gynnyrch masnach deg. Mae siop Chwarae Teg yn Nhreganna yn gwerthu dillad masnach deg, ond i fod yn onest mae'nt o dan yr argraff bod eu cwsmeriaid i gyd yn hoffi'r steil New Age, felly dim ond wlaed dwi wedi prynnu yno (un del iawn hefyd). Mae'r cylchgrawn New Consumer yn ok, ond teimlaf ei fod yn hybu'r agwedd o conspicious consumption yn iawn cyn belled ei fod yn fasnach deg, ac yn llawn tat drud.

Beth bynnag, holl bwynt y post yma oedd tynnu sylw at 'label' dillad or enw Ysbryd sydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru. Mae'r dillad yn weddol ddrud (£50 am siwmper a £22 am grys polo) ac efallai ddim cweit y math o ddillad buaswn yn ei wisgo fel arfer, ond dwi'n ystyried prynnu siwmper ganddynt a gobeithio yn y dyfodol bydd mwy o ddewis ganddynt. Wedyn cewch gymeryd y piss a dweud fy mod yn edrych fel hen ddyn.


Tagiau Technorati:
, , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:15 pm

1 sylw:

Dw i'n credu bod hyn yn syniad gwych - drueni bod y wefan yn uniaith Saesneg.
sylw gan Blogger Nic, 6:34 pm  

Gadawa sylw