Unrhyw un am Coets?
20.10.05
Dyma fi'n darllen post gan A Welsh Born Icon am Ceilys Cymreig. Ers byw yn y de, dwi wedi sylweddoli bod Ceilys yn dal yn boblogaidd iawn mewn tafarndai yma, ond doeddwn ddim yn ymwybodol bod pinnau a pheli Ceilys gwahanol mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru a Lloegr.
Wrth fynd trwy wefan Masters Traditional Games, dyma fi'n dod ar draws Coits (gweler llun uchod), sef gêm draddodiadol Cymreig (a'r Alban a Lloegr yn ôl pob sôn). Mae engrheifftiau o'r rhain yn yr Amgueddfa Werin, ond hyfyd cefais i bar o'r rhain yn anrheg nadolig un flwyddyn gyda R. W. wedi ei osod arnynt. Roeddwn yn fy arddegau ar y pryd ac yn ddigon aniolchgar rhaid i mi gyfaddef. Mae nhw yn nhŷ fy rhieni rhywle heb eu defnyddio - sôn am gywilydd. Waeth mi heb chwilota amdanynt, achos dwi byth yn ffeindio pethau fel hynny. Gobeithioaf y dof ar eu traws trwy damwain yn fuan.
Clwb Coets Felinfach
Tîm Coets Cymru'n curo'r Alban (2003)