<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Torri'r gyfraith wrth dorri syched ieuenctid Sir Ddinbych

19.3.10

Ar ymweliad diweddar i'r gogledd gwelais erthygl yn y Daily Post o dan y pennawd Pubs caught selling alcohol to underage drinkers forced to shut over Easter.

Cafodd 11 o dafarndai eu gorfodi i gau am ddeuddydd, chwech ohonynt yn Ninbych.

A major operation to crack down on underage drinking yesterday saw a staggering 11 pubs in Ruthin, Denbigh and Llanfair DC ordered to close their doors for two days.

Test purchasers, all girls aged 15 and 16, were sent to try to buy alcoholic drinks in December and January, supervised by undercover police.

Er mod i'n ysytyried fy hun yn reit rhyddfrydol, rhaid i mi gyfaddef fod yna stric reit ceidwadol ('c' fach cofiwch) yn mynd trwyddfa fi weithiau, a dw i yn credu mewn rhyw gymaint o gyfraith a threfn, ac yn credu bod gosod isafswm oed cyn y gellid prynnu alcohol yn beth doeth.

Ond wedi dweud hynny, ble oeddwn i pan yn 17 oed, ond yn llymentian yn yr union dafarndai yn Ninbych sydd wedi eu cosbi, felly byddwn i braidd yn ragrithiol yn deud, "Eitha reit, taflwch yr allweddi i ffwrdd!". Mae yfed dan oed yn 'right of passage' bron, ac er na ddylid ei annog, dw i'n meddwl bod o'n reit anheg bod hedldu yn mynd ati'n fwriadol i geisio twyllo'r tafarnwyr. Ydy entrapment yn dacteg moesol i ddal rhywun allan, yn arbennig gyda 'trosedd' fel hyn?

O'i gymharu a threfi bach cefn gwlad, dw i ddim yn meddwl bod yfed dan oed yn rhywbeth mor amlwg yng nghanol dinas Caerdydd (er gall yfed dan oed ar strydoedd y maestrefi fod yn waeth), ond hyd yn oed wedyn, tydy'r rhai dros 18 ddim fel tasen nhw'n gallu dal eu cwrw ar St Mary's Street.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:20 pm

0 sylw:

Gadawa sylw