<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



George Gallowy shows his Respect

12.2.08

Wps blog anghywir! o wel, adawa i o yma ta beth

In an artice rant about the proposed new Gaelic channel by the BBC, he only mentions to call the Gaelic language 'obscure' twice in the artice which was dissapointing.
Language is a living thing or nothing at all if you ask me. And the rest of us, by a stroke of luck, are in possession of a tongue worth the weight of Ben Nevis in gold.
This is often an argument used against any money being spent on the Welsh language, that it shouldn't be supported in any way by the state and that it should be left to fight it out with other languages, which is an argument that one can understand. But then he goes on to say:
The English language is our greatest asset and the government spends far too little spreading it even wider.

The money spend on Gaels and their obscure language could be spent by the British Council teaching, for example, the people of China to speak English with infinitely more returns.

Which is a total contradiction of what he just said.

I sometimes visit the Wales/Cymru section the Urban75 forum, which has it's fair share of nut jobs. Here's the latest post by (sadly) a rather noisy Respectoid:
St David's Day - COUNTER DEMO

As we know over the last few years the nationalists have stepped up their attempts to impose conformity and their bigotted ideology on our locale, they will be using St David's Day to impose the idea that Wales is a nation cosily united - rich and poor - against English oppression and waving their flags. They will be attempting to construct a 'welsh identity' that never existed and various other ideas that mystify social reality, class division and block the forming of genuine grassroots culture based on solidarity and diy principles.
Needless to say, everyone rips the piss out of him.

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:37 pm | dolen | 2 sylw |

Monarchy Wales yn mwynhau fy mlog

22.10.07

Sylwais o ystadegau Smiling under Buses mod i'n cael tipyn o ymwelwyr o Monarchy Wales. O ymchwilio drwy'r wefan druenus, yn eu hadran 'News Update', mae nhw'n cyfeirio at gofnod ar fy mlog:
Our September 2006 campaign letter also resulted in this being sent to us and Neil Welton, the leader of Monarchy Wales, being accused of having the opinions of "a sixty-year-old man".
Mae hyn yn gelwydd llwyr. Dwi wedi ei ail-ddarllen dwywaith, a welai ddim sôn amdano'n cael ei ddisgrifio fel plentyn 6 oed, er mae'n cael ei alw'n "dwat", "idiot" a "fool" (i gyd gan fi), a "
complete and utter nutcase" gan rhywun arall. A wnes i ddim ei ddanfon atynt chwaith - ar-lein mae o. Mae'n hen bryd i'r pobl ma gael eu ffeithiau'n gywir!

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:37 pm | dolen | 0 sylw |

Edrych yn nes at adre

13.9.07

Mae yna sawl gwefan ble gallwch ddanogs ble yn y byd rydych wedi ymweld â. Ond weithiau rydych ond wedi bod i un dinas ac mae cyfandir cyfan yn cael ei oleuo. Faint o bobl sy'n ymweld â llefydd ym Mhrydain sgwn i? O fyw yn ne Cymru, dwi'n sylwi nad yw pobl yma ar y cyfan yn teithio ymhell o'u cartrefi, mond lawr i Gaerdydd i siopa, ac efallai i ddal awyren i Sbaen. Stereoteipio ofnadwy yw hyn wrth gwrs, ond dwi'n meddwl ei fod yn wir am fwyafrif llethol o'r boblogaeth. Dyma lefydd dwi di bod iddynt yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

County map
I've visited the counties in yellow.
Which counties have you visited?

made by marnanel
map reproduced from Ordnance Survey map data
by permission of the Ordnance Survey.
© Crown copyright 2001.

Labels: , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:31 pm | dolen | 1 sylw |

Wel y diawled slei

15.8.07

Ymddengys bod yr Awdurdodau yn benderfynol y bydd yna dîm pêl-droed Prydeinig yng Nhgemau Olympaidd 2012, dim ots os yw'n groes i ddymuniad cefnogwyr Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ôl Play the Game:

A precedent in the long-running dispute over whether hosts Great Britain will field a football team at the 2012 Olympic Games in London could be set at next year’s Paralympic Games in China.

Senior sources in British football claim a Great Britain (GB) five-a-side team could be entered in Beijing next year without any consultation with Scotland, Northern Ireland and Wales.

England are organising a 2012 Olympic team but the Scottish and Welsh associations will not take part without written confirmation from FIFA that it will not affect their independence. T he Irish Football Association representing Northern Ireland have not made a decision either way but could join Wales and Scotland if a GB team plays in Beijing without consultation.
Mae grŵp cefnogwyr o'r enw No Team GB ble bydd grwpiau cefnogywr y 4 glwad yn gallu cyd-ymgyrchu yn erbyn y cynllyn dan dîn yma. Os ydych yn teimlo'n gryf am y peth, cefnogwch ymgyrch No Team GB unai fel unigolyn neu fle rhan o grŵp cefnogwyr lleol.

(Diolch i /Thanks to Gareth for the links)

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:39 pm | dolen | 0 sylw |

1000 o bethau mae'r Bwrdd Croeso'n wneud o'i le

Tydyn nhw ddim mor wael a hynny, ond dwi erioed wedi hoffi eu gwefannau nhw rhyw lawer.

Wrth ymweld â'u prif gwefan visitwales.com, rydych yn cael y dewis ar y dde. Mae defnyddio baneri i ddynodi iaith yn rhywbeth sydd ddim yn dderbyniol iawn ac mae'n gymysglyd, gwell fyddai defnyddio llythrennau ISO 639-1, a rhoi dolen atynt yn y gornel dde uchaf.

Mae'n aneglur beth mae nhw eisiau wybod, a'i o ble mae person yn dod, ta pa iaith mae'r person eisiau darllen y wefan?

Mae modd dylunio gwefan fel ei fod yn eich danfon yn syth at y fersiwn yn yr iaith rydych wedi osod fel eich dewis cyntaf ar eich porwr. Hefyd, siwans bod modd tracio o ba wald mae pob ymwelydd yn dod yn awtomatig.

Da gweld bod gwefan ar gael yn y Gatalaneg, ac os digwydd i chi glicio ar y dudalen Sbaeneg, mae dolen at y ferswin Gatalaneg arni - ond os digwydd i chi glicio ar y dudalen DG, does dim un at y Gymraeg am ryw reswm.

Oni bai am dudalen blaen y fersiwn Sbaeneg, does dim modd newid iaith rhwng tudalennau, sy'n tipyn o boen os ydych yn dewis iaith mewn camgymeriad ac eisiau gweld y dudalen gyfatebol mewn iaith arall. Sut fydde rhywun yn dewis iaith mewn camgymeriad medde chi? Wel es i i'r dudalen Cymraeg yn ddigon naturiol a chlicio ar newyddion, doedd dim yno, felly meddylais efallai caf well lwc ar y dudalen newyddion Saesneg. Roeddwn yn iawn wrth gwrs, ond roedd rhaid clicio yn ôl i'r dudalen splash yn gyntaf.

Yn ddiweddar dois ar draws gwefan o'r enw Wales1000things, sy'n reit chwyldroadol mewn ffordd, ond ddim mewn ffordd arall. Hyd y gwn i, dyma yw gwefan gwe2.0'aidd cyntaf Llywodraeth y Cynulliad. Yn y bôn gwefan ydi o gan y Bwrdd Croeso sy'n gwahodd pobl (ymwelwyr i Gymru) i ddanfon lluniau neu clipiau fideo o'u hymweliad at y wefan. Mae wedi ei anelu'n bennaf at bobl sy'n ymweld â Chymru i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel cerdded, mynydda, dringo, beicio a chwaraeon dŵr.

Dwi'n meddwl fod y syniad yn un ardderchog, tydyn nhw'n gwneud dim cyfrinach o'r ffaith eu bod wedi eu dylanwadu gan Flickr a YouTube, ac mae golwg y wefan yn gweddu'r ddelwedd gwe2.0 i'r dim, ond......
  • defnyddi'r yr sillafiad Seisnig Caernarvon (ych a pych - does dim esgus am hyn!)
  • diffyg dolenni - ar waleod pob llun/tudalen mae is-bennawd 'More Info', ond yn hytrach na rhoi llwyth o ddoleni defnyddiol a pherthnasol i chi, dim ond at un tudalen o fewn visitwales.com y cewch i'ch danfon. Ar gyfer y llun hwn o'r ddechrau'r Taff Trail neu hwn o daith beicio Parc Penallta, does ond dolen at dudalen generic seiclo ar visitwales.com, yn hytrach nag at dudalen Taff Trail ei hun, gwefan Sustrans neu dudalen Parc Penallta ar wefan y cyngor lleol a fyddai'n darparu mwy o wybodaeth manwl a pherthnasol.
  • does dim gair o Gymraeg arno - yn amlwg tydi o erioed wedi croesi eu meddwl nhw y byddai pobl o Gymru, yn arbennig siaradwyr Cymraeg yn mynd ar eu gwyliau yng Nghymru - wel, mae'n debyg y byddant i gyd wedi mynd i Riviera Lloegr [diolch i Simon am y ddolen]
Gadawais sylw ar flog Wales1000things, ond nid chafodd ei gyhoeddi wedi ei gymedroli (doedd dim rhegi arno, wir i chi) a doedd cynrychiolydd y Bwrdd Croeso ar stondin Llywodraeth y Cynulliad yn y steddfod eriod wedi clywed am y wefan!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:21 pm | dolen | 0 sylw |

Fforwm dotCYM - Dydd Iau, Gorffennaf 19. Bangor

12.7.07

Cymerwyd o flog Murmur:

Ar ddydd Iau, Gorffennaf 19 cynhelir fforwm dotCYM wedi ei drefnu a’i noddi gan ITWales a CMC. Cynhelir y digwyddiad gyda’r nos yng nghanolfan Technium CAST ar Barc Menai, Bangor.

Noddir y lleoliad a’r bwyd bwffe gan yr aelodau canlynol o CMC - ReadSpeaker, Draig Technologies, Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a Meddal.com.

Bydd y fforwm yn gyfle i wybod mwy am y cais dotCYM, i glywed am gais llwyddiannus puntCAT ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol y Catalaniaid a pam a sut mae darparwyr meddalwedd Cymraeg CMC yn cefnogi’r cais.

Mae’r digwyddiad AM DDIM, ond mae angen i chi archebu’ch lle ymlaen llaw.

I archebu’ch lle ebostiwch ITWales@Informatics.bangor.ac.uk neu ewch ar-lein i www.itwales.com/events . Fel arall gallwch gysylltu â Rob neu Judith yn ITWales Bangor ar 01248 388245

1730 : Cofrestru a bwyd bys a bawd

1800 : Cyflwyniadau

(i) Sion Jobbins o dotCYM

Cynllun ar lawr gwlad yw dotCYM i geisio cael .cym wedi ei noddi fel Parth Lefel Uchaf (TLD) ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gymreig.

Y Parth .cym yw’r unig gais hyfyw a chredadwy i gynrychioli’r Gymuned Gymreig. Bydd ar gael i wefannau sydd yn y Gymraeg, yn rhannol yn y Gymraeg neu rai o ddiddordeb Cymreig ond wedi eu hysgrifennu’n Saesneg neu mewn iaith arall.

Mae dot.CYM yn addo ffordd ardderchog i hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar-lein a brandio gwasanaethau a nwyddau Cymreig gyda symbol hawdd ei adnabod i’r sector TG yng Nghymru.

Siôn Jobbins yw cyd-sylfaenwr a Chadeirydd dotCYM. Mae Siôn yn gweithio yn yr adran Marchnata a Mynediad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn reolaidd ar y cyfryngau i gylchgronau Cambria a Barn ac ef oedd sylfaenydd a golygydd y cyclghrawn cyfryngau Cymraeg Ffocws. Mae Siôn wedi gweithio fel newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac fel ymchwilydd teledu a hefyd fel swyddog y wasg mewn gwahanol gyrff. Graddiodd Siôn mewn Hanes yn Aberystwyth yn 1989 ac yn 1999 ef oedd Maer y dref.

Am ragor o wybodaeth : http://www.dotcym.org

(ii) Dewi Bryn Jones o CMC

Crewyd y Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg yn dilyn datblygiadau cyffrous ym maes technoleg gwybodaeth a’r iaith Gymraeg. Mae’n dwyn ynghyd y rheiny sy’n cymryd rhan mewn TG drwy gyfrwng y Gymraeg o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, mewn technolegau ffynhonnell agored a chaeedig.

Mae’r Gymdeithas yn annog :

· defnyddio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o dechnoleg gwybodaeth.
· datblygu meddalwedd iaith Gymraeg gwreiddiol a thechnolegau iaith
· cyfieithu ac addasu meddalwedd o safon uchel i’r Gymraeg
· creu cynnwys o safon uchel yn yr iaith Gymraeg
· creu deunydd a chyrsiau hyfforddi mewn technoleg gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg

Lansiwyd CMC yn swyddogol gan y Cynghorydd Dafydd Iwan yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau, 2005. Dymuna CMC ddiolch i Gyngor Gwynedd am noddi CMC i ddechrau.

Dewi Bryn Jones yw cadeirydd presennol CMC ac mae’n gweithio yn yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr. Mae hefyd yn aelod o Meddal.com, tîm o wirfoddolwyr sy’n lleoleiddo Firefox, Thunderbird, Opera, Mandriva Linux, OpenOffice.org a meddalwedd poblogaidd arall i’r Gymraeg. Bu Dewi’n gweitho am nifer o flynyddoedd yn y Ffindir gyda Nokia lle y daeth ar draws defnydd cyffredin o TG mewn amgylchedd heb fod yn Saesneg a meddyliodd pam ddim yn y Gymraeg hefyd. Graddiodd Dewi mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Efrog yn 1994.

Am ragor o wybodaeth : www.meddalweddcymraeg.org

1900 : Trafodaeth

2000 : Diwedd

Labels: , , , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:21 pm | dolen | 0 sylw |

Sir Caer yn ymestyn ei ffiniau at Afon Conwy

28.5.07

Pan welodd Neil copi diweddaraf o Chesire Life, bu bron iddo ganslo ei danysgrifiad!

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:42 am | dolen | 0 sylw |

Wythnos o 'Wythnos yng Nghymru Fydd'

22.5.07

Wythnos yma, mae yna gyfres o ragelnni ar Radio Cymru yn dathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi nofel 'Wythnos yng Nghymru Fydd' gan Islwyn Ffowc Elis.

Dyma oedd nofel ffug wyddonol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Ynddo mae dyn ifanc o Gymru'r 1950'au yn teithio i'r dyfodol (2033?) ac yn cyrraedd Cymru rydd delfrydol ac mae'n disgyn mewn cariad. Ar ôl mynd nôl i'r presenol roedd yn benderfynol o fynd yn ôl i'r dyfodol eto i fod gyda'i gariad, ond does dim gwarant mai i'r un dyfodol y bydd yn cyrraedd.

Neithiwr fe ddarllenwyd y cyntaf o bedwar darlleniad o addasiad radio or nofel.
Fel holwyd 400 o bobl ar draws Cymru i weld beth fydd Cymru fel mewn 50 mlynedd arall.

Er mai nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis, roedd pwrpas arall i'r llyfr, sef propoganda ar gyfer Plaid Cymru i geisio cael y Cymry i ddefro i'r posibiliadau o hunan lywodraeth ac annibyniaeth yn y pen draw. Dwi wrthi'n darllen Gwynfor: Rhag pob brad ar hyn o bryd, a dwi wedi cyrraedd y 50'au cynnar pan mae ymgyrch Senedd i Gymru'n cael ei lawnsio, sy'n amserol iawn i mi felly.

Ond nid y syniadaeth wleidyddol yn unig sy'n ddiddorol yn y nofel, roedd gan Islwyn Ffowc Elis syniadau a gweledigaeth rhyfeddol yn ymwneud a thechnoleg; yn y darllenaid neithiwr roedd sôn am under floor heating, ac o be dwi'n cofio o ddarllen y nofel fy hun, roedd bwytai posh yn Nghaerdydd yn gwerhu bwydydd Cymrieg tradodiadol a doedd pobl ddim yn prynnu papurau newydd rhagor gan fod modd darllen y newyddion ar sgrîn yn y cartref!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:54 pm | dolen | 3 sylw |

Tymor arall drosodd, creisis arall drosodd.

13.5.07

Mond rwan dwi'n cael cyfle i lawrlwytho fy lluniau o'r gêm rhwng Wrecsam a Boston penwythnos diwethaf ble roedd yn rhaid i'r ddau dîm ennill i sircrhau aros yn y gyngrhair.

Roedd dau flogiwr arall yno hefyd.

Yn y cyfamser dyma fi'n chwilio am luniau o'r diwrnod ar Flickr, a darfod, rhain, rhain a rhain.

Dyma fferfrynau o'r tri casgliad:


Un cefnogwr am ddangos ei werthfawrogiad i Danny Williams mewn ffordd arbennig!


Un cefnogwr yn methu erdych wrth i Wrecsam unioni gyda chic o'r smotyn. Y Kop yn orlawn ar gyfer y gêm gynrhair olaf o'i flaen yn ei ffurf bresenol cyn iddo gael ei ddymchwel yn yr haf.


Llun hollol cawslyd gan Gary o'i gyd sylwebwyr ond un sy'n dod a gwên i'm gwyneb. Daeth Nic Parri allan efo un o'i berlau wedi'r gêm: "Gorffenodd Chris Llewelyn y gêm yn ei fest, ond fyddai'm gwahaniaeth gan neb petai wedi gorffen y gêm ond yn gwiso'i ddrons"!

Labels: , , , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:30 pm | dolen | 0 sylw |

Neges gan Amazon i Gymru

3.4.07

Ar yr un penwythnos a glywais y newyddion da bod cwmni Amazon yn dod a 1,200 o swyddi i Gymru (oes na sens rhoi £9 miliwn o 'gymorthdal' i gwmni sy'n gwneud rhwng $370 a $510 miliwn o elw?), dyma fi'n cael siec wedi ei ddanfon yn ôl ataf gan yr un cwmni gyda'r nodyn (hynod gwrtais) canlynol:
Dear Customer,

Please find enclosed your cheque for £22.93 as the words are written in Welsh. Sorry to ask but could you please amend and return to us so we may proceed with your order, as the bank may not be able to read it.

Kind regards
Billing Dept.
Agwedd braidd yn od a hen ffasiwn. Dwi wedi bod yn postio siec yn Gymraeg i BT ers blynyddoedd heb unrhyw drafferth. Dwi eisioes wedi danfon llythyr i'r Western Mail, oes llawer o bwynt danofn un at Rhodri Morgan (fy AC lleol), Andrew Davies a Alun Pugh chi'n meddwl?

Diweddariad 4/4/07

Wedi cael ymateb gan Amazon.


Diweddariad 10/4/07

Wedi cael ymateb ar ran Alun Pugh. Tydi o ddim yn rhoi unrhyw farn ar y sefyllfa, mond yn dweud ei fod wedi pasio'r peth ymlaen at Fwrdd yr Iaith er mwyn iddyn nhw gysylltu âg Amazon.
Yr wyf [Robert Tyler, Uned Iaith Gymraeg/Cyfryngau], felly, wedi gofyn i’r Bwrdd gysylltu gyda Amazon mewn perthynas â’u polisiau iaith. Bydd y Bwrdd wedyn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chi
Mae hyn yn newyddion da gan fod rhywun o gylchgrawn Golwg hefyd wedi cysylltu âg adran wasg cwmni Amazon ar ôl darllen fy sylw ar maes-e am y peth.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 am | dolen

Gwahardd Ysmygu - 11 diwrnod i fynd (ac yn cyfri)

22.3.07

Allai'm disgwyl am y gwaharddiad. Dwi wedi cael hen ddigon ar ddod adre o'r dafarn yn drewi. Am ryw reswm dros y blynyddoed diwethaf dwi wedi dod yn llai a llai goddefgar, ac yn fwy ymwybodol fyth o'r arogl a'r mwg. Dwi di amcan gyfrif byddai'n mynychu'r dafarn (nid yn angenrheidiol yr un un!) bedwar gwaith cyn ddaw'r gwaharddiad i rym. Unrhywun am ddod allan am beint ar yr 2ail o Ebrill i ddathlu?

I'r rhai ohonoch sy'n darllen y post hwn drwy newsreader (neu'r melltith a elwir Internet Explorer) mae graffeg Flash ar ben y colofn dde sy'n dangos sawl diwrnod sydd i fynd.

,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:41 pm | dolen | 7 sylw |

England Rocks (a Chymru hefyd)

12.3.07

Mae enjoyEngland wedi lawnsio gwefan o'r enw England Rocks sy'n defnyddio 'stwnsh' googlemaps (a la Curiad) i dangos mannau o ddiddordeb yn ymwneud â hanes cerddoriaeth yn Lloegr ac hefyd lleoliad gwahanol wyliau cerddorol. Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da ac yn rhywbeth sy'n mynd i apelio at ymwelwyr o dramor, ond efallai fwy fyth at ddarpar ymwelwyr o'r wlad ei hun.

Dwi o'r farn nad yw'r Bwrdd Croeso yn gwneud digon i hyrwyddo twristiaeth mewnol yng Nghymru. Mae yna nifer fawr o ŵyliau cerddorol cymunedol wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru yn y 5 mlynedd diwethaf, a dwi'n meddwl eu bod yn cyfrannu tipyn at yr economi leol. Tydi gŵyliau Cymraeg (eu hiaith) ddim yn cael llawer o gyhoeddusrwydd tu allan i'r byd Cymraeg, ac efallai bod bai ar y trefnwyr am hyn i raddau, ond yn hytrach na disgwyl i'r Bwrdd Croeso ddod i fyny gyda syniad tebyg, dyma fap yn dangos rhai o brif ŵyliau cerddordol Cymru. Mae'n syndod faint o bobl o du allan i Gymru sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth Cymraeg ei iaith. Os oes na unrhyw ŵyliau dwi di anghofio, gadewch sylw, neu gwell fyth ychwnaegwch nhw at y tag walesrocks.



Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:05 am | dolen | 0 sylw |

Gorymdaith Gwyl Dewi: Caerdydd 1.3.07

27.2.07

Cofiwch am yr orymdaith sy'n gadael y Mochyn Du tua 2:00ish p'nawn Dydd Iau. Tydi'r diawled di-asgwrn cefn yn y Bae ddim am roi diwrnod o wyliau i ni, ond dwi'n cymeryd diwrnod o wyliau beth bynnag. Cefnogwch noddwyr caredig yr orymdaith. Rhywun am ymuno â mi am beint?

Y faner gwych gan Wynne Jones (Brenin y Photoshop)

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:51 pm | dolen | 4 sylw |

Blog The Monarchist

21.2.07

Tra'n darllen blog Blamberbell Briefs dyma fi'n dod ar draws sylwadau (digon diflas) gan rhyw Neil Welton. Roedd yr enw'n gyfarwydd, felly clicias ar ei broffeil Blogger a darganfod mai'r person tu cefn i'r mudiad-un-person Monarchy Wales* ydoedd.

*RHYBYDD - Ewch i nôl bwced cyn cliclio ar y ddolen

Gan gymeryd mai nid cyfrif ffug ydyw, oed y creadur yw dim ond 33 - cymerais i mai rhyw hen foi yn ei 60'au ydoedd.

Ta waeth, os (fel fi) chi'n meddwl fod y cach ar wefan Monarchy Wales yn uffernol, tydi o'n ddim i'w gymharu â'r blog The Monarchist y mae Neil Welton yn cyfrannu ato. Wir dduw, oes gobaith i'r bobl yma?

,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:28 am | dolen | 2 sylw |