
Allai'm disgwyl am y
gwaharddiad. Dwi wedi cael hen ddigon ar ddod adre o'r dafarn yn drewi. Am ryw reswm dros y blynyddoed diwethaf dwi wedi dod yn llai a llai goddefgar, ac yn fwy ymwybodol fyth o'r arogl a'r mwg. Dwi di amcan gyfrif byddai'n mynychu'r dafarn (nid yn angenrheidiol yr un un!) bedwar gwaith cyn ddaw'r gwaharddiad i rym. Unrhywun am ddod allan am beint ar yr 2ail o Ebrill i ddathlu?
I'r rhai ohonoch sy'n darllen y post hwn drwy
newsreader (neu'r melltith a elwir
Internet Explorer) mae graffeg
Flash ar ben y colofn dde sy'n dangos sawl diwrnod sydd i fynd.
cymru,
walesGenerated By Technorati Tag GeneratorLabels: cymru, smoking, ysmygu