Fforwm dotCYM - Dydd Iau, Gorffennaf 19. Bangor
12.7.07
Ar ddydd Iau, Gorffennaf 19 cynhelir fforwm dotCYM wedi ei drefnu a’i noddi gan ITWales a CMC. Cynhelir y digwyddiad gyda’r nos yng nghanolfan Technium CAST ar Barc Menai, Bangor.
Noddir y lleoliad a’r bwyd bwffe gan yr aelodau canlynol o CMC - ReadSpeaker, Draig Technologies, Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr a Meddal.com.
Bydd y fforwm yn gyfle i wybod mwy am y cais dotCYM, i glywed am gais llwyddiannus puntCAT ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol y Catalaniaid a pam a sut mae darparwyr meddalwedd Cymraeg CMC yn cefnogi’r cais.
Mae’r digwyddiad AM DDIM, ond mae angen i chi archebu’ch lle ymlaen llaw.
I archebu’ch lle ebostiwch ITWales@Informatics.bangor.ac.uk neu ewch ar-lein i www.itwales.com/events . Fel arall gallwch gysylltu â Rob neu Judith yn ITWales Bangor ar 01248 388245
1730 : Cofrestru a bwyd bys a bawd
1800 : Cyflwyniadau
(i) Sion Jobbins o dotCYM
Cynllun ar lawr gwlad yw dotCYM i geisio cael .cym wedi ei noddi fel Parth Lefel Uchaf (TLD) ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gymreig.
Y Parth .cym yw’r unig gais hyfyw a chredadwy i gynrychioli’r Gymuned Gymreig. Bydd ar gael i wefannau sydd yn y Gymraeg, yn rhannol yn y Gymraeg neu rai o ddiddordeb Cymreig ond wedi eu hysgrifennu’n Saesneg neu mewn iaith arall.
Mae dot.CYM yn addo ffordd ardderchog i hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar-lein a brandio gwasanaethau a nwyddau Cymreig gyda symbol hawdd ei adnabod i’r sector TG yng Nghymru.
Siôn Jobbins yw cyd-sylfaenwr a Chadeirydd dotCYM. Mae Siôn yn gweithio yn yr adran Marchnata a Mynediad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’n ysgrifennu colofn reolaidd ar y cyfryngau i gylchgronau Cambria a Barn ac ef oedd sylfaenydd a golygydd y cyclghrawn cyfryngau Cymraeg Ffocws. Mae Siôn wedi gweithio fel newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac fel ymchwilydd teledu a hefyd fel swyddog y wasg mewn gwahanol gyrff. Graddiodd Siôn mewn Hanes yn Aberystwyth yn 1989 ac yn 1999 ef oedd Maer y dref.
Am ragor o wybodaeth : http://www.dotcym.org
(ii) Dewi Bryn Jones o CMC
Crewyd y Gymdeithas Meddalwedd Cymraeg yn dilyn datblygiadau cyffrous ym maes technoleg gwybodaeth a’r iaith Gymraeg. Mae’n dwyn ynghyd y rheiny sy’n cymryd rhan mewn TG drwy gyfrwng y Gymraeg o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, mewn technolegau ffynhonnell agored a chaeedig.
Mae’r Gymdeithas yn annog :
· defnyddio’r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o dechnoleg gwybodaeth.
· datblygu meddalwedd iaith Gymraeg gwreiddiol a thechnolegau iaith
· cyfieithu ac addasu meddalwedd o safon uchel i’r Gymraeg
· creu cynnwys o safon uchel yn yr iaith Gymraeg
· creu deunydd a chyrsiau hyfforddi mewn technoleg gwybodaeth drwy gyfrwng y GymraegLansiwyd CMC yn swyddogol gan y Cynghorydd Dafydd Iwan yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau, 2005. Dymuna CMC ddiolch i Gyngor Gwynedd am noddi CMC i ddechrau.
Dewi Bryn Jones yw cadeirydd presennol CMC ac mae’n gweithio yn yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr. Mae hefyd yn aelod o Meddal.com, tîm o wirfoddolwyr sy’n lleoleiddo Firefox, Thunderbird, Opera, Mandriva Linux, OpenOffice.org a meddalwedd poblogaidd arall i’r Gymraeg. Bu Dewi’n gweitho am nifer o flynyddoedd yn y Ffindir gyda Nokia lle y daeth ar draws defnydd cyffredin o TG mewn amgylchedd heb fod yn Saesneg a meddyliodd pam ddim yn y Gymraeg hefyd. Graddiodd Dewi mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Efrog yn 1994.
Am ragor o wybodaeth : www.meddalweddcymraeg.org
1900 : Trafodaeth
2000 : Diwedd
Labels: CMC, cymraeg, cymreig, cymru, dotCYM, enw parth, technoleg, TLD