<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Tipio

18.4.08

Yn y newyddion heddiw mae Undebau'n ceisio sicrhau nad yw cyflogwyr yn camddefnyddio tips i bedio a talu lefel cyflog teilwng (a chyfreithiol!) i'w gweithwyr. Dwi 100% tu ôl i'r ymgyrch, cofiaf gael braw un tro tra'n gweithio ar Linell Cymorth i Gyflogwyr, i gyllid y wlad pan oeddwn wrthi'n cynorthwyo perchenog bwyty weithio arllan faint o dreth oedd i'w gasglu o dâl ei staff. Yn ôl yr arfer, gofynnais faint oedd cyflog y gweithiwr ac atebodd "it depends on how much tips they get". Doeddwn ddim yn gwybod beth i'w ddweud.

Ond mae dwy ffordd o edrych arni. Gawlch fi'n Scrooge, ond dwi ddim yn hoffi'r arferiad o dalu tip i rhywun. Dylai'r gwasaneth fod yn berffaith pob tro yn fy marn i, mae fel dweud, "Da iawn, wnaetho chi ddim ffycio popeth fynny tro yma, cymer £2-3". Mae'r elefen disgwyliedig anghywir hefyd, gyda rhai pobl yn disgwyl cael tip an y peth lliaf, neu waeth fydd staff yn bod yn o'r glên mewn modd ffals er mwyn sicrhau tip- ych a fi! A llefydd sy'n ychwanegu 10-15% ar y bil yn barod - peidiwch wir. Byddai'n well gen i petai pobl yn codi prisiau ac yn talu cyflog uwch - os nad yw pobl yn fodlon dod i'r bwyty wedyn, unai tydyn nhw ddim y licio'r bwyd digon, neu tydi'r gwasaneth ddim diggon da.

Peth gymharol diweddar yw tipio ym Mhrydain (a dwi wedi gweld rhai pobl yn gwrthod derbyn tip, yn ei weld fel sarhad bron), ond pan dwi'n mynd dramor dwi ofn trwy fy nhîn nad ydw i'n rhoi digon a bod pobl yn troi'n gas.

Mae'r disgwyliad o roi 10% o'r bil yn fy mhoeni hefyd. Os chi'n mynd am bryd £20 mae disgwyl £2 ychwanegol ar ei ben sy'n lot yn fy marn i, ac os oes 4-5 ohonoch a'r bil yn barod wedi dod i £100, mae disgwyl talu £10 arall ar ben.

Efallai mai Gogs yw'r Cardis newydd wedi'r cyfan.

Un peth dwi'n siwr ohono yw dwi'n mynd i Canteen on Clifton heno, bydd y bwyd yn flasus fel arfer, y staff yn gyfeillgar ac fe adawaf dip iddynt.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:13 pm | dolen | 0 sylw |

DimeGoch.com - prynu Cymru yn ôl

12.6.07

Wedi dod ar draws wefan dimegoch.com heddiw. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod yn cyd-fynd â'r newyddion am gwmni Thomas Cook yn gwahardd eu staff rhag siarad Cymraeg â'u gilydd.

Dro ar ôl tro pan mae sôn am gyflwyno deddfau i sirchau hawliau Cymru Cymraeg i unrhyw fath o wasanaeth Cymraeg yng nghymru, ma'r gwrthwynebwyr yn dweud byddai cwmniau'n defnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol petai pobl wir yn dymuno gwasanaeth Cymraeg. Mae gronyn o wirionedd yn hyn dwi'n cyfaddef, ond yn y pendraw, gyda nifer gynyddol llai o gwmniau'n cornelu sawl sector, mae'n gallu ni i ddewis a dethol yn mynd yn llai. Tydi hi chwaith ddim yn rhesymol disgwyl i unigolyn fynu gwasanaeth Cymraeg ar bod ymweliad â siop gwahanol - byddai'r daith siopa'n bofiad digon amhleserus. Hefyd, mae'n anodd fel unigolyn i gael cwmniau i newid eu ffordd (gyda rhai eithriadau efallai!)

Dyna pam dwi mor hoff o'r syniad (syml) sydd tu cefn i dimegoch.com. Mae'n ffordd dda o ddod ag unigolion at eu gilydd, "mewn undod mae nerth" wedi'r cyfan, gan roi neges cadarnhaol i'r gwahanol gwmniau. Y syniad yw bod pobl sy'n awryddo i'r cynllun yn talu £1 y mis i ddangos eu bod o ddifi ac yn fodlon newid eu patrymau siopa/newid cytundeb os yw cwmni'n gweithredu'n gadarnhaol ynghylch y Gymraeg, tra efallai yn y gorffenol byddai pobl yn ddigon bodlon arwyddo rhyw ddeiseb ar-lein yn gofyn hyn a'r llall, ac wedyn yn anghofio am y peth, neu'n peidio trafferthu newid pan mae'n dod i'r crunch.
Ydych chi am ddod gyda ni? Ydych chi am ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry, y punt Cymraeg, i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:04 pm | dolen | 2 sylw |

Neges gan Amazon i Gymru

3.4.07

Ar yr un penwythnos a glywais y newyddion da bod cwmni Amazon yn dod a 1,200 o swyddi i Gymru (oes na sens rhoi £9 miliwn o 'gymorthdal' i gwmni sy'n gwneud rhwng $370 a $510 miliwn o elw?), dyma fi'n cael siec wedi ei ddanfon yn ôl ataf gan yr un cwmni gyda'r nodyn (hynod gwrtais) canlynol:
Dear Customer,

Please find enclosed your cheque for £22.93 as the words are written in Welsh. Sorry to ask but could you please amend and return to us so we may proceed with your order, as the bank may not be able to read it.

Kind regards
Billing Dept.
Agwedd braidd yn od a hen ffasiwn. Dwi wedi bod yn postio siec yn Gymraeg i BT ers blynyddoedd heb unrhyw drafferth. Dwi eisioes wedi danfon llythyr i'r Western Mail, oes llawer o bwynt danofn un at Rhodri Morgan (fy AC lleol), Andrew Davies a Alun Pugh chi'n meddwl?

Diweddariad 4/4/07

Wedi cael ymateb gan Amazon.


Diweddariad 10/4/07

Wedi cael ymateb ar ran Alun Pugh. Tydi o ddim yn rhoi unrhyw farn ar y sefyllfa, mond yn dweud ei fod wedi pasio'r peth ymlaen at Fwrdd yr Iaith er mwyn iddyn nhw gysylltu âg Amazon.
Yr wyf [Robert Tyler, Uned Iaith Gymraeg/Cyfryngau], felly, wedi gofyn i’r Bwrdd gysylltu gyda Amazon mewn perthynas â’u polisiau iaith. Bydd y Bwrdd wedyn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chi
Mae hyn yn newyddion da gan fod rhywun o gylchgrawn Golwg hefyd wedi cysylltu âg adran wasg cwmni Amazon ar ôl darllen fy sylw ar maes-e am y peth.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:28 am | dolen

England Rocks (a Chymru hefyd)

12.3.07

Mae enjoyEngland wedi lawnsio gwefan o'r enw England Rocks sy'n defnyddio 'stwnsh' googlemaps (a la Curiad) i dangos mannau o ddiddordeb yn ymwneud â hanes cerddoriaeth yn Lloegr ac hefyd lleoliad gwahanol wyliau cerddorol. Dwi'n meddwl ei fod yn syniad da ac yn rhywbeth sy'n mynd i apelio at ymwelwyr o dramor, ond efallai fwy fyth at ddarpar ymwelwyr o'r wlad ei hun.

Dwi o'r farn nad yw'r Bwrdd Croeso yn gwneud digon i hyrwyddo twristiaeth mewnol yng Nghymru. Mae yna nifer fawr o ŵyliau cerddorol cymunedol wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru yn y 5 mlynedd diwethaf, a dwi'n meddwl eu bod yn cyfrannu tipyn at yr economi leol. Tydi gŵyliau Cymraeg (eu hiaith) ddim yn cael llawer o gyhoeddusrwydd tu allan i'r byd Cymraeg, ac efallai bod bai ar y trefnwyr am hyn i raddau, ond yn hytrach na disgwyl i'r Bwrdd Croeso ddod i fyny gyda syniad tebyg, dyma fap yn dangos rhai o brif ŵyliau cerddordol Cymru. Mae'n syndod faint o bobl o du allan i Gymru sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth Cymraeg ei iaith. Os oes na unrhyw ŵyliau dwi di anghofio, gadewch sylw, neu gwell fyth ychwnaegwch nhw at y tag walesrocks.



Labels: , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:05 am | dolen | 0 sylw |