Delweddau Rhydd (Flickr a Geograph)
23.4.08
Oes gyda chi gyfrif Flickr neu wasanaeth debyg? Os oes, pa drwydded ydych yn roi ar eich lluniau? Efallai nad ydych erioed wedi meddwl am y peth. Ar Flickr y gosodiad rhagosodedig yw 'All rights reserved', sy'n golygu na chaiff neb ddefnyddio eich delweddau heb eich caniatad.
Os nad oes ots gyda chi os yw pobl yn befnyddio eich lluniau/fideo/darn cerddoriaeth ayyb, gallwch roi trwydded Creative Commons iddynt, sydd yn rhoi hyn a hyn o hawliau i fobl ddefnyddio eich gwaith heb ganiatad, ond cyn belled a'u bod yn cydnabod mai chi wnaeth y gwaith gwreiddiol. Fe allwch osod rhai amodau, fel ddim gwaith masnachol, dim addasu ayyb drwy ddewis gwahanol drwyddedau.
Prif bwrpas y rhain yw peidio cyfyngu creadigrwydd yn y pen draw. Defnydd arall yw galluogi pobl fel fi i ychwanegu delweddau at erthyglau Wicipedia er mwyn iddynt ymddangos yn fwy deiniadol (fel erthygl Eglwys Sant Teilo, diolch i Traed Mawr).
Felly fel oeddwn i'n ddweud, os ydych yn tynnu lluniau a'u rhoi ar Flickr, beth am eu gwneud ar gael i eraill? Gallwch unai dewis trwydded yn ôl pob llun, neu newid trwydded eich holl luniau.
Dwi wedi bod yn meddwl gwneud cofnod blog am hyn ers amser, ond bu trafodaeth ar Wicipedia heddiw am wefan arall sy'n ffynhonell lluniau rhydd, sef Geograph. Mae hwn yn ardderchog, gan y gallwch chwilio am ddelwedd drwy fap (cofiwch zoomio fewn). Un problem wrth gyfrannu ato fydd bod â'r mynedd i ddarganfod cyferinod map OS i bob man - welai nunlle ar y wefan sy'n dweud ffordd hawdd o ddod o hyd i hyn. Siawns bod ateb i gael rhywle.

Labels: flickr
Y môr Cymreig
13.3.08
Dwi fel pob Cymro arall yn croesi pob dim ar hyn o bryd yn y gobaith y bydd tîm rygbi cymru'n efelychu llwyddiant 2005 drwy ennill y gamp lawn. Ar y diwrnod hwnnw roedd cyngor y ddinas wedi codi sgrîn anferthol o flaen neuadd y ddinas ac fel y gwelwch o'r llun isod daeth torf anferthol yno i'w wylio.
Roeddwn i a Sarah wedi cyrraedd yno yhydig cyn i'r gêm ddechrau, ac roedd gennyf lond sach o ganiau Brains ('cwrw sywddogol tîm rygbi Cymru' dim llai) - ond allai Sarah ddim gweld dim. Cawsom alwad ffôn gan ffrind Sarah i ddweud bod hi ychydig lathennau i ffwrdd yn St Andrews Crescent yn gwylio'r gêm ar sgrîn fawr yn boardroom cwmni cyfriethwyr ble roedd ei phartner yn gweithio, a cawsom wahoddiad i ymuno â nhw. Roedd rhai o bartneriaid y cwmni yn digwydd bod yn Wyddelod cefnog afiach, felly braf oedd eu trechu!

Ystadegau ar Flickr
17.12.07
Os oes gyda chi Pro Account Flickr, yna gallwch rwan weld ystadegau ymweld ar gyfer eich lluniau. Dwi newydd adnewyddu fy nghyfrif unwaith eto. Does dim syniad gyda fi faint gostiodd Flick pan gafodd ei brynnu gan Yahoo yn 2005, ond gyda aelodau yn talu £12.50 y flwyddyn a synnwn i ddim os nad oes dros filiwn o aelodau ganddynt, hefyd oes rhywun eriod wedi gweld hysbyseb Flickr? Does dim angen un, mae'n gallu dibynnu ar ddefnyddwyr a blogwyr i'w hyrwyddo (jyst fel hyn).
Ond yn ôl ata i. Diolch i'r stori Digg, mae dros 10,000 o bobl wedi edrych ar y llun yma.

Llwy Caru mwya'r byd, Caerdydd
16.12.07
Er bod erthygl ar wefan yBBC yn dweud y byddai wedi ei gwbwlhau y penwythnos yma, pan gerddais heibio ddoe, roedd tipyn o waith i fynd ar ymgais record y byd i greu'r llwy caru mwyaf erioed.

Dylai edrych yn dda wedi iddo orffen. Tra'n chwilio am lun gwell nag un fi uchod, darganfyddais bod mainc siap llwy garu ym Mharc Bute yn barod.
Golygu eich lluniau ar Flickr
5.12.07
Oes rhyun arall wedi sylwi ar hyn ar flog Flickr? Gallwch rwan olygu eich lluniau yn syth o Flickr. Mae ychydig yn araf ond mae yn lwyth o opsiynnau.
Labels: flickr
Wedi digio* gyda'r Diggwyr
3.12.07
Sbel yn ôl fe flogiais am y dewis o lyfrau ar un o ochrau Llyfrgell Ganolog Caerydd.
Echdoe dyma gofnod yn cynnwys fy lluniau yn cael ei ychwnaegu at wefan Digg (be di Digg?) . Yn anffodus does dim dolen yn ôl at fy mlog i o'r cofnod, mond at fy nghyfrif Flickr, felly fyddwn i ddim wedi gwybod am y peth oni bai bod Eidales fonheddig wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod wedi defnyddio fy llun a gofyn at ble hoffwn i ddolen fynd. Hyd yma mae 7,500+ o bobl wedi edrych ar y llun, ac mae'n debyg na ddau llawer mwy gan ei bod yn hen stori erbyn hyn debyg.
Gallwn wedi bod yn enwog :-(
*Digio = gair o'r gogledd ddwyrain am bwdu wedi i rhywun eich pechu.

Cyfarchion amlieithog Flickr
15.10.07

Wedi i Luistxo gael ei gyfarch mewn Gwyddeleg ar Flickr, mae'n gofyn 'ble mae'r un Basgeg?'. Cafodd Robert wedi cael ei gyfarch yn Gymraeg.

Os digwydd i chi fewngofnodi i'ch cyfrif Flick a chael eich cyfarch gyda "Ongi etorri [dy enw]", yna cymera sgrînlun, bydd Luistxo wrth ei fodd!
Labels: basgeg, cymraeg, euskara, flickr, gaeilge, gwyddeleg, ieithoedd
Stwnsh Sain Ffagan
21.5.07
Dwi heb ei orffen ei goginio eto, ond meddwl bod y blog yma ac ambell flog Cymraeg yn dawel, felly...
Cynhwysion:
Lluniau Sain Ffagan o Flickr*
Eitemau Sain Ffagan o Casglu'r Tlysau
Ambell ddolen o wefan swyddogol Sain Ffagan
Manylion o wefan BBC South East
Cyfarwyddiadau:
Rhowch yn y popty (Tagzania) am 5 munud, a'i dagio gyda sainffagan ac hefyd y flwyddyn adeiladwyd, nes bod llun a dolen at wybodaeth am bob adeilad ar safle'r amgueddfa. [mwy o fanylion]

Serving Suggestion:
sainffagan tagged map by user - Tagzania
*Dwi'n sylwi mod i'n nabod y rhan fwyaf o gyfranwyr lluniau Sain Ffagan ar Flickr. h.y. dwi wedi unai dod ar draws eu blogiau neu manet yn aelodau o maes-e.
This is a mash-up for the Welsh Folk Museum at Sain Ffagan (or 'Sain Fagan National History Museum' as it's been re-branded in English), using social networking sites Tagzania and Flickr, and also public funded sites like BBC, Gathering the Jewels and the museum's official website. You can help me finish it by using the tag 'sainffagan' and the construcion date of the building if known.
Labels: caerdydd, cardiff, flickr, sain ffagan, st fagans, tagzania, web2.0
Tymor arall drosodd, creisis arall drosodd.
13.5.07
Mond rwan dwi'n cael cyfle i lawrlwytho fy lluniau o'r gêm rhwng Wrecsam a Boston penwythnos diwethaf ble roedd yn rhaid i'r ddau dîm ennill i sircrhau aros yn y gyngrhair.
Roedd dau flogiwr arall yno hefyd.
Yn y cyfamser dyma fi'n chwilio am luniau o'r diwrnod ar Flickr, a darfod, rhain, rhain a rhain.
Dyma fferfrynau o'r tri casgliad:

Un cefnogwr am ddangos ei werthfawrogiad i Danny Williams mewn ffordd arbennig!

Un cefnogwr yn methu erdych wrth i Wrecsam unioni gyda chic o'r smotyn. Y Kop yn orlawn ar gyfer y gêm gynrhair olaf o'i flaen yn ei ffurf bresenol cyn iddo gael ei ddymchwel yn yr haf.

Llun hollol cawslyd gan Gary o'i gyd sylwebwyr ond un sy'n dod a gwên i'm gwyneb. Daeth Nic Parri allan efo un o'i berlau wedi'r gêm: "Gorffenodd Chris Llewelyn y gêm yn ei fest, ond fyddai'm gwahaniaeth gan neb petai wedi gorffen y gêm ond yn gwiso'i ddrons"!

Labels: boston, cymru, flickr, football, pêl-droed, wales, wrecsam, wrexham
jalgi hadi (Scymraeg Basgeg)
16.3.07
Siawns eich bod yn ymwybodol o'r grŵp Scymraeg ar Flickr. Yn anffodus mae 256 o luniau arno'n barod a'r niferoedd yn cynyddu.
Mae grŵp tebyg ar Flickr ar gyfer gwallau mewn arwyddion/posteri Basgeg o'r enw ialgi hadi.
Dyma engrhaifft gwych o boster gwrth-gyffuriau gan y llywodraeth yno:
Mae'r fersiwn Sbaeneg yn dweud 'Gweithgaredd gwych heb gyffuriau'
a'r fersiwn Basgeg yn dweud 'Dim gorffwys heb gyffuriau'

doniolwch, basgeg, flickr, euskara, euskadi
Generated By Technorati Tag Generator