<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwahardd Ysmygu - 11 diwrnod i fynd (ac yn cyfri)

22.3.07

Allai'm disgwyl am y gwaharddiad. Dwi wedi cael hen ddigon ar ddod adre o'r dafarn yn drewi. Am ryw reswm dros y blynyddoed diwethaf dwi wedi dod yn llai a llai goddefgar, ac yn fwy ymwybodol fyth o'r arogl a'r mwg. Dwi di amcan gyfrif byddai'n mynychu'r dafarn (nid yn angenrheidiol yr un un!) bedwar gwaith cyn ddaw'r gwaharddiad i rym. Unrhywun am ddod allan am beint ar yr 2ail o Ebrill i ddathlu?

I'r rhai ohonoch sy'n darllen y post hwn drwy newsreader (neu'r melltith a elwir Internet Explorer) mae graffeg Flash ar ben y colofn dde sy'n dangos sawl diwrnod sydd i fynd.

,
Generated By Technorati Tag Generator

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:41 pm

7 sylw:

Dw i hefyd yn edrych ymlaen at hyn, er mod i'n smygwr achlysurol. Dw i wedi dechrau'n gynnar, gan beidio smygu yn ystod y gêm poker nos Fercher am bythefnos, er i mi gael un ffag neithiwr i ddathlu ennill pot arbennig.

Mae'n anodd gweld sut all unrhyw un fod yn erbyn hyn, ond wrth gwrs bydd pobl yn cwyno. Yn anffodus, fydd newid ddim yn dod o wirfoledd ar fater fel hyn - rhywbeth sy'n wir hefyd am newid ein harferion llosgi carbon.
sylw gan Blogger Nic, 2:31 pm  

Mae gynnon ni gwaharddiad ysmygu yma ers dau mlynedd. Roedd 'na llawer o busnesau yn cwyno am y peth ac yn deud eu bod nhw'n methu yn sicr, ond dau mlynedd nol, mae'n popeth yn iawn. Mae'r smygwyr yn mynd allan i smygu hyd yn oed y tywydd yn oer yn ofnadwy (-20 gradd F).
sylw gan Blogger Tom Parsons, 2:55 pm  

Nid mod o blaid y llywodraeth yn mabwysiadu pob math o reolau, ond bydd effaith y gwaharddiad yn bositif iawn yn fy marn i. Bydd rhai yn cwyno wrth gwrs, ond yn y pen draw dwi'n meddwl bydd hyn yn cael ei groesawu gan y rhai sydd eisiau rhoi'r gorau iddi, ond sydd yn cael hi'n anodd peidio ail-ddechrau pan yng nghwmni criw o ysmygwyr eraill.

Dwi wedi ymweld â Canada a Seland Newydd (a llosgi tunnelli o garbon yn y broses - cywilydd) ac roedd yn bleserus iawn gallu mynd allan a peidio gofod anadlu mwg pobl eraill.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:11 pm  

Rhys, meddwl gadael comment bach gan mai ti yw'r unig un sydd yn trafferthu gadael sylwad ar fy mlog i! Ond Rhys bach, beth yw'r holl ymddygiad gwrth ysmygu yma? Fel conoissoeur Amber Leaf, o'n i'n gobeithio y byddem yn eneidiau hoff gytun, ond i ti ddymchwel fy nisgwyliadau gyda dy flog anti-smoco!! Dylai'r llywodraeth gwahardd baco'n gyfan gwbwl yn lle cymeryd 'half measures' fel hyn sy'n gwbwl hypocritical! Opsiwn arall yw cael pybs smygu a pybs dim smygu i ni gael y dewis!
sylw gan Anonymous Anonymous, 12:59 pm  

Fel conoissoeur Amber Leaf...

Iesu goc, ti'n ffricio fi allan rwan, sut ti'n gwbod hynny!

Ydw dwi'n cyfaddef mod i'n mwynhau mwgyn bach 'drwg' yn achlysurol, ond mond yn yr awyr agored dwi'n ei ysmygu, a dylwn i roi gore i hefyd rili.

Dylai'r llywodraeth gwahardd baco'n gyfan gwbwl yn lle cymeryd 'half measures' fel hyn sy'n gwbwl hypocritical

Cytuno.


Fi di'r unig un sy'n gadael sylw ar dy flog achos does neb arall yn gwbod bod gin ti un oni bai bod ti'n gadael sylwadau ar flog pobl eraill. Byddwn i wedi dod o hyd iddo'n y diwedd achos dwi'n saddo ac yn tracio blogiau Cymraeg eu hiaith gyda Technorati, ond Nic ddaeth ar draws dy flog gyntaf.

Reit, ti eisiau ymwelwyr? Wnai wneud post spesial am dy flog di ar yr amod bod ti'n deud wrthai pwy wyt ti (trwy e-bost os ti eisiau cadw'r peth yn gyfrinach) - dwi'n cachu'n hun rwan yn meddwl bod rhywun yn mynd trwy fy mhocedi i :-(
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 4:01 pm  

Helo Rhys
Diolch yn fawr am wneud fy mlog yn fwy 'accessible' i'r Werin Bobol. Na dwi ddim yn 'psychic', ymddiheuriadau wnes i sgrifennu'n anneglur -fi sy'n smygu Amber Leaf - dwi ddim wedi edrych trwy dy bocedi! Fe wna i gadw fy enw go iawn yn gyfrinachol am nawr, ond os wnei di gario mlaen darllen fy mlog, a gyrru sylwadau neis i fi, falle, gei di wybod pwy ydw i yn go fuan!!!
sylw gan Anonymous Anonymous, 1:29 pm  

Ffiw, teimlo'n well rwan.

Roeddwn i wedi mynd yn paranoid braidd (sgil-effaith arall annymynol o ysmygu brand arbennig o fwgyn) gan mai'r baci diwethaf brynais (amser steddfod) oedd Amber Leaf a'i fod o dal gynnai rwan!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:47 pm  

Gadawa sylw