<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Wythnos o 'Wythnos yng Nghymru Fydd'

22.5.07

Wythnos yma, mae yna gyfres o ragelnni ar Radio Cymru yn dathlu 50 mlynedd ers cyhoeddi nofel 'Wythnos yng Nghymru Fydd' gan Islwyn Ffowc Elis.

Dyma oedd nofel ffug wyddonol cyntaf yn yr iaith Gymraeg. Ynddo mae dyn ifanc o Gymru'r 1950'au yn teithio i'r dyfodol (2033?) ac yn cyrraedd Cymru rydd delfrydol ac mae'n disgyn mewn cariad. Ar ôl mynd nôl i'r presenol roedd yn benderfynol o fynd yn ôl i'r dyfodol eto i fod gyda'i gariad, ond does dim gwarant mai i'r un dyfodol y bydd yn cyrraedd.

Neithiwr fe ddarllenwyd y cyntaf o bedwar darlleniad o addasiad radio or nofel.
Fel holwyd 400 o bobl ar draws Cymru i weld beth fydd Cymru fel mewn 50 mlynedd arall.

Er mai nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis, roedd pwrpas arall i'r llyfr, sef propoganda ar gyfer Plaid Cymru i geisio cael y Cymry i ddefro i'r posibiliadau o hunan lywodraeth ac annibyniaeth yn y pen draw. Dwi wrthi'n darllen Gwynfor: Rhag pob brad ar hyn o bryd, a dwi wedi cyrraedd y 50'au cynnar pan mae ymgyrch Senedd i Gymru'n cael ei lawnsio, sy'n amserol iawn i mi felly.

Ond nid y syniadaeth wleidyddol yn unig sy'n ddiddorol yn y nofel, roedd gan Islwyn Ffowc Elis syniadau a gweledigaeth rhyfeddol yn ymwneud a thechnoleg; yn y darllenaid neithiwr roedd sôn am under floor heating, ac o be dwi'n cofio o ddarllen y nofel fy hun, roedd bwytai posh yn Nghaerdydd yn gwerhu bwydydd Cymrieg tradodiadol a doedd pobl ddim yn prynnu papurau newydd rhagor gan fod modd darllen y newyddion ar sgrîn yn y cartref!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:54 pm

3 sylw:

w! w! Oes posib i ti roi recordiad ohono ar soulseek neu rhyw wefan i'w lawrlwytho ?
sylw gan Blogger Blewyn, 8:53 pm  

Dim syniad sut i wneud y fath beth sori, er mae modd ail wrando ar ambell beth o'r gyfres, e.e. os ei di i dudalen Wythnos yng nghymru Fydd ar wefan y BBC mae modd gwrando ar barn 'arbennigwyr' am syniadau Islwyn Ffowc Elis ar wahanol bynciau fel technoleg, trafnidiaeth, yr Iaith ayyb. Yn ôl rhywun ar maes-e mae DAfydd El yn sôn am yr iaith Gynmraeg ac yn dweud does dim i'w boeni am bellach!

Siawns bod modd ail-wrando ar y darlleniad o'r nofel hefyd. Y drwg ydi tydi pethau ond yn aros ar lein gan y BBC am wythnos wedi iddynt fod ar y radio.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 5:55 am  

First time reading this, thanks for sharing
sylw gan Anonymous laberryy, 5:05 am  

Gadawa sylw