<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gorymdaith Gwyl Dewi: Caerdydd 1.3.07

27.2.07

Cofiwch am yr orymdaith sy'n gadael y Mochyn Du tua 2:00ish p'nawn Dydd Iau. Tydi'r diawled di-asgwrn cefn yn y Bae ddim am roi diwrnod o wyliau i ni, ond dwi'n cymeryd diwrnod o wyliau beth bynnag. Cefnogwch noddwyr caredig yr orymdaith. Rhywun am ymuno â mi am beint?

Y faner gwych gan Wynne Jones (Brenin y Photoshop)

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:51 pm

4 sylw:

Rhys, mi fydd Ellan a fi yno mewn ysbryd!
sylw gan Blogger Tom Parsons, 3:15 pm  

Hoffwn fynd ond methu - roedd hi'n un dda dwy flynedd yn ol a dwi'n gutted na fyddai'n clywed Bagad Bro Morgannwg a Band Drwm Cambria.

O ran Diwrnod off ar gyfer DGD dwi'n cytuno gyda Myrddin ap Dafydd. Dwi ddim yn gweld y pwynt o gael 'diwrnod off' na 'gwyl banc'. Dwi isie diwrnod cenedlaethol - hynny, diwrnod di-waith ond ddim yn wneud ffyc ol a jyst meddwi ond i gael dathliadau cadarnhaol - steddfod lleol, noson lawen, prosesiwn, drama, cwrdd am ginio gwyl ddewi (ac efallai meddwi wedyn). pwynt bach, ond pwysig. Dwi ddim yn impressed efo St Patrick's Day - mae pobl yn meddwi'n gachu pob penwythnos, beth sydd mor sbesial am wneud e ar ddiwrnod nawddsant?

huw
sylw gan Anonymous Anonymous, 8:29 pm  

Digon gwir, mae eisiau rhywbeth amgenach na dim on piss up, ond byddai'n dal yn anghwrtais i mi beidio a chael dau beint ychwanegol dros Tom ac Ellan ;-)

Wnes i fwynhau yr orymdith llynedd a bydd Band Cambriau (drymwyr gwladgarol o sir Fflint) yno eleni hefyd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:20 pm  

Rhys, ti'n iawn, mae'n well i ti cael peint dros ni! Peint o Bread of Heaven os gwela di'n da.
sylw gan Blogger Tom Parsons, 5:56 pm  

Gadawa sylw