<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



1000 o bethau mae'r Bwrdd Croeso'n wneud o'i le

15.8.07

Tydyn nhw ddim mor wael a hynny, ond dwi erioed wedi hoffi eu gwefannau nhw rhyw lawer.

Wrth ymweld â'u prif gwefan visitwales.com, rydych yn cael y dewis ar y dde. Mae defnyddio baneri i ddynodi iaith yn rhywbeth sydd ddim yn dderbyniol iawn ac mae'n gymysglyd, gwell fyddai defnyddio llythrennau ISO 639-1, a rhoi dolen atynt yn y gornel dde uchaf.

Mae'n aneglur beth mae nhw eisiau wybod, a'i o ble mae person yn dod, ta pa iaith mae'r person eisiau darllen y wefan?

Mae modd dylunio gwefan fel ei fod yn eich danfon yn syth at y fersiwn yn yr iaith rydych wedi osod fel eich dewis cyntaf ar eich porwr. Hefyd, siwans bod modd tracio o ba wald mae pob ymwelydd yn dod yn awtomatig.

Da gweld bod gwefan ar gael yn y Gatalaneg, ac os digwydd i chi glicio ar y dudalen Sbaeneg, mae dolen at y ferswin Gatalaneg arni - ond os digwydd i chi glicio ar y dudalen DG, does dim un at y Gymraeg am ryw reswm.

Oni bai am dudalen blaen y fersiwn Sbaeneg, does dim modd newid iaith rhwng tudalennau, sy'n tipyn o boen os ydych yn dewis iaith mewn camgymeriad ac eisiau gweld y dudalen gyfatebol mewn iaith arall. Sut fydde rhywun yn dewis iaith mewn camgymeriad medde chi? Wel es i i'r dudalen Cymraeg yn ddigon naturiol a chlicio ar newyddion, doedd dim yno, felly meddylais efallai caf well lwc ar y dudalen newyddion Saesneg. Roeddwn yn iawn wrth gwrs, ond roedd rhaid clicio yn ôl i'r dudalen splash yn gyntaf.

Yn ddiweddar dois ar draws gwefan o'r enw Wales1000things, sy'n reit chwyldroadol mewn ffordd, ond ddim mewn ffordd arall. Hyd y gwn i, dyma yw gwefan gwe2.0'aidd cyntaf Llywodraeth y Cynulliad. Yn y bôn gwefan ydi o gan y Bwrdd Croeso sy'n gwahodd pobl (ymwelwyr i Gymru) i ddanfon lluniau neu clipiau fideo o'u hymweliad at y wefan. Mae wedi ei anelu'n bennaf at bobl sy'n ymweld â Chymru i gymeryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel cerdded, mynydda, dringo, beicio a chwaraeon dŵr.

Dwi'n meddwl fod y syniad yn un ardderchog, tydyn nhw'n gwneud dim cyfrinach o'r ffaith eu bod wedi eu dylanwadu gan Flickr a YouTube, ac mae golwg y wefan yn gweddu'r ddelwedd gwe2.0 i'r dim, ond......
  • defnyddi'r yr sillafiad Seisnig Caernarvon (ych a pych - does dim esgus am hyn!)
  • diffyg dolenni - ar waleod pob llun/tudalen mae is-bennawd 'More Info', ond yn hytrach na rhoi llwyth o ddoleni defnyddiol a pherthnasol i chi, dim ond at un tudalen o fewn visitwales.com y cewch i'ch danfon. Ar gyfer y llun hwn o'r ddechrau'r Taff Trail neu hwn o daith beicio Parc Penallta, does ond dolen at dudalen generic seiclo ar visitwales.com, yn hytrach nag at dudalen Taff Trail ei hun, gwefan Sustrans neu dudalen Parc Penallta ar wefan y cyngor lleol a fyddai'n darparu mwy o wybodaeth manwl a pherthnasol.
  • does dim gair o Gymraeg arno - yn amlwg tydi o erioed wedi croesi eu meddwl nhw y byddai pobl o Gymru, yn arbennig siaradwyr Cymraeg yn mynd ar eu gwyliau yng Nghymru - wel, mae'n debyg y byddant i gyd wedi mynd i Riviera Lloegr [diolch i Simon am y ddolen]
Gadawais sylw ar flog Wales1000things, ond nid chafodd ei gyhoeddi wedi ei gymedroli (doedd dim rhegi arno, wir i chi) a doedd cynrychiolydd y Bwrdd Croeso ar stondin Llywodraeth y Cynulliad yn y steddfod eriod wedi clywed am y wefan!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 12:21 pm

0 sylw:

Gadawa sylw