<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Deutsche Homo-Erotik, ja, ja

7.7.09

Os oes yna un peth yn fwy trist na gwneud twat o'ch hun drwy fynychu gemau pêl-droed jyst er mwyn achosi helynt ac ymddwyn fel plant, yna gwneud sticeri bach i gyd fynd â'ch criw ydy hynny (gweler isod).

Mae'r sticer yma bron a difalanu oddi ar bostyn lamp wrth groesfan dw i'n defnyddio'n ddyddiol. Mae wedi bod yna ers i Gymru chwarae'r Almaen yn ddiweddar yn Stadiwm y Mileniwm. Dw i ddim yn gwybod os mai er ein budd ni y mae'r sticer yn yr iaith Saesneg ac nid Almaeng, neu oes gan y ffyliaid yma gyn lleied o hunan barch fel eu bod yn ystyried hwligniaid Seisnig fel eilunod ac eisiau eu hefelychu ym mhob modd posib?Efallai mai fy sgiliau Gwglo i sy'n wael, ond pan chwiliais am Cologne Street Fighters, does fawr ddim canlyniadau heblaw am ychydig o fideos YouTube. Mae nhw mor chwerthinllyd, ac yn gasgliad o luniau camra wedi eu gosod gyda'i gilydd hefo sain cefndir o unai cerddoriaeth dawns mwya cawslyd neu ryw ganu gwerin/gwlad sy'n gwneud i arlwy Radio Cymru swnio'n hanner derbyniol. Ond os ydych yn joio sbio ar criw o lanciau penfelen heb grysau ymlaen yn esgus ymladd gyda'i gilydd, dyma'r lle i fod.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 9:36 am | dolen | 0 sylw |

Yr hawl i sefyll mewn gêm bêl-droed (Bradford City yn arwain y ffordd)

12.5.09

Es i a'm ffrind i wylio Everton ar y penwythnos. Dyna'r tro cyntaf i fi wylio gêm byw yn Uwch Gynghriair Lloegr ers i mi fod â thocyn tymor i wylio Everton yng nghanol y 1990'au. Pendefynais roi'r gorau i fy nhocyn tymor pryd hynny gan fy mod i ar fin dechrau yn y brifysgol ac i fod yn onest roedd yn llawer mwy o hwyl sefyll ar y kop yn Wrecsam (a oedd yn gwneud yn reit da ar y pryd) - roeddwn yn teimlo'n agosach at gefnogwyr Wrecsam (yn llythrenol weithiau!).

Tros y blynyddoedd dw i wedi bod yn ymweld â gwahanol faesydd pêl-droed i wylio Wrecsam a Chymru, a dw i'n gweld bod llai o glybiau yn caniatau sefyll. Yn un peth, mae'n llawer gwell gyda fi sefyll - dw i'n teimlo'n rhan o'r gêm bron, tra'n teimlo'n reit detached wrth eistedd. Hefyd os meiddiwch chi sefyll a chanu, mae stiwardiaid ar eich cefn yn syth yn bygwth eich taflu allan o'r maes.

Gan nad ydw i'n gwerthfawrogi cael fy nhrin fel plentyn/dihiryn ar ôl talu tua £20 am docyn a gwario arian a threulio oriau'n teithio i'r gêm, dw i wedi penderfynnu mynychu llai a gemau, a dim ond mynd i faesydd ble mae modd sefyll. Yn anffodus, mae Wrecsam wedi cau'r Kop y tymor yma sydd newydd ddod i ben, gyda'r gobaith o adeiladu EISTEDDle newydd yn ei le, felly does dim opsiwn sefyll i'w gael bellach ar y Cae Ras. Mae Abertawe a Caerdydd rwan yn chwarae mewn meysydd seddi'n unig hefyd.

Daeth llygedyn o obaith wythnos diwethaf pan dderbyniais e-bost gan Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed gyda'r newyddion am arbrawf yn Bradford.
Safe Standing a step closer at Bradford

Back in 2008 we wrote that Bradford were sympathetic towards supporters' wishes to stand so it’s pleasing to see the Bantams' wait for Safe Standing could soon be over. Every survey shows that around 90 per cent of fans are in favour of Safe Standing areas and Stand Up For The Bantams is campaigning to raise funds in order to pay for a trial at Valley Parade. If you would like to get involved email Stand Up For The Bantams today. To hear more about the FSF's work on Safe Standing email Colin Hendrie.

Yn ddigon eironig, yn Valley Parade tua 3 tymor yn ôl y profias i stiwradiad mwya bygythiol tuag at bobl oedd yn meiddio sefyll (yn rhes gefn yr eisteddle o bob man!), ond mae'n newyddion da - gobeithio bydd mwy o wybdaeth ar gael yn fuan.

Beth sy'n amlwg yw y bydd yna rywfaint o gost (er ddim llawr) yn gysylltiedig a'r cynllun uchod, a bydd eisiau rhyw rigmarol o adroddiadau iechyd a dioglewch a stiwardio 'arbennig' ayyb. Byddai'n arbed llawer o amser ac arian petai cynllun o'r fath yn cael ei ystyried wrth adeiadu neu addasu meysydd pêl-droed o hyn ymlaen.

Beth sy'n gwneud yr holl beth yn fwy annheg yw'r anhysondeb. Mae Scarlets Llanelli newydd adeiladu stadiwm newydd gyda ardal sefyll pwrpasol, a deallaf bof Dreigiau Gwent am wneud yr un fath. Cewch sefyll i wylio rygbi a rasio ceffylau ac hefyd mewn rhai o'r meysydd pêl-droed mwyafmodern yn Yr Almaen.

Hefyd, tra'n gwylio Everton ar y penwythnos, fe sefodd pob un o gefnogwyr eu gwrthwynebyr (Spurs) drwy gydol y gêm heb unrhyw ymyraeth - da iawn nhw ddweda i. A'r gwahaniaeth mawr oedd fe wnaeth y 1,500 o gefnogwyr Spurs ganu drwy'r gêm, tra na wnaeth cefnogwyr Everton smic. Mae mynd i wylio Cymru yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm yn brofiad digalon hefyd, gan bod dim awyrgylch yno.

Mae erthygl dda yn y Guardian (o 2007) yn rhoi'r dadl yn glir iawn mai camgymeriad oedd y gwaharddiad ar sefyll yn dilyn trychineb Hillsbrough.

Hefyd ar wefan Stand Up Sit Down mae erthyglau gwych yn esbonio manteision sefyll o ran y clybiau ac o ran y cefnogwyr.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:00 pm | dolen | 2 sylw |

Ian Rush a Mickey thimas yn arwyddo eu hunangofiannau yng Nghaerdydd mis nesa.

27.8.08

Bydd dau gyn-chwarawr Cymru a Wrecsam (ok, a Lerwp a Man U i chi genfowyr cadair freichiau) yn arwyddo eu hunangofiannau yng Nghaerdydd wythnos nesaf.


Ian Rush
2.9.08 Watestones am 12:30
Despite finding foreign countries a little, well, foreign, Ian Rush is a role model for the footballing youth of today. This is his own story, from his school team in Flintshire, to the dizzy heights of European success with Liverpool, (and breaking a few records along the way), and is a must-have for Liverpool fans and those fervent followers of the Welsh team. Plus, he'll be signing copies in branch at Cardiff on the 2nd September 2008, so come along and meet him for yourself!

Mickey Thomas
6.8.08 Borders am 12:00
Mickey Thomas - Kickups, Hiccups, Lockups - The Autobiography 12:00 pm, Sat 6th Sep 2008
‘Maverick’ is one of the kinder words uttered about Mickey Thomas, the ‘Welsh George Best’, during a remarkable football career spanning periods at Wrexham, Manchester United, Chelsea, Everton, West Brom, Brighton, Leeds, Stoke, Derby – and Kirkham Open Prison FC. Mickey will be in store from 12pm signing his autobiography and meeting fans. One of the games more exciting and controversial figures, this promises to be an event to remember. Arrive early to avoid disappointment. The book itself promises to be undoubtedly be the most exciting, enthralling and touching football autobiography of 2008.

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:00 am | dolen | 0 sylw |

Oblygiadau pell gyrhaeddol tîm bowls Catalonia?

9.5.08

Diolch i Rhodri am ddanfon dolen ataf am y canlynol:

Major step towards full recognition for Catalan national sports teams

25/04/2008

The Court of Arbitration for Sport gives the go-ahead for non-state teams if these are permitted by international federation rules · Catalonia’s national basketball, handball and athletics teams could soon enjoy official recognition.

Mae hwn yn stori reit difyr ar sawl lefel. Yr un amlwg wrth gwrs yw gall helpu yn yr ymgyrch deilwng i gael cydnabyddiaeth i dîmau pêl-droed cenedlaethol Catalonia a Gwlad y Basg. Efallai gall agor cîl y drws iddynt gael eu cydnabod gan Fifa, er nid ydynt wedi bod yn awyddus hyd yma. Ond mae dimensiwn Cymreig i'r stori hefyd dwi'n meddwl.
The decision by the CAS came to light on Wednesday 23 April, when the court rejected the Spanish Bowling Federation’s appeal to prevent the Catalan bowling team competing at international level. The ruling not only sets an important precedent for several other sports – and for other unrecognized national teams worldwide – but is especially significant since it will allow the Catalan national team to compete in a sport, bowling, that is recognized by the International Olympic Committee (IOC).
Diddorol fyddai gwybod beth fyddai ymateb y CAS i gais gan Gymru i gystadu mewn pêl-droed (neu unrhyw gamp arall) yn y gemau Olympaidd? Dyma fygythiad y dylid ei defnyddio yn yr ymgyrch (os elli'r ei alwn'n hynny) yn erbyn y sôn am dîm pêl-droed Prydeinig.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 9:27 am | dolen | 0 sylw |

Cymru drwodd i rowndiau terfynnol Ewro 2008

26.2.08

Cystadleuaeth Europeada 2008 hynny yw. O wefan Eurolang:
The Federal Union of European Nationalities (FUEN), Lia Rumantscha and Sedrun Disentis Tourism will stage the first Football Championship of Europe's national minorities in the Romansh-speaking region of Suselva, part of the canton of Grischun -Graubünden -Grigioni, Switzerland. The event will be called "Europeada 2008".
O'r rhestr o wledydd sy'n cymeryd rhan, Cymru yw'r unig wlad/cenedl/grŵp ieithyddol sydd gyda tîm pêl-droed rhyngwladol swyddogol, ond pa dîm fydd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yma sgwn i? Hefyd dwi'n synnu nad oes cynrychiolaeth o Wlad y Basg.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 11:32 am | dolen | 1 sylw |

Wel y diawled slei

15.8.07

Ymddengys bod yr Awdurdodau yn benderfynol y bydd yna dîm pêl-droed Prydeinig yng Nhgemau Olympaidd 2012, dim ots os yw'n groes i ddymuniad cefnogwyr Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn ôl Play the Game:

A precedent in the long-running dispute over whether hosts Great Britain will field a football team at the 2012 Olympic Games in London could be set at next year’s Paralympic Games in China.

Senior sources in British football claim a Great Britain (GB) five-a-side team could be entered in Beijing next year without any consultation with Scotland, Northern Ireland and Wales.

England are organising a 2012 Olympic team but the Scottish and Welsh associations will not take part without written confirmation from FIFA that it will not affect their independence. T he Irish Football Association representing Northern Ireland have not made a decision either way but could join Wales and Scotland if a GB team plays in Beijing without consultation.
Mae grŵp cefnogwyr o'r enw No Team GB ble bydd grwpiau cefnogywr y 4 glwad yn gallu cyd-ymgyrchu yn erbyn y cynllyn dan dîn yma. Os ydych yn teimlo'n gryf am y peth, cefnogwch ymgyrch No Team GB unai fel unigolyn neu fle rhan o grŵp cefnogwyr lleol.

(Diolch i /Thanks to Gareth for the links)

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:39 pm | dolen | 0 sylw |

Tymor arall drosodd, creisis arall drosodd.

13.5.07

Mond rwan dwi'n cael cyfle i lawrlwytho fy lluniau o'r gêm rhwng Wrecsam a Boston penwythnos diwethaf ble roedd yn rhaid i'r ddau dîm ennill i sircrhau aros yn y gyngrhair.

Roedd dau flogiwr arall yno hefyd.

Yn y cyfamser dyma fi'n chwilio am luniau o'r diwrnod ar Flickr, a darfod, rhain, rhain a rhain.

Dyma fferfrynau o'r tri casgliad:


Un cefnogwr am ddangos ei werthfawrogiad i Danny Williams mewn ffordd arbennig!


Un cefnogwr yn methu erdych wrth i Wrecsam unioni gyda chic o'r smotyn. Y Kop yn orlawn ar gyfer y gêm gynrhair olaf o'i flaen yn ei ffurf bresenol cyn iddo gael ei ddymchwel yn yr haf.


Llun hollol cawslyd gan Gary o'i gyd sylwebwyr ond un sy'n dod a gwên i'm gwyneb. Daeth Nic Parri allan efo un o'i berlau wedi'r gêm: "Gorffenodd Chris Llewelyn y gêm yn ei fest, ond fyddai'm gwahaniaeth gan neb petai wedi gorffen y gêm ond yn gwiso'i ddrons"!

Labels: , , , , , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:30 pm | dolen | 0 sylw |