Brigyn a Pilgrims: 27.4.07
25.4.07
Blogiau Newydd
24.4.07
Chwarae teg, mae nhw'n ymddangos yn ddigon cyson, a rhai da hefyd. Dwi'n ceisio osgoi blogiau un cofnod felly mae rhai o'r rhain yn wythnosau neu fisoedd oed.
Sant Ffolant - blog digon doniol
Taith Gruff a Dan, dyddiadur dai foi ifanc o'r gogledd ar eu taith i Awstralia a Seland Newydd
Canolfan Caerdydd a'r Fro, ddim yn un prysur iawn, ond yn debyg i flog Sarah, yn ymgais gan sefydliadau i ddefnyddio cyfryngau newydd i hyrwyddo eu gweithgareddau. Yn y cofnod diweddara heddiw mae fideo YouTube ble mae myfyrwyr yn esonio beth sy'n eu hysgogi i ddysgu Cymraeg.
Sant Ffolant - blog digon doniol
Ganwyd yn Abertawe 35 mlynedd yn ôl; arolygydd tîm adran gwynion mewn canolfan alw tu fas i Gorseinon. Wedi gwahanu o’n wraig ar ôl ‘Y Peth Mandy Bebb ‘Na’Blog Sara Huws (Swyddog Dehongliad Eglwys St Teilo, Amgueddfa Sain Ffagan) ble mae hi'n nodi beth sy'n digwydd yn ei gwaith.
Taith Gruff a Dan, dyddiadur dai foi ifanc o'r gogledd ar eu taith i Awstralia a Seland Newydd
Canolfan Caerdydd a'r Fro, ddim yn un prysur iawn, ond yn debyg i flog Sarah, yn ymgais gan sefydliadau i ddefnyddio cyfryngau newydd i hyrwyddo eu gweithgareddau. Yn y cofnod diweddara heddiw mae fideo YouTube ble mae myfyrwyr yn esonio beth sy'n eu hysgogi i ddysgu Cymraeg.
Sioe 'Gwledydd Bychain' ar Radio Cymru
22.4.07
Mae cyfres diddorol o'r enw Gweldydd Bychain ar Radio Cymru ar hyn o bryd:
Mae Bethan Gwanas yn codi ei phac ac yn teithio i'r Gwledydd Bychain mewn cyfres newydd ar BBC Radio Cymru.
Mae Bethan Gwanas yn codi ei phac ac yn teithio i'r Gwledydd Bychain mewn cyfres newydd ar BBC Radio Cymru.
Darlledir ar ddydd Sul am ganol dydd, ac eto ar nos Fawrth am 6pm.Mae posib gwrando ar pob sioe ar-lein am 7 diwrnod, yn anffodus mae'r sioe cyntf yn mynd i gael ei ddileu heddiw/neu yfory. Ynddo mae Bethan yn sôn am sefyllfa Gwlad y Basg. mae'n canolbwyntio ar addysg, defnydd yr iaith ymysg yr ifanc a'r perthynas rhwng iaith ag cenedligrwydd, ac hefyd cyfweliad â Martxelo Otamendi, golygydd presenol Berria, a gafodd ei arteithio pan yn golygydd Egunkaira.
Cewch eich tywys i Wlad y Basg, Llydaw, Norwy a Quebec wrth i'r awdures a'r ieithydd o ochrau Dolgellau gynnig cip olwg ar eu cymdeithasau gwahanol a rôl y fam iaith o'i fewn.
O'r holl sefyllfaoedd y daeth hi ar eu traws, y gyfundrefn a'r agwedd yng Ngwlad y Basg gynigiodd yr ysbrydoliaeth fwyaf i Bethan. Y wlad hon sydd o dan sylw yn y ddwy raglen gyntaf.
Labels: iaith
Siaradog.tv
20.4.07
Bues i Lanelli ddoe i ffilmio ar gyfer Siaradog.tv, sef rhaglen ysgafn sydd ond i'w gweld ar y we, ble mae Aneirin Karadog (bitch i'w ffeindio ar MySpace, hyd yn oed wedi i sillafu 'Aneirin' yn gywir) yn cyfweld gwesteion ar ei soffa. Cefais wahoddiad i siarad am 'y we', ond i gyfiawnhau cymeryd hanner diwrnod o wyliau i ymddangos ar raglen 25 munud, gofynais os byddwn yn gallu trafod fy ngwefan jobscymraeg.com. Yn ogystal a fi, roedd Llwyd Owen (boi lyfli) hefyd ar y rhaglen i sôn am ei nofel sydd ar restr fêr Llyfr y Flwyddyn 2007, a Sanddef yn ymuno tros y ffôn i siarad am flogio'n Gymraeg. I fod yn deg cafodd Sanddef ddim rhyw lawer o gyfle i siarad gan fod nhw'n brin o amser.
Wnes i fwynhau'r profiad, roedd pawb yn Tinopolis yn glên iawn, er roedd rhaid i mi roi colur ymlaen fy hunan (honestly..!), ac mae Aneirin mor anrhefnus a fi. Lwcus i mi gael cip ar ei nodiadau o flaen llaw achos roedd o wedi argraffu tudalen gartref jobscymru.com, gwefan marw costus Menter a Busnes. Does dim cyllid i'r rhaglen, ac mae'n anffurfiol iawn sy'n grêt, ond dyma rhai o fy feirniadaeth (adeiladol) i:
Fformat:
Fel y gwelwch o fideo'r sioe, mae'r set wedi ei orchuddio gyda sbwriel a bronnau ffug, sy'n ei wneud i edrych braidd fel lloft bachgen 15 oed, sy'n tynny ychydig o'r rhaglen. Pan ddangosais y fideo i'm cyd weithwyr, dyna beth wnaethon nhw ddweud hefyd, a mae'r bits 'doniol' yn ar ddechrau'r rhaglen ychydig bach yn Noson Lawenaidd braidd, ac yn gwastraffu amser gallai gael ei ddefnyddio'n well yn cyflweld gwestai.
Y wefan:
O ran y wefan ei hun, tydi o ddim yn ddeiniadol ofnadwy, a gan mai tros y we y unig gallwch wylio'r rhaglen byddwn yn awgrymu gwella'i ymddangosiad a'i strwythyr.

- Defynydd o Windows Media Player: Dwi ddim cweit digon geeky i ddeall problem gyda hyn, ond mae ambell un a'r maes-e ac yma yn beirinadu'r dewis.
- Tudalen arbennig ar gyfer pob rhaglen, gyda set o sylwadau arbennig i bob rhaglen ar ffurf blog. Gellid wedyn postio o flaen llaw pob rhaglen i roi rhagflas o beth fydd ei gynnwys, a all wedyn helpu gyda chael awgrymiadau o ba fath o gwestiynnau hoffai gwilwyr i Aneirin ofyn.
- Mantais arall blog yw gall y wefan greu porthiant pob tro mae'r wefan wedi'w ddiweddaru, (felly does dim angen sbamio maes-e i atgoffa pawb o sioe newydd!)
- Dolenni - Mae na rhest (hir) o ddolenni, ond eto byddai bod â doleni at flogiau/gwefannau pob un o'r gwestai mewn un man.
- Mae 18 Doughty Street (sy'n dod i Gymru ar 27/5/07) a Open Source Radio yn engrheifftiau da o beth elli'r wneud/anelu at.
Wedi dweud hynna i gyd roedd yn brofiad da, a gobeithio bydd yn llwyddiannus. Fel esboniodd Nia o Tinopolis wrthai, gallwch wneud rhaglen am unrhywbeth chi eisiau, does dim rhaid poeni am beth mae'r comisiynydd wedi dweud. Tydi'r cwmni ddim yn cael dim arain am ei gynhyrchu, er yn ogystal ag Aneirin ei hun, roedd 7 person arall ar lawr y stiwdio ac o leaif un arall yn cyfarwyddo o ystafell arall. Ond does dim angen iddo gostio dime goch, mae'n syndod i mi nad oes criw o fyfyrwyr, ar gwrs Cyfathrebu ym Mangor e.e. ddim wedi meddwl am ddechrau rhwybeth tebyg yn defnyddio YouTube a'r holl adnoddau cynhyrchu sydd gyda nhw i'w defnyddio yn y brfysgol.
Celf ar forglawdd Bae Caerdydd

Es i weld hwn penwythns diwethag, mae'n reit glyfar. Dyma un o luniau cyntaf ar gyfrif Flickr Sarah.
Mwy o luniau o'r gwaith celf ar wefan y BBC.
Mwy o luniau o'r gwaith celf ar wefan y BBC.
Blogiau newydd
12.4.07
Draenen yn y Cnawd - blog personol dwyieithog gan Barry o Bontllanfraith. Neis dod o hyd i flog yn Gymraeg o ardal Cwm Rhymni. Yn anffodus mae'n flog MySpace, felly rhaid i chi agor cyfrif cyn y gallwch hyd yn oed darllen y blog heb sôn am adeal sylw. Mae Barry'n athro Cymraeg mewn ysgol cynradd cyfrwng Saesneg, dyma ei hanes yng Ngwersyllt yr Urdd, Llangranog.
Golwg or Garn Wen -
Etholiad 2007 - Blog Vaughan Roderick (sylwebydd gwleidyddol y BBC) wrth iddo sylwebu ar etholiad y Cynulliad 2007. Roeddwn yn ofni braidd mai mond bod â blog gan ei fod o (neu'r BBC) yn teimlo y dylai fod ag un oedd o, ond ymddengys fod Vaughan yn deall y busnes blogio ma reit da. Er, dwi ddim yn siwr os yw wedi ymateb i unrhyw un o'r amryw o sylwadau sydd ar y blog eto (nid mod i'n ymateb i bob un yma chwaith, sydd braidd yn anghwrtais), ond os nad yw'n bwriadu gwneud o gwbwl, does dim lot o wahaniaeth rhwng hwn a'i is-wefan blaenorol gan mai mond cyfres o byst/erthyglau ganddo fydd arno. Amser a ddengys.
Peth da sy'n dod o hyn, a diolch i Vaughan am hynny dwi'n meddwl, yw bod yna rwan flog Cymraeg, gyda rhyngwyneb gwbwl Gymraeg ar y BBC Blog Network (er doed dim dolen at flog Vaughan nag un Betsan Powys yma am ryw reswm).
Blog y Byd- efallai mai hwn yw'r pwysicaf ohonynt i gyd (diolch i Vaughan am y tip). Blog newydd gan y pobl tu cefn i'r fenter hirddigwyliedig (understatement y ddegawd!) papur dyddiol Y Byd.
Golwg or Garn Wen -
Dau o sosialwyr a dysgwyr Cymraeg yr ydym, sy'n byw yn y canolbarth.Dim ond dau bost sydd arno hyd yma ond mae'r ail bost am obeithion yr awdur am olygyddiaeth newydd y cylchgrawn Golwg yn ddifyr.
Etholiad 2007 - Blog Vaughan Roderick (sylwebydd gwleidyddol y BBC) wrth iddo sylwebu ar etholiad y Cynulliad 2007. Roeddwn yn ofni braidd mai mond bod â blog gan ei fod o (neu'r BBC) yn teimlo y dylai fod ag un oedd o, ond ymddengys fod Vaughan yn deall y busnes blogio ma reit da. Er, dwi ddim yn siwr os yw wedi ymateb i unrhyw un o'r amryw o sylwadau sydd ar y blog eto (nid mod i'n ymateb i bob un yma chwaith, sydd braidd yn anghwrtais), ond os nad yw'n bwriadu gwneud o gwbwl, does dim lot o wahaniaeth rhwng hwn a'i is-wefan blaenorol gan mai mond cyfres o byst/erthyglau ganddo fydd arno. Amser a ddengys.
Peth da sy'n dod o hyn, a diolch i Vaughan am hynny dwi'n meddwl, yw bod yna rwan flog Cymraeg, gyda rhyngwyneb gwbwl Gymraeg ar y BBC Blog Network (er doed dim dolen at flog Vaughan nag un Betsan Powys yma am ryw reswm).
Blog y Byd- efallai mai hwn yw'r pwysicaf ohonynt i gyd (diolch i Vaughan am y tip). Blog newydd gan y pobl tu cefn i'r fenter hirddigwyliedig (understatement y ddegawd!) papur dyddiol Y Byd.
A'r ymateb gan Amazon
Ar yr un diwnod mae erthygl am fy helynt gyda Amazon yn ymddangos yn Golwg, dwi wedi cael yr e-bost canlynol:
Diweddariad 13.407
Duw a wŷr os yw Amazon yjn darllen y blog yma (neu'r un Saesneg o leiaf), ond ers i mi bostio'r uchod, dwi wedi cael e-bost arall yn dweud y canlynol. Diawch, chwarae teg iddyn nhw!
Dear Rhys Wynne,Byddwn i wedi disgyl iddynt gynnig ychydig bach mwy i mi na dim ond cost stamp, ond o leiaf maent wedi newid eu hagwedd. Dwi'n dal ddim yn siwr os wnai eu defnyddio eto.Firstly please accept our apologies for the delay in resolving this issue for you
and thank you for your patience.
Having advised our Management team of the issue you have encountered, we have
reviewed our policy regarding the receipt of cheque's written in Cymraeg, and are
pleased to advise you we are more than happy to accept cheque's from our customers
written in Cymraeg.
We do sincerely apologise for your original cheque being returned to you and would
ask you to resend the cheque to us and we will fulfill your order.
Due to this inconvenience we will certainly refund you for any postage costs
incurred for returning the cheque to us.
Your cheque should be made payable to Amazon EU S.A.R.L and sent to the following
address:
Amazon.co.uk
Customer Accounts
1-9 The Grove
Slough
Berkshire SL1 1QP
United Kingdom
Please contact us on the below link to advise us of any postage costs incurred.
Thank you for choosing Amazon.co.uk and we look forward to your future custom.
Warmest regards
Paul S.
Customer Service
Amazon.co.uk
Diweddariad 13.407
Duw a wŷr os yw Amazon yjn darllen y blog yma (neu'r un Saesneg o leiaf), ond ers i mi bostio'r uchod, dwi wedi cael e-bost arall yn dweud y canlynol. Diawch, chwarae teg iddyn nhw!
Dear Rhys Wynne,
Further to my previous correspondence with regards to
the processing of order by cheque payment, our
Management team have concluded their review of your issue and they
have agreed to provide a good will gesture to the value of GBP22.93.
This goodwill gesture will be in the form of a promotional
certificate which can be redeemed towards your next purchase with
Amazon.co.uk.
Please accept this goodwill gesture as an apology for
the inconvenience of having to forward us the cheque
payment again, and thus delaying the dispatch of the item to you.
Thank you for your understanding and patience with
regards to this matter.Labels: amazon, cymraeg, gwasanaeth, ymgyrchu
Sustem flogio Cymraeg gam yn nes?
5.4.07
Newydd ddod ar draws cyfieithiad ar ei hanner o NireBlog. Mae NireBlog ar gael mewn tua 8 iath ar hyn o bryd, ond o'r dudalen yma, mae'n edrych fel ei fod yn ceisio lleoleiddio i dros 40 o ieithoedd. Dwi wedi cynnig help gyda'r cyfieithu, ond dwi ddim yn siwr pwy sydd wedi dechrau ar y gwaith.Byddwn yn ystyried newid at NireBlog, gan ei fod yn cynnig
Gol.
- multi-user blogging: several users can collaborate to a unique blog.
- easy format WYGIWYS edition: links, bold, images... without any HTML knowledge.
- customized comments system: moderated or not.
- trackbacks
- more than 30 templates, or your own personalized design for your blog.
- advertising, customizable at your choice and revenue.
- import your blog from Blogger/Blogspot, or export it to another platform.
- ping notifications
- integration with other Web 2.0 social services as Digg.com or Del.icio.us
Yn ôl David González, mae 44% o'r fersiwn Gymraeg wedi ei gyfieithu'n defnyddio llinynau Cymraeg o gyfieithiadau gwefannau/meddalwedd eraill megis: Wordpress, Drupal, B2 Evolution, Moodle a Mediawiki - Clyfar!
Ond os oes diddordeb gyda chi mewn helpu i gwbwlhau'r cyfieithiad Cymraeg yn gynt (a/neu wiro ei gywirdeb), gallwch gofrestru ac addasu'r llinynau Cymraeg yma.
nireblog welsh lleoleiddio cymraeg welsh localisation blogio
Generated By Technorati Tag Generator
Neges gan Amazon i Gymru
3.4.07
Ar yr un penwythnos a glywais y newyddion da bod cwmni Amazon yn dod a 1,200 o swyddi i Gymru (oes na sens rhoi £9 miliwn o 'gymorthdal' i gwmni sy'n gwneud rhwng $370 a $510 miliwn o elw?), dyma fi'n cael siec wedi ei ddanfon yn ôl ataf gan yr un cwmni gyda'r nodyn (hynod gwrtais) canlynol:
Diweddariad 4/4/07
Wedi cael ymateb gan Amazon.
Diweddariad 10/4/07
Wedi cael ymateb ar ran Alun Pugh. Tydi o ddim yn rhoi unrhyw farn ar y sefyllfa, mond yn dweud ei fod wedi pasio'r peth ymlaen at Fwrdd yr Iaith er mwyn iddyn nhw gysylltu âg Amazon.
Dear Customer,Agwedd braidd yn od a hen ffasiwn. Dwi wedi bod yn postio siec yn Gymraeg i BT ers blynyddoedd heb unrhyw drafferth. Dwi eisioes wedi danfon llythyr i'r Western Mail, oes llawer o bwynt danofn un at Rhodri Morgan (fy AC lleol), Andrew Davies a Alun Pugh chi'n meddwl?
Please find enclosed your cheque for £22.93 as the words are written in Welsh. Sorry to ask but could you please amend and return to us so we may proceed with your order, as the bank may not be able to read it.
Kind regards
Billing Dept.
Diweddariad 4/4/07
Wedi cael ymateb gan Amazon.
Diweddariad 10/4/07
Wedi cael ymateb ar ran Alun Pugh. Tydi o ddim yn rhoi unrhyw farn ar y sefyllfa, mond yn dweud ei fod wedi pasio'r peth ymlaen at Fwrdd yr Iaith er mwyn iddyn nhw gysylltu âg Amazon.
Yr wyf [Robert Tyler, Uned Iaith Gymraeg/Cyfryngau], felly, wedi gofyn i’r Bwrdd gysylltu gyda Amazon mewn perthynas â’u polisiau iaith. Bydd y Bwrdd wedyn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda chiMae hyn yn newyddion da gan fod rhywun o gylchgrawn Golwg hefyd wedi cysylltu âg adran wasg cwmni Amazon ar ôl darllen fy sylw ar maes-e am y peth.
Blogiau newydd
Blog Gŵyl Macs flog, mae'n edrych yn neis iawn. Mae'r pyst i gyd yn rhai dwyieithog, er mae modd rhannu pyst rhwng dwy iaith ar Wordpress rhywsut (fel ma' Murmur yn wneud).
Hefyd mae Magic Eirwen wedi gaddo stopio postio darnau o roadkill trwy fy mlwch post os dwi'n crybwyll ei blog hi yma. Dois ar ei draws drwy del.icio.us. Mae'n reit ffyni.
Hefyd mae Magic Eirwen wedi gaddo stopio postio darnau o roadkill trwy fy mlwch post os dwi'n crybwyll ei blog hi yma. Dois ar ei draws drwy del.icio.us. Mae'n reit ffyni.
Labels: rhithfro
Seminar, Seminar, a ffansio ffermwyr
2.4.07
Bu'm i'r gogledd am bedwar diwrnod, yn bennaf er mwyn mynychu seminar Ffermio, Bwyd neu Danwydd? a cheisio peidio bod dan draed wrth helpu ar fferm fy rhieni. Cafodd Sarah a fi sgwrs hir a diddordol gyda gŵr o Helyg i Gymru.
Cyn gadael am y gogledd, mynychais seminar arall sef Y Fenter Amlieithog. Yn gyntaf cafwyd cyflwyniad slic gan un o staff Microsoft ac yna gan staff Draig. Nid oedd y meddalwedd oedd yn cael ei hyrwyddo'n debygol o fod o ddefnydd i fy nghyflogwr (6 PC ar rwydwaith) na fy nghwmni bach (un gliniadur), ond efallai gallaf ddarbwyllo rhai busnesau dwi'n dod ar eu traws i ddefnyddio'r datrysiadau dwyieithog.
Dwi'n falch i mi aros am gyflwyniad olaf y bore gan Richard Sheppard, Rheolwr Gyfarwyddwr Draig. Roedd yn sôn am sut aethant i holi datblygwyr meddalwedd mewn gwledydd eraill ble mae mwy nag un iaith i weld sut oeddynt yn delio â darparu gwasanaeth yn y dewis iaith, a synnu ar pa mor negyddol oedd yr ymatebion. Yn ffodus wnaeth yn ddim eu stopio ac aethant ymlaen i ddatblygu/addasu meddalwedd eu hunain. Cyfaddefodd nad oedd hi mor anodd a hynny gyda tipyn o ymdrech ac hefyd pwysleisiodd pwysigrwydd bod â rhyngwyneb dwyieithog wrth weithredu'n fewnol yn ogystal a gyda'r cwsmer/cyhoedd a sut i ymdrin â data dwyieithog.
Ar ddiwedd y seminar, cyflwynodd Basheera Khan ei hun i mi, ond yn anffodus ni chefais lawer o gyfle i sgwrsio gyda hi gan mod i angen bod nôl yn y swyddfa (wnes i ddim aros i'r bwffe hyd yn oed!), dihangfa lwcus iddi dwi'n meddwl gan y byddwn wedi ei mwydro'n lân dwi'n siwr wedi i mi ddechrau sôn am Ping Wales a marchnata yng Nghymru.
Uchafbwynt y penwythnos oedd darganfod nad oedd ymddangosiad fy nghefnder Iwan ar ochr poteli llefrith wedi bod yn ofer. Daeth o a'i gariad Nia (a gysylltodd a fo trwy Pishyn.com) draw am swper nôs Sadwrn, gyda fi'n cogino ac yn cachu'n hun yn meddwl mod i wedi malu popty fy rhieni pan stopiodd y ffan weithio hanner ffordd drwyddo.

Labels: meddalwedd