<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Let's all say 'bore da' to shy Dave

19.3.10

Yr uchod yw teitl llythyr a ymddangosodd yn y Denbighshire Free Press rhai wythnosau'n ôl

An interesting sequel to your letter sequel to your letter from the Welsh language learner (Free Press, December 17) who complained about Morrisons' "contempt of out language" was my experience at the store last month.
Requiring some assistance with the vegetables, I asked in Welsh for some help from an attendant, Dave,but was answered with the blunt command, "English!"
Surprised by his response, I apologised by saying that I didn't realise he couldn't speak Welsh, and was then astonished at his reply: "Yes i do speak Welsh, but don't want to do so."
In case this was due to lack of confidence on his part, having presumably been expected to speak English for some years at his place of work, can I ask all your Welsh-speaking readers who shop at Morrisons' to help Dave by going to him and address him kindly in Welsh.
I'm sure their assistance will help Dave to overcome his inferiority complex and regain the confidence required to use his suppressed ability to speak Welsh.
This could be a New Year's resolution for all us Welsh shoppers... and Dave.

LEAH JONES
Prion
Dinbych


Mae Leah'n gymdoges i'm rhieni ac yn wraig i Eifion Lloyd Jones, sydd hefyd yn un nad iw'n ofn dweud y caswir pan mae cenedlaetholwyr eraill ofn pechu (er, dwi dim yn siwr os yw'n haeddu Fan Page ar Facebook chwaith!).

Ta waeth, dw i'n meddwl bod tôn y llythyr yn ardderchog, ac yn wahanol iawn i ymateb cwsmeriad eraill sydd wedi eu sarhau am ddefnyddio'r Gymraeg mewn ddigwyddiadau tebyg yn ddiweddar (fel yn Blacks ym Metws y Coed a Spar ym Mlaenau Ffestiniog), ble aeth y sawl a bechwyd at Gymdeithas yr Iaith a hwythau wedyn yn gweiddi "Hawliau!" gan weithiau fethu'r pwynt.

Er mod i'n siwr bod Leah'n gandryll mae hi'n llwyddo i osgoi ymosod ar y 'Dave', ac er nad o'n i'n siwr ar y dechrau os oedd yn deg cynnwys ei enw yn y llythyr, mae'n amlwg mai nid Dave ei hun yw'r 'broblem' na tharged y llythyr. Beth sydd gyda ni yw sefyllfa sy'n arwain at ddyn (ifanc dw i'n ddychmygu), sydd â'r gallu i siarad Cymraeg, yn penderfynnu nad yw e eisiau gwneud hynny, ac nid yn unig hynny, tydy o ddim yn credu y dylai neb arall wneud chwaith.

Beth sy'n gwneud agwedd o'r fan yn waeth ydy natur ieithyddol Dinbych:
-Dinbych Ucha/Henllan 36% yn gallu siaradCymraeg
-Dinbych Ganol 37%
-Dinbych Isaf 44%

a'r pedair ward sy'n amgylchynu'r dref:
-Llansannan (sir Conwy) 65%
-Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch 59%
-Llandyrnog 41%
-Trefnant 33%

(cyfrifiad 2001)
Am ryw reswm, mae Dave, fel sawl un arall wedi cael i'w ben nad oes gwerth i'r iaith a'i fod yn amherthnasol iddo fo a'r gymuned. Mae meddylfryd o'r fath yn ganlyniad i ffactorau cymdeithasol cymhleth sydd, ac ni ellid eu newid dros nos, ac a dweud y gwir ni fyddai unrhwy ddeddfau iaith newydd yn gwneud llawer o wahaniaeth i hyn.
Nid ceisio lladd ar Gymdeithas yr Iaith ydw i na dadlau yn erbyn unrhyw welliannau i'r Ddeddf iaith bresenol/Mesur iaith arfaethig (dw i o blaid y ddau beth), ond os rhywbeth, mae pethau pwysicach i'w gwneud i adennill statws 'llawr gwlad' i'r iaith, ac mae llythyr Leah'n enghraifft dda o'r tacteg o amlygu sefyllfa leol, ac hefyd awgrymu bod gan siaradwyr Cymraeg rol ymarferol i'w chwarae.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 5:22 pm | dolen | 1 sylw |

Newyddion Catalanaidd

15.5.07

Dros y penwythnos dyma fi'n darllen dau bost diddordol ar y blogiau Catalanaidd dwi'n ddarllen.

I am not Hispanic
Catalanwr yn UDA yn nodi bod Cyngress (Congress?) UDA wedi pasio deddf yn ddiwwddar mai Saesneg yw iaith sywddogol y wlad, tra bod y fyddin yn ceisio denu milwyr drwy hysbysebu'n Sbaeneg. (rhaid nodi, allai'm darganofd dolen at y newyddion am y ddeddf)

Expats against Immigtation
Prydeinwyr yn nhrefedigaethau Seisnig Sbaen yn uno â ffasgwyr Sbaen i sefydlu plaid i ymladd yn erbyn mewnlifiad ymysg pethau eraill.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 3:19 pm | dolen | 0 sylw |

Sioe 'Gwledydd Bychain' ar Radio Cymru

22.4.07

Mae cyfres diddorol o'r enw Gweldydd Bychain ar Radio Cymru ar hyn o bryd:
Mae Bethan Gwanas yn codi ei phac ac yn teithio i'r Gwledydd Bychain mewn cyfres newydd ar BBC Radio Cymru.
Darlledir ar ddydd Sul am ganol dydd, ac eto ar nos Fawrth am 6pm.

Cewch eich tywys i Wlad y Basg, Llydaw, Norwy a Quebec wrth i'r awdures a'r ieithydd o ochrau Dolgellau gynnig cip olwg ar eu cymdeithasau gwahanol a rôl y fam iaith o'i fewn.

O'r holl sefyllfaoedd y daeth hi ar eu traws, y gyfundrefn a'r agwedd yng Ngwlad y Basg gynigiodd yr ysbrydoliaeth fwyaf i Bethan. Y wlad hon sydd o dan sylw yn y ddwy raglen gyntaf.
Mae posib gwrando ar pob sioe ar-lein am 7 diwrnod, yn anffodus mae'r sioe cyntf yn mynd i gael ei ddileu heddiw/neu yfory. Ynddo mae Bethan yn sôn am sefyllfa Gwlad y Basg. mae'n canolbwyntio ar addysg, defnydd yr iaith ymysg yr ifanc a'r perthynas rhwng iaith ag cenedligrwydd, ac hefyd cyfweliad â Martxelo Otamendi, golygydd presenol Berria, a gafodd ei arteithio pan yn golygydd Egunkaira.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 6:11 am | dolen | 0 sylw |