<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



DimeGoch.com - prynu Cymru yn ôl

12.6.07

Wedi dod ar draws wefan dimegoch.com heddiw. Dwi'n meddwl mai cyd-ddigwyddiad yw hi bod yn cyd-fynd â'r newyddion am gwmni Thomas Cook yn gwahardd eu staff rhag siarad Cymraeg â'u gilydd.

Dro ar ôl tro pan mae sôn am gyflwyno deddfau i sirchau hawliau Cymru Cymraeg i unrhyw fath o wasanaeth Cymraeg yng nghymru, ma'r gwrthwynebwyr yn dweud byddai cwmniau'n defnyddio'r Gymraeg yn wirfoddol petai pobl wir yn dymuno gwasanaeth Cymraeg. Mae gronyn o wirionedd yn hyn dwi'n cyfaddef, ond yn y pendraw, gyda nifer gynyddol llai o gwmniau'n cornelu sawl sector, mae'n gallu ni i ddewis a dethol yn mynd yn llai. Tydi hi chwaith ddim yn rhesymol disgwyl i unigolyn fynu gwasanaeth Cymraeg ar bod ymweliad â siop gwahanol - byddai'r daith siopa'n bofiad digon amhleserus. Hefyd, mae'n anodd fel unigolyn i gael cwmniau i newid eu ffordd (gyda rhai eithriadau efallai!)

Dyna pam dwi mor hoff o'r syniad (syml) sydd tu cefn i dimegoch.com. Mae'n ffordd dda o ddod ag unigolion at eu gilydd, "mewn undod mae nerth" wedi'r cyfan, gan roi neges cadarnhaol i'r gwahanol gwmniau. Y syniad yw bod pobl sy'n awryddo i'r cynllun yn talu £1 y mis i ddangos eu bod o ddifi ac yn fodlon newid eu patrymau siopa/newid cytundeb os yw cwmni'n gweithredu'n gadarnhaol ynghylch y Gymraeg, tra efallai yn y gorffenol byddai pobl yn ddigon bodlon arwyddo rhyw ddeiseb ar-lein yn gofyn hyn a'r llall, ac wedyn yn anghofio am y peth, neu'n peidio trafferthu newid pan mae'n dod i'r crunch.
Ydych chi am ddod gyda ni? Ydych chi am ddefnyddio cryfder economaidd y Cymry, y punt Cymraeg, i greu marchnad wirioneddol Gymraeg?

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:04 pm | dolen | 2 sylw |

A'r ymateb gan Amazon

12.4.07

Ar yr un diwnod mae erthygl am fy helynt gyda Amazon yn ymddangos yn Golwg, dwi wedi cael yr e-bost canlynol:
     Dear Rhys Wynne,
Firstly please accept our apologies for the delay in resolving this issue for you
and thank you for your patience.

Having advised our Management team of the issue you have encountered, we have
reviewed our policy regarding the receipt of cheque's written in Cymraeg, and are
pleased to advise you we are more than happy to accept cheque's from our customers
written in Cymraeg.

We do sincerely apologise for your original cheque being returned to you and would
ask you to resend the cheque to us and we will fulfill your order.

Due to this inconvenience we will certainly refund you for any postage costs
incurred for returning the cheque to us.

Your cheque should be made payable to Amazon EU S.A.R.L and sent to the following
address:

Amazon.co.uk
Customer Accounts
1-9 The Grove
Slough
Berkshire SL1 1QP
United Kingdom

Please contact us on the below link to advise us of any postage costs incurred.

Thank you for choosing Amazon.co.uk and we look forward to your future custom.

Warmest regards

Paul S.
Customer Service
Amazon.co.uk
Byddwn i wedi disgyl iddynt gynnig ychydig bach mwy i mi na dim ond cost stamp, ond o leiaf maent wedi newid eu hagwedd. Dwi'n dal ddim yn siwr os wnai eu defnyddio eto.


Diweddariad 13.407

Duw a wŷr os yw Amazon yjn darllen y blog yma (neu'r un Saesneg o leiaf), ond ers i mi bostio'r uchod, dwi wedi cael e-bost arall yn dweud y canlynol. Diawch, chwarae teg iddyn nhw!

Dear Rhys Wynne,

Further to my previous correspondence with regards to
the processing of order by cheque payment, our
Management team have concluded their review of your issue and they
have agreed to provide a good will gesture to the value of GBP22.93.
This goodwill gesture will be in the form of a promotional
certificate which can be redeemed towards your next purchase with
Amazon.co.uk.

Please accept this goodwill gesture as an apology for
the inconvenience of having to forward us the cheque
payment again, and thus delaying the dispatch of the item to you.

Thank you for your understanding and patience with
regards to this matter.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:39 am | dolen | 3 sylw |