<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blogiau newydd

12.4.07

Draenen yn y Cnawd - blog personol dwyieithog gan Barry o Bontllanfraith. Neis dod o hyd i flog yn Gymraeg o ardal Cwm Rhymni. Yn anffodus mae'n flog MySpace, felly rhaid i chi agor cyfrif cyn y gallwch hyd yn oed darllen y blog heb sôn am adeal sylw. Mae Barry'n athro Cymraeg mewn ysgol cynradd cyfrwng Saesneg, dyma ei hanes yng Ngwersyllt yr Urdd, Llangranog.


Golwg or Garn Wen -
Dau o sosialwyr a dysgwyr Cymraeg yr ydym, sy'n byw yn y canolbarth.
Dim ond dau bost sydd arno hyd yma ond mae'r ail bost am obeithion yr awdur am olygyddiaeth newydd y cylchgrawn Golwg yn ddifyr.


Etholiad 2007 - Blog Vaughan Roderick (sylwebydd gwleidyddol y BBC) wrth iddo sylwebu ar etholiad y Cynulliad 2007. Roeddwn yn ofni braidd mai mond bod â blog gan ei fod o (neu'r BBC) yn teimlo y dylai fod ag un oedd o, ond ymddengys fod Vaughan yn deall y busnes blogio ma reit da. Er, dwi ddim yn siwr os yw wedi ymateb i unrhyw un o'r amryw o sylwadau sydd ar y blog eto (nid mod i'n ymateb i bob un yma chwaith, sydd braidd yn anghwrtais), ond os nad yw'n bwriadu gwneud o gwbwl, does dim lot o wahaniaeth rhwng hwn a'i is-wefan blaenorol gan mai mond cyfres o byst/erthyglau ganddo fydd arno. Amser a ddengys.

Peth da sy'n dod o hyn, a diolch i Vaughan am hynny dwi'n meddwl, yw bod yna rwan flog Cymraeg, gyda rhyngwyneb gwbwl Gymraeg ar y BBC Blog Network (er doed dim dolen at flog Vaughan nag un Betsan Powys yma am ryw reswm).

Blog y Byd- efallai mai hwn yw'r pwysicaf ohonynt i gyd (diolch i Vaughan am y tip). Blog newydd gan y pobl tu cefn i'r fenter hirddigwyliedig (understatement y ddegawd!) papur dyddiol Y Byd.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:21 pm | dolen | 2 sylw |