<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blogiau Newydd

24.4.07

Chwarae teg, mae nhw'n ymddangos yn ddigon cyson, a rhai da hefyd. Dwi'n ceisio osgoi blogiau un cofnod felly mae rhai o'r rhain yn wythnosau neu fisoedd oed.

Sant Ffolant - blog digon doniol
Ganwyd yn Abertawe 35 mlynedd yn ôl; arolygydd tîm adran gwynion mewn canolfan alw tu fas i Gorseinon. Wedi gwahanu o’n wraig ar ôl ‘Y Peth Mandy Bebb ‘Na’
Blog Sara Huws (Swyddog Dehongliad Eglwys St Teilo, Amgueddfa Sain Ffagan) ble mae hi'n nodi beth sy'n digwydd yn ei gwaith.

Taith Gruff a Dan, dyddiadur dai foi ifanc o'r gogledd ar eu taith i Awstralia a Seland Newydd

Canolfan Caerdydd a'r Fro, ddim yn un prysur iawn, ond yn debyg i flog Sarah, yn ymgais gan sefydliadau i ddefnyddio cyfryngau newydd i hyrwyddo eu gweithgareddau. Yn y cofnod diweddara heddiw mae fideo YouTube ble mae myfyrwyr yn esonio beth sy'n eu hysgogi i ddysgu Cymraeg.

Labels: , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 8:14 pm

2 sylw:

syropreis neis - fel rhywun sy'n taro fewn i'r blogiadur yn ddyddiol roeddwn i'n meddwl mai dyna'r oll o flogiau Cymraeg oedd i'w gael. Falch fod mwy yna!

Oes modd rhoi nhw ar y blogiadur hefyd?!

diolch GDF.

Huw
sylw gan Anonymous Anonymous, 7:41 am  

Diolch Rhys. Wastad yn neis i weld blogiau newydd, a gweld pethau newydd yn cael eu neud gyda'r ffurf.

Dw i wedi mynd yn ddiog, mae rhaid cyfadde. Dw i'n jyst gadael i ti ffeindio'r stwff newydd, ac wedyn rhoi fe ar fy ffrwd Bloglines.
sylw gan Blogger Nic, 4:34 pm  

Gadawa sylw