<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Seminar, Seminar, a ffansio ffermwyr

2.4.07

Bu'm i'r gogledd am bedwar diwrnod, yn bennaf er mwyn mynychu seminar Ffermio, Bwyd neu Danwydd? a cheisio peidio bod dan draed wrth helpu ar fferm fy rhieni. Cafodd Sarah a fi sgwrs hir a diddordol gyda gŵr o Helyg i Gymru.

Cyn gadael am y gogledd, mynychais seminar arall sef Y Fenter Amlieithog. Yn gyntaf cafwyd cyflwyniad slic gan un o staff Microsoft ac yna gan staff Draig. Nid oedd y meddalwedd oedd yn cael ei hyrwyddo'n debygol o fod o ddefnydd i fy nghyflogwr (6 PC ar rwydwaith) na fy nghwmni bach (un gliniadur), ond efallai gallaf ddarbwyllo rhai busnesau dwi'n dod ar eu traws i ddefnyddio'r datrysiadau dwyieithog.

Dwi'n falch i mi aros am gyflwyniad olaf y bore gan Richard Sheppard, Rheolwr Gyfarwyddwr Draig. Roedd yn sôn am sut aethant i holi datblygwyr meddalwedd mewn gwledydd eraill ble mae mwy nag un iaith i weld sut oeddynt yn delio â darparu gwasanaeth yn y dewis iaith, a synnu ar pa mor negyddol oedd yr ymatebion. Yn ffodus wnaeth yn ddim eu stopio ac aethant ymlaen i ddatblygu/addasu meddalwedd eu hunain. Cyfaddefodd nad oedd hi mor anodd a hynny gyda tipyn o ymdrech ac hefyd pwysleisiodd pwysigrwydd bod â rhyngwyneb dwyieithog wrth weithredu'n fewnol yn ogystal a gyda'r cwsmer/cyhoedd a sut i ymdrin â data dwyieithog.

Ar ddiwedd y seminar, cyflwynodd Basheera Khan ei hun i mi, ond yn anffodus ni chefais lawer o gyfle i sgwrsio gyda hi gan mod i angen bod nôl yn y swyddfa (wnes i ddim aros i'r bwffe hyd yn oed!), dihangfa lwcus iddi dwi'n meddwl gan y byddwn wedi ei mwydro'n lân dwi'n siwr wedi i mi ddechrau sôn am Ping Wales a marchnata yng Nghymru.

Uchafbwynt y penwythnos oedd darganfod nad oedd ymddangosiad fy nghefnder Iwan ar ochr poteli llefrith wedi bod yn ofer. Daeth o a'i gariad Nia (a gysylltodd a fo trwy Pishyn.com) draw am swper nôs Sadwrn, gyda fi'n cogino ac yn cachu'n hun yn meddwl mod i wedi malu popty fy rhieni pan stopiodd y ffan weithio hanner ffordd drwyddo.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:33 pm

0 sylw:

Gadawa sylw