<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Y llywodraeth yn gorfodi Microsoft ar y boblogaeth

29.1.08

Wel, efallai ddim cweit ond mae cynlluniau'r Archif Genedlaethol i drosglwyddo eu dogfennau electronig i fformat Microsoft Open XML yn codi cwestiwn o sut fath o feddalwedd dylai sefydliadau cyhoeddus ddefnyddio. Rhaid i mi gyfaddef nad ydw i'n deall oblygiadau hyn i gyd, ond nid yw'n fy synnu bod hyn yn codi gwrychyn llawer sy'n ymgyrchu am feddalwedd rhydd.
Yn ôl y ddeiseb yma, eu cwyn yw bod hyn yn gorfodi unrhywun sydd eisiau gweld dogfen o'r Archif, bydd rhaid iddynt fod â meddlawedd Microsoft Office, ac felly hefyd Microsoft Windows.
Recently it was announced that National Archives are converting their stock of electronic documents into Microsoft Open XML format. This format is not supported outside of Microsoft's own products and ties the public to purchasing Microsoft Office should they wish to view the products, which is a cost of around £80-120 depending on version. It also ties a user to puchasing Microsoft Windows which is a cost of roughly £150 for the Basic edition or purchasing a new PC with Windows which is a cost of at around £200 for a new machine. Instead Open Document Format which is an accepted ISO standard unlike Open XML should be used.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 1:56 pm | dolen | 3 sylw |

Seminar, Seminar, a ffansio ffermwyr

2.4.07

Bu'm i'r gogledd am bedwar diwrnod, yn bennaf er mwyn mynychu seminar Ffermio, Bwyd neu Danwydd? a cheisio peidio bod dan draed wrth helpu ar fferm fy rhieni. Cafodd Sarah a fi sgwrs hir a diddordol gyda gŵr o Helyg i Gymru.

Cyn gadael am y gogledd, mynychais seminar arall sef Y Fenter Amlieithog. Yn gyntaf cafwyd cyflwyniad slic gan un o staff Microsoft ac yna gan staff Draig. Nid oedd y meddalwedd oedd yn cael ei hyrwyddo'n debygol o fod o ddefnydd i fy nghyflogwr (6 PC ar rwydwaith) na fy nghwmni bach (un gliniadur), ond efallai gallaf ddarbwyllo rhai busnesau dwi'n dod ar eu traws i ddefnyddio'r datrysiadau dwyieithog.

Dwi'n falch i mi aros am gyflwyniad olaf y bore gan Richard Sheppard, Rheolwr Gyfarwyddwr Draig. Roedd yn sôn am sut aethant i holi datblygwyr meddalwedd mewn gwledydd eraill ble mae mwy nag un iaith i weld sut oeddynt yn delio â darparu gwasanaeth yn y dewis iaith, a synnu ar pa mor negyddol oedd yr ymatebion. Yn ffodus wnaeth yn ddim eu stopio ac aethant ymlaen i ddatblygu/addasu meddalwedd eu hunain. Cyfaddefodd nad oedd hi mor anodd a hynny gyda tipyn o ymdrech ac hefyd pwysleisiodd pwysigrwydd bod â rhyngwyneb dwyieithog wrth weithredu'n fewnol yn ogystal a gyda'r cwsmer/cyhoedd a sut i ymdrin â data dwyieithog.

Ar ddiwedd y seminar, cyflwynodd Basheera Khan ei hun i mi, ond yn anffodus ni chefais lawer o gyfle i sgwrsio gyda hi gan mod i angen bod nôl yn y swyddfa (wnes i ddim aros i'r bwffe hyd yn oed!), dihangfa lwcus iddi dwi'n meddwl gan y byddwn wedi ei mwydro'n lân dwi'n siwr wedi i mi ddechrau sôn am Ping Wales a marchnata yng Nghymru.

Uchafbwynt y penwythnos oedd darganfod nad oedd ymddangosiad fy nghefnder Iwan ar ochr poteli llefrith wedi bod yn ofer. Daeth o a'i gariad Nia (a gysylltodd a fo trwy Pishyn.com) draw am swper nôs Sadwrn, gyda fi'n cogino ac yn cachu'n hun yn meddwl mod i wedi malu popty fy rhieni pan stopiodd y ffan weithio hanner ffordd drwyddo.

Labels:

postiwyd gan Rhys Wynne, 7:33 pm | dolen | 0 sylw |

Seminar – Y Fenter Amlieithog: Caerdydd, 28.3.07

26.3.07

Dwi wedi cael gwahoddiad gan Draig Technology i fynychu seminar mae'nt yn drefnu i hyrwyddo eu meddalwedd dwy/amlieithog newydd. Efallai nad yw pawb yn hoffi Microsoft, ond dwi'n meddwl dylai Draig gael eu canmol am fuddsoddi mewn cynhyrchu meddalwedd dwyieithog. Gobeithio bydd sawl cwmni a chorff cyhoeddus yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle i allu cysylltu a chyfathrebu â'u cwsmeriaid yn eu dewis iaith.

Y Fenter Amlieithog

Cyfarthrebu’n Effeithiol ac yn Rheoli Gwybodaeth mewn Amgylchedd Amliethog

Seminar Draig Technology a Microsoft

Quality Hotel, Caerdydd

Dydd Mercher 28 Mawrth 2007


9.30 – 10.00am Cofrestru, te a choffi

10.00 – 10.45am
Byd Gwaith Newydd – cyflwyniad gan Microsoft

Yn dangos sut y gall Microsoft Office a SharePoint 2007 wella cynhyrchedd, effeithlonrwydd, rheoli cynnwys y we, rheoli dogfennau’n ddi-fwlch a gwella diogelwch wrth reoli cyfathrebu mewn menter brysur.

11.00 – 11.30am Microsoft Dynamics CRM - cyflwyniad gan Technoleg Draig Cyf

Golwg gyffredinol ar gynnyrch CRM 3.0 a hwnnw wedi’i gryfhau gyda phecyn amlieithog Draig - ateb cynhwysfawr a hyblyg i Reoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid (CRM). Mae wedi'i greu i ateb gofynion eich sefydliad; mae’n gweithio fel y byddwch chi'n gweithio ac yn gweithio fel y mae'ch sefydliad yn gweithio.

11.30 – 12.00pm Y Fenter Amlieithog – cyflwyniad gan Technoleg Draig Cyf

Yn dangos sut y gall pecyn Rheoli Cysylltiadau â Chwsmeriaid dwyieithog a SharePoint amlieithog gynnig ateb cwbl integredig Cymraeg ar gyfer rheoli cysylltiadau â chwsmeriaid/cleientau, rheoli dogfennau a chynnwys y we yn ogystal â rheoli gwybodaeth a cofnodion ... a'r cyfan i gyd yn estyniad naturiol i Microsoft Office

Efallai bod dal lefydd ar ôl oes hoffech fynychu. Cysylltwch â'r cwmni a'r 0870 2200512.

Labels: ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:49 pm | dolen | 0 sylw |

Cyfarfod CMC a'r Rhithfro

8.3.07

Neithiwr mynychais gyfarfod Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg oedd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Bedwyr, Bangor. Roedd Eleri, Delyth, Dewi a Wayne ym Mangor a Telsa a minnau yn gwrando trwy Skype. Doeddwn ond wedi lawrlwytho meddalwedd Skype y diwrnod cynt ac heb gael sgwrs trwyddo o'r blaen, ond fel weithiodd yn gwbwl ddi-drafferth, er roeddwn yn ei chael yn annodd clywed rhaid o'r pobl ym Mangor, efallai roeddynt yn eistedd ymhell o'r meic.

Cymerias ran yn y cyfarfod gan mod i'n rhedeg cwmni tros y wê, ond hefyd roedd CMC eisiau rhywun o'r Rhithfro i siarad am sut all blogwyr a'r Gymdeithas gyd-weithio. Yn ystod Eisteddfod 2006 yn Abertawe fe gynhaliwyd blog-gwrdd ar stondin CMC, ar gobeithio yw gwneud yr un peth yn Eisteddfod eleni yn y Wyddgrug. Ar hyn o bryd nid yw'n debygol y bydd CMC yn cael cynnig slot ar stondin Prifysgol Bangor, ond mae sefydliad arall wedi cynnig rhannu stondin ac fe soniwyd neithwr am gael slot ym Mhabell y Cymdeithasau (gyda aelod o'r Rhithfro yn siarad, am flogio/rhywdweithio cymdeithasol o bosib?). Dulliau eraill o gydweithio yr awgrymais yw:
  • blogwyr yn hyrwyddo prosiectau/cynnyrch partneriaid CMC drwy flogio amdanynt - os nad yw blogwyr Cymraeg yn defnyddio a thrafod meddalwedd Cymraeg, pwy sydd am?
  • treialu meddalwedd newydd
  • cydlynu gyda chyfieithu
Nodais pa mor falch oeddwn i weld ymddangosiad blog Murmur, gan ei fod yn rhoi deimensiwn arall i'r rhithfro, sef blog gweithle. Awgrymodd Dewi y dylai aelodau eraill CMC flogio ac y gelli'r cronni (aggregate) y pyst i gyd mewn un man, efallai ar wefan CMC. Byddwn yn hoffi gweld hyn yn digwydd, ond dylai pobl ond blogio os ydynt eisiau gwneu nid am eu bod yn credu y dylent wneud. Ychydig iawn o fusnesau yng Nghymru sy'n cadw blog i mi wybod, a galla i ond meddwl am Dwdws (cyfeiriadur busnes) a KnowNet (datblygwyr meddalwedd i'r sector addysg).

Hefyd, os wnaethoch chi gwbwlhau ffurflen i ddangos diddordeb yn y Gymdeithas nôl yn mis Awst neu pryd bynnag, ond heb glywed dim, tydi CMC heb anghofio amdanoch, dim ond bod neb wedi cael amser i edrych dros y talenni eto!

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 10:11 am | dolen | 3 sylw |