<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blogiau newydd

12.4.07

Draenen yn y Cnawd - blog personol dwyieithog gan Barry o Bontllanfraith. Neis dod o hyd i flog yn Gymraeg o ardal Cwm Rhymni. Yn anffodus mae'n flog MySpace, felly rhaid i chi agor cyfrif cyn y gallwch hyd yn oed darllen y blog heb sôn am adeal sylw. Mae Barry'n athro Cymraeg mewn ysgol cynradd cyfrwng Saesneg, dyma ei hanes yng Ngwersyllt yr Urdd, Llangranog.


Golwg or Garn Wen -
Dau o sosialwyr a dysgwyr Cymraeg yr ydym, sy'n byw yn y canolbarth.
Dim ond dau bost sydd arno hyd yma ond mae'r ail bost am obeithion yr awdur am olygyddiaeth newydd y cylchgrawn Golwg yn ddifyr.


Etholiad 2007 - Blog Vaughan Roderick (sylwebydd gwleidyddol y BBC) wrth iddo sylwebu ar etholiad y Cynulliad 2007. Roeddwn yn ofni braidd mai mond bod â blog gan ei fod o (neu'r BBC) yn teimlo y dylai fod ag un oedd o, ond ymddengys fod Vaughan yn deall y busnes blogio ma reit da. Er, dwi ddim yn siwr os yw wedi ymateb i unrhyw un o'r amryw o sylwadau sydd ar y blog eto (nid mod i'n ymateb i bob un yma chwaith, sydd braidd yn anghwrtais), ond os nad yw'n bwriadu gwneud o gwbwl, does dim lot o wahaniaeth rhwng hwn a'i is-wefan blaenorol gan mai mond cyfres o byst/erthyglau ganddo fydd arno. Amser a ddengys.

Peth da sy'n dod o hyn, a diolch i Vaughan am hynny dwi'n meddwl, yw bod yna rwan flog Cymraeg, gyda rhyngwyneb gwbwl Gymraeg ar y BBC Blog Network (er doed dim dolen at flog Vaughan nag un Betsan Powys yma am ryw reswm).

Blog y Byd- efallai mai hwn yw'r pwysicaf ohonynt i gyd (diolch i Vaughan am y tip). Blog newydd gan y pobl tu cefn i'r fenter hirddigwyliedig (understatement y ddegawd!) papur dyddiol Y Byd.

Labels: , , ,

postiwyd gan Rhys Wynne, 2:21 pm

2 sylw:

Dwy'n newydd i'r busnes ma! Doeddwn i ddim yn gwybod bod disgwyl i mi ymateb i sylwadau yn ogystal a'u cyhoeddi! Diolch am ddweud, Dysgais wers.
sylw gan Anonymous Anonymous, 7:43 pm  

Wel, sdim rhaid ymateb i bob un, efallai bod y rhan fwyaf o'r sylwadau'n ddiwerth ta beth! Ond bydde'n syniad ymateb i ambell un, yn enwedig rhai sy'n adeiladol. Yn amlwg galli di ddim ymateb i bob un, na rhoi ymateb llawn pob tro chwaith, neu dyna cwbwl fyddi di'n ei wneud.

Jyst byddai'n edrych yn well os ti'n interactio gyda dy ddarllenwyr, dyna sy'n gwneud blogio yn beth ydi o - rhwydweithio cymdeithasol. Gwendid rhai blogiau 'swyddogol' (a nid cyfeirio at dy flog di ydw i) ydi eu bod yn rhoi rhyw fath o argraff

"darllenwch hwn, mae'n grêt - ond peidiwch meddwl mod i'n mynd i wastraffu fy amser yn darllen/ymateb i'ch sylwadau diddim chi plebs"

Ond diolch am alw draw (a gadel sylw) ;-)


Awgrymwyd un tro ar y blog hwn dwi'n meddwl y dylai rhywun/rai luni rhyw 'Restr canllawiau blogio' gyda awgrymaiadau - afallai nai lunio un yn fuan gyda bach o tips o ran etiquette a sut i wneud y gore o dechnoleg hefyd.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 10:40 am  

Gadawa sylw