<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Siaradog.tv

20.4.07

Bues i Lanelli ddoe i ffilmio ar gyfer Siaradog.tv, sef rhaglen ysgafn sydd ond i'w gweld ar y we, ble mae Aneirin Karadog (bitch i'w ffeindio ar MySpace, hyd yn oed wedi i sillafu 'Aneirin' yn gywir) yn cyfweld gwesteion ar ei soffa. Cefais wahoddiad i siarad am 'y we', ond i gyfiawnhau cymeryd hanner diwrnod o wyliau i ymddangos ar raglen 25 munud, gofynais os byddwn yn gallu trafod fy ngwefan jobscymraeg.com. Yn ogystal a fi, roedd Llwyd Owen (boi lyfli) hefyd ar y rhaglen i sôn am ei nofel sydd ar restr fêr Llyfr y Flwyddyn 2007, a Sanddef yn ymuno tros y ffôn i siarad am flogio'n Gymraeg. I fod yn deg cafodd Sanddef ddim rhyw lawer o gyfle i siarad gan fod nhw'n brin o amser.
Wnes i fwynhau'r profiad, roedd pawb yn Tinopolis yn glên iawn, er roedd rhaid i mi roi colur ymlaen fy hunan (honestly..!), ac mae Aneirin mor anrhefnus a fi. Lwcus i mi gael cip ar ei nodiadau o flaen llaw achos roedd o wedi argraffu tudalen gartref jobscymru.com, gwefan marw costus Menter a Busnes. Does dim cyllid i'r rhaglen, ac mae'n anffurfiol iawn sy'n grêt, ond dyma rhai o fy feirniadaeth (adeiladol) i:

Fformat:
Fel y gwelwch o fideo'r sioe, mae'r set wedi ei orchuddio gyda sbwriel a bronnau ffug, sy'n ei wneud i edrych braidd fel lloft bachgen 15 oed, sy'n tynny ychydig o'r rhaglen. Pan ddangosais y fideo i'm cyd weithwyr, dyna beth wnaethon nhw ddweud hefyd, a mae'r bits 'doniol' yn ar ddechrau'r rhaglen ychydig bach yn Noson Lawenaidd braidd, ac yn gwastraffu amser gallai gael ei ddefnyddio'n well yn cyflweld gwestai.

Y wefan:
O ran y wefan ei hun, tydi o ddim yn ddeiniadol ofnadwy, a gan mai tros y we y unig gallwch wylio'r rhaglen byddwn yn awgrymu gwella'i ymddangosiad a'i strwythyr.
  • Defynydd o Windows Media Player: Dwi ddim cweit digon geeky i ddeall problem gyda hyn, ond mae ambell un a'r maes-e ac yma yn beirinadu'r dewis.
  • Tudalen arbennig ar gyfer pob rhaglen, gyda set o sylwadau arbennig i bob rhaglen ar ffurf blog. Gellid wedyn postio o flaen llaw pob rhaglen i roi rhagflas o beth fydd ei gynnwys, a all wedyn helpu gyda chael awgrymiadau o ba fath o gwestiynnau hoffai gwilwyr i Aneirin ofyn.
  • Mantais arall blog yw gall y wefan greu porthiant pob tro mae'r wefan wedi'w ddiweddaru, (felly does dim angen sbamio maes-e i atgoffa pawb o sioe newydd!)
  • Dolenni - Mae na rhest (hir) o ddolenni, ond eto byddai bod â doleni at flogiau/gwefannau pob un o'r gwestai mewn un man.
  • Mae 18 Doughty Street (sy'n dod i Gymru ar 27/5/07) a Open Source Radio yn engrheifftiau da o beth elli'r wneud/anelu at.
Wedi dweud hynna i gyd roedd yn brofiad da, a gobeithio bydd yn llwyddiannus. Fel esboniodd Nia o Tinopolis wrthai, gallwch wneud rhaglen am unrhywbeth chi eisiau, does dim rhaid poeni am beth mae'r comisiynydd wedi dweud. Tydi'r cwmni ddim yn cael dim arain am ei gynhyrchu, er yn ogystal ag Aneirin ei hun, roedd 7 person arall ar lawr y stiwdio ac o leaif un arall yn cyfarwyddo o ystafell arall. Ond does dim angen iddo gostio dime goch, mae'n syndod i mi nad oes criw o fyfyrwyr, ar gwrs Cyfathrebu ym Mangor e.e. ddim wedi meddwl am ddechrau rhwybeth tebyg yn defnyddio YouTube a'r holl adnoddau cynhyrchu sydd gyda nhw i'w defnyddio yn y brfysgol.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:26 am

2 sylw:

Arg! O'n i wedi bod yn blogio'r trwy'r nos gyda sawl potel o San Miguel ac anghofio'n llwyr bydd rhaid imi siarad ar siaradod
sylw gan Anonymous Anonymous, 7:45 pm  

Helo Rhys!
Newydd ei wylio, ac mi wnês innau feddwl run fath am y cyflwyniad ac am y set...bach yn amaturaidd ella?
Ond mi wnêst ti job dda iawn yn dy gyfweliad.
sylw gan Blogger Linda, 1:05 am  

Gadawa sylw