<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Yn potsian gyda Tagzania

30.3.06



Yn fy mhost blaenorol dwi sôn am Tagzania a dwi wedi bod yn meddwl am ffyrdd o'i ddefnyddio. Meddyliais byddai arbrofi drwy fapio pob tafaran sydd wedi cael adolygiad ar flog Pubs Cymru yn ddechreuad da.

Dyma Ffrwd RSS i gael gwybod os/pan dwi'n ychwanegu mwy ato.

Does dim lot o gyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio Tagzania, er mae'n weddol rhwydd. Dwi wedi llwyddo creu link o'r rhestr ar y chwith at bob adolygiad unigol, ond am ryw reswm mae'r côd HTML yn ymddangos yn y 'cwmwl' ar y map sy'n edrych yn flêr.

Beth mae eraill yn meddwl am botensial y sustem? Oes gwerth mewn peth fel hyn a fyddai diddordeb gan bobl ei gyfieithu i'r Gymraeg?
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:32 am | dolen | 6 sylw |

Blogio, Tagio a Mapiau amlieithog

29.3.06

Wedi bod yn chwilota mwy am Wlad y Basg, beth arall?

The English Cemetery, blog tairieithog (Basgeg, Sbaeneg a Saesneg) gan Luistxo sy'n gweithio i gwmni sy'n
dedicated to making the Internet a truly global experience through internationalization and localization services.

Mae'r blog yn canolbwyntio ar bethau technolegol ran fwyaf, felly ddim lot o ddefnydd ar gyfer ymchwilio ar gyfer y daith, ond dwi wedi dod ar draws ambell beth diddorol, fel gwefannau mapio (sydd o ddefnydd) a llawer am feddlawedd yn ymwneud âg amlieithrwydd ar y wê (sydd dros fy mhen i, ond dal yn ddifyr):

Maps.ask.com: Gwefan mapio tebyg i Google Earth a Multimap, ond gyda sawl elfen defnyddiol fel cyfarwyddiadau fel route-planner

Tagzania: social software meets tagging and folksonomies. Mixing Google Maps with the strategy of del.icio.us.
Gwefan mapio côd agored, ble gelli'r ei addasu i'ch iaith eich hun, ac sy'n gallu ymdopi â llefydd gyda enwau mewn sawl iaith. Gallwch ei ddefnyddio i greu mapiau fel 'Tafarndai Aberystwyth', 'Maesydd pêl-droed Cymru' neu Amgueddfeydd Paris. Mae'n debyg mai rhywbeth fel hyn mae Dafydd wedi wneud gyda'r Gigfap.

Blog Tagzania


Blogak.com yw gwasaneth blogio tebyg i Blogger, ond mewn Basgeg

Bitakora: Sustem tagio amlieithog (dwi'n meddwl - dwi ar goll erbyn hyn!)


, , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:06 am | dolen | 3 sylw |

Blog y brawd-yng-nghyfraith (petawn yn briod)

28.3.06

Mae brawd Sarah, sef Nick (a'i wraig Michelle) wedi dechrau blog am eu cartref newydd. Mae wedi ymfudo i Aotearoa (Seland Newydd) ac felly cawn ni dddim cyfle i weld y tŷ am sbel. Dwi'n meddwl mai cofnod o'r holl waith maen't yn bwriadu gwneud ar y tŷ fydd o a chyfle i'w deulu weld ei gartref newydd, ond sut fydd Nick yn ffitio hyn i gyd mewn gyda'i frig-donni, dwi ddim yn gwybod.

Mae nhw'n bwy yn Birkdale yn ninas North Shore, ardal Auckland.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:19 pm | dolen | 0 sylw |

Mwy o wlad y Basg

27.3.06

Fel dwi wedi dweud yn barod, dwi'n mynd i wlad y Basg i wylio gêm pêl-droed rhwng Cymru a Euskal Selekzioa (tîm cenedlaethol Gwlad y Basg)

Kit pêl-droed GyB


Mwy o ddolenni

Pamffledi Llwybrau Cerdded ar ffurf PDF. Mae Bilbao yn rhanbarth Bizkaia.

Yn ôl y daflen hwn* (tud 2), mae'r gêm draddodiadol Pala yn cael ei chwarae yn Club Deportivo, Bilbao ar Ddyddiau Llun, Iau, Sadwrn a Sul drwy'r flwyddyn.

*Mae'r daflen hefyd yn sôn am drealon cŵn defaid, ond mae hwn yn mis Medi yn anffodus.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:56 pm | dolen | 0 sylw |

Rhys Wynne PhD

Dwi'n mwynhau darllen erthyglau Rhys a Dogfael yn Barn, ac roedd yn braf darllen erthygl Nic yn rhifyn diwethaf Y Faner Newydd am fy hoff grŵp Datblygu. Does gyda fi ddim y ddawn i ysgrifennu, felly mae'n anhebygol y gwelwch fy ngeiriau doeth yn y cylchgronnau hyn, ond dwi wedi llwyddo cael rhywbeth wedi ei gyhoeddi yn y New Scientist o bob man!
Dwi heb ddarganfod ffordd o wyrdroi y broses moeli na dim felly, ond draw ar negesfwrdd gwefan Urban75, dyma rhywun yn gofyn am gyfieithiad Cymraeg o
No-one will ever spot our plans for world domination

Doedd ddim yn fodlon dweud ar gyfer beth, ond wedi i mi anfon cyfieithiad ato/ati mewn neges breifat, dyma fo(neu hi)'n anfon dolen at yr erthygl hwn, gyda fy ngeiriau i yn yr ail erthygl. Mae'n sdori ddi-ddim sy'n gwneud fawr dim synnwyr ond mae'n gwneud fi'n hapus beth bynnag.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:24 am | dolen | 2 sylw |

Mae wedi dod i hyn

Ar ddrws tŷ bach toiledau tafarn Y Cayo (wedi ei enwi ar ôl arweinydd mudiad cenedlaetholgar), mae poster yn hysbysebu Clocs Canton, grŵp o Morris Dancers. Sôn am Imperialaeth Diwylliannol!
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:15 am | dolen | 0 sylw |

Gwlad y Basg

23.3.06

Kaixo.

Dwi erioed wedi bod i wylio Cymru'n chwarae oddi cartref o'r blaen, ond pan glywais eu bod am chwarae gêm gyfeillgar yng Ngwlad y Basg penderfynnais yn syth fy mod am fynd. Fel y rhagrithiwr ydw i, dwi'n hedfan i Bilbo (yr enw Basgeg am Bilbao, nid camsillafiad) o Heathrow, ac i fod yn deg byddai mordaith o Plymouth wedi cymeryd deuddydd. Dwi'n aros yno am bum noson gyda Glewlwyd Gafaelfawr sy'n deithiwr profiadol i gemau oddi cartref Cymru erbyn hyn.

Uchod mae llun o'r Ikurriña, sef banner Gwlad y Basg yn cael ei chwifio'n gyhoeddus cyn gêm rhwng Real Sociedad a Athletico Bilbao pan oedd chwifio'r fanner yn gyhoeddus yn waharddedig.

Dwi am osod rhai dolenni defnyddiol yn y post hwn, yn rhannol er fy mwyn i ond hefyd rhag ofn byddant o ddiddordeb i eraill.

Efallai awn i Donostia am y dydd, mae bysiau rheolaidd gan Pesa (gwefan yn y Basgeg a Sbaeneg) a Alsa (Saesneg a Sbaeneg)

Ychydig o eiriau Basgeg o wefan y BBC
Hanes yr iaith a geiriau Basgeg

Dwi di bod yn chwilio am fandiau Basgeg.
Metak (cylchgrawn ar-lein am fandiau Basgeg)
BilboRock-La Merced (Hen eglwys o'r 17G sydd rwan yn ganolfan cymunedol ar gyfer cerddoriaeth)
Euskadiko Soinuak (tebyg i Welsh Music Foundation)


Tatŵs Basgeg
- sylwch ar eu tebygrwydd i batrymau Celtaidd (paid poeni Sarah, ddoi ddim adre gyda un o'r rhain)

Byddai'n edrych am lefydd diwyllianol, llefydd i fwyta ac yfed ac hefyd mannau yn y wlad i gerdded os gai gyfle (a ddim gyda gormod o benmaenmawr).

Os ydych wedi bod i Wlad y Basg eich hunan a bod awgrymiadau gyda chi, gadewch fanylion yn y blwch sylwadau.


Eskerrik asko (Diolch)

Agur! (Hwyl!)


Gol.

Dwi wedi sefydlu tag 'Basg' ar fy rhestr del.icio.us*
*del.icio.us yw modd o osod Nodau Tudalen (Bookmarks) o dudalennau gwê rydych eisiau eu cadw. Mantais hyn dros eu gosod ar eich porwr arferol yw eich bod yn gallu gweld y rhestr yn unrhywle, nid ar eich cyfrifiadur eich hun yn unig ac mae'n bosib tagio't nodau fel ei fod yn haws eu darganfod eto.


, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:38 pm | dolen | 4 sylw |

Wikiquote: Wncl Phil, Dug Caeredin

Rhai o glasuron y gwr addfwyn mewn un man cyfleus, mwynhwech.

Dyma rhai engrheifftiau:
"Everybody was saying we must have more leisure. Now they are complaining they are unemployed." (1981)
Said during the 1981 recession.

"You are a woman, aren't you?" (1984)
Said in Kenya, to a native woman who had presented him with a small gift.

"If you stay here much longer you'll all get slitty eyed." (1986)
Said to British students in China.

"If it has four legs and is not a chair, has wings and is not an aeroplane, or swims and is not a submarine the Cantonese will eat it." (1986)
Said at a World Wildlife Fund meeting.

Trwy Mark My Words
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:35 am | dolen | 0 sylw |

Brwydr y sdwff du

20.3.06

Ar Slugger O'Toole, mae post am dafarnau thema Gwyddelig a sdori am ambell far Gwyddelig gwreiddiol yn UDA yn gwrthod gwerthu Guinness oherwydd mae'nt yn teimlo bod yn cwmni'n ceisio gwthio ehangiad o dafarnau cadwyn Gwyddelig.

Yn hyrtrach me'r tafarndai hyn yn gwerthu Beamish, ond mae peryg na fydd Beamish yn cael ei allforio o Cork i UDA cyn bo hir.
That's disastrous news for a handful of independent-minded Philadelphia tavern owners who have been boycotting Guinness for the past six years because of the brewery's suspected ties to a number of Irish-themed tavern chains.

"This is a big victory for Guinness," said Chris Mullins, of McGillin's Old Ale House, in Center City. "It's globalization at its worst."

Mae hyn oherwydd nad yw'r distrubutor (Scottish and Newcastle) yn credu fod o wertho y trafferth, gan mai mond 120,000 câs o Beamish mae'nt yn allforio i UDA yn flynyddol o'i gymharu â 6 miliwn câs o Newcy Brown.
Murphy's Irish Stout, made in Cork by Heineken, is a logical alternative, though Mooney said, "I can't get anyone to drink that stuff."

He and Mullins said they'd switch to O'Reilly's Stout, made by Sly Fox Brewing, in Phoenixville.

"It's just as good," said Mullins. "But the big problem is it's not made in Ireland, and that's what a lot of customers want."

But he added, "I will not go back to Guinness, not as long as they support places like Fado and Kildare's," another area Irish-theme bar chain.

All yfwyr profiadol yn UDA (Chris a Tom) gynnig stout amgen i'r tafarndai hyn?

Erthyglau cysylltiedig:
Some Philly Pubs Boycotting Guinness (o cbs3.com)
Bye-bye, Beamish (o Philly.com)
Ireland's "Crack" Habit: Explaining the faux Irish pub revolution (o'r Slate)
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:44 am | dolen | 2 sylw |

O ia, fel o'n i'n deud....

DWI DDIM EISIAU CLYWED BE SGIN TI DDEUD Y FFWCSYN, dwi 'di talu £9 i ddod yma i wrando ar Euros Childs a Radio Luxembourg.

Roedd y twats allan in force Nos Wener, ac er cafwyd perfformiadau gwych gan y ddau uchod, mi lwyddo'n nhw i ddifetha'r noson. Yn ogystal a'r "Heia ciw"'s sy'n bla mewn nosweithiau gan brif artisitaid Cymraeg, dwi'n amau bod canran o ddilynwyr nosweithau Forcast hefyd yn cynnwys pricks hunan bwysig sy'n mwynhau clywed eu lleisiau diflas eu hunain dros lais anhygoel Euros. Cyfuniad uffernol felly, a arweiniodd fi a'm ffrindiau i deimlo'n hollol tensed trwy'r gig gan fy mod yn ceisio rheoli'r ysfa i ddyrnu'r cwpwl tu cefn i mi oedd yn siarad yn ddi-baid, a'r criw i'r chwith oedd hefyd yn siarad ac yn chwifio'u sigared yn wyneb fy ngahriad.

Mae Sarah a fi di penderfynnu o hyn ymlaen i beidio trafferthu mynd i gigs gan artisitiaid fel Euros Childs a Gruff Rhys pan mae'nt ar daith yn Nghymru a mynd i'w gweld yn chwarae'n Lloegr yn lle, ble dim ond gwir ffans fydd yn mynychu gobeithio, rhai sydd eisiau gwrando.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:44 am | dolen | 2 sylw |

Allwch chi helpu?


Tra'n mynd trwy dudalen lythyrau'r Western Mail ar y wê (pam ydw i'n mynnu atreithio fy hun?), dyma'r llythyr isod o rifyn heddiw yn dod a deigryn i'm llygaid:
Seeking a Gryff
SIR - Back in 1992 my then three-year-old son Harry suffered horrific nightmares, he would not go to sleep (I have the opposite problem with him now!), around the same time a colourful character called Gryff was being seen advertising the National Garden Festival of Wales at Ebbw Vale.

When we visited the festival Harry met Gryff and my late father bought him a replica soft toy. He was over the moon and Gryff never left his side. When we got home I told Harry to kiss Gryff's red nose and he would be safe from his bad dreams. I honestly didn't think it would work but I was prepared to try anything.

Much to my amazement Harry's nightmares stopped and peace returned to the Griffiths household.

Anyway tragedy struck recently. Gryff was destroyed by our much-loved dog and Harry (now 16) is devastated.

I don't know if any readers know of anyone who has one gathering dust somewhere, I am happy to pay for it, but it would make his day if a replacement could be found.

CATHERIN GRIFFITHS
Trefin, Haverfordwest

Mae'r boi yn 16 oed, a mae ei fam yn ysgrifennu i bapur cenedlaethol yn dewud ei fod eisiau tedi! O'n i arfer meddwl bod fy rhieni i'n greulon tuag atai pan oeddwn yn fy arddegau a'u bod yn hell-bent ar ddinistrio fy mywyd, ond mae hyn yn piso ar eu hymdrechion tila nhw.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:31 am | dolen | 2 sylw |

No offence, ond...

17.3.06

mae llawer o Live Journal's yn..., wel shit. Ond nid felly dyddiadur Mr Ffiseg o Ysgol Gyfun Gwyr.
I now live in the small cupboard in the teaching room of the drama studio, along with Mr Jenkins and Mrs Jones who teaches Geography. They are nice people to live with (but I wish Mr Jenkins would stop leaving his false eyelashes in the sink every night).
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:56 pm | dolen | 0 sylw |

Dianc o'r Ddinas

Es i'r noson Dianc o'r Ddinas neithiwr a oedd wedi ei drefnu gan Menter a Busnes.

Mewn ffordd roedd y noson yn arloesol gan ei fod i ryw raddau'n enrhaifft o'r wladwriaeth yn ceisio dylanwadu a'r symudedd unigolion o fewn Cymru er mwyn gwrthnewid patrymau economaidd, cymdeithasol a ieithyddol. Efallai mod i'n gor-ddweud ychydig fan hyn, gan fod y noson wedi ei anelu at bobl sydd wedi symud i Gaerdydd o rannau eraill o Gymru ond sydd eisioes wedi dechrau meddwl am symud nôl i gefn gwlad Cymru, a phwrpas y noson oedd rhoi enrheifftiau o bobl sydd wedi gwenud hyn yn barod yn llwyddiannus.

Dwi wedi bod i sawl noson Menter a Busnes a threfnu, ac mae nhw'n anffurfiol dros ben a dwi yn eu mwynhau, ond roedd y noson yma'n dda iawn, y ddau siaradwr oedd Lowri, perchennog siop Dots yn Aberystwyth, ac Ifan sy'n bartner neu gyfarwyddwr cwmni Rhiannon yn Nhregaron.

Rhannodd y ddau eu profiadau o redeg cwmni, gan fod yn gwbwl onest wrth sôn am y manteision ac anfanteison o fod yn fos eich hunan. Er mai Lowri siaradodd orau am adael y ddinas a sefydlu cwmni (symud i ymuno â busnes ei fam wneath Ifan), gan fynd i sôn sut roedd ei sefyllfa gwaith yn y brifddinas ar y pryd hefyd wedi bod yn sbardun iddi, mi wnaeth Ifan roi llawer o gyngor/awgrymiadau defnyddiol oes oeddych yn gweld y cam o ad-leoli a dechrau busnes run pryd yn ormod, fel:
-Unai ceisio dechrau cwmni tra rydych yn byw yn y brifddinas, sydd ddim yn ddibynol ar ei leoliad (fel cynnig gwasanaeth, neu os gyda chi grefft), fel y gelli'r adleoli'n rhwydd.
-Peidio neidio mewn i rhywbeth os nad oes profiad gyda chi yn y maes. Fel rhedeg tafarn/gwesty e.e., gwell fyddai ceisio cael swydd rhan amser/dros dro (neu gweithio am ddim hyd yn oed) mewn busnes cyffelyb am gyfnod i fagu profiad ac insight.
-Os oes arian gyda chi, buddsoddi mewn i gwmni sy'n bodoli'n barod a threulio pob yn ail penwythnos yn helpu allan.

Dwi wedi sôn ers blwyddyn rwan yr hoffwn symud nôl i'r gogledd ac yn ddelfrydol gweithio i mi fy hunan. Mae ambell syniad bras gyda fi o beth hoffwn wneud, ond rhaid bod yn sicr mai nid breuddwydion gwrach ydynt a bod yn realistig. Byddai efallai'n syniad dod o hyd i swydd i ddechrau er mwyn setlo mewn cyn meddwl am ddechrau busnes. Dod o hyd i swyddi yw un o ofidion mawr fy nghariad (yn ogystal a byw yn agos i'm rhieni!), felly mae llawer gennym i'w ystyried.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:23 am | dolen | 0 sylw |

Diog yw trigolion Caerdydd

16.3.06

Dyma benawd erthygl yn y Western Mail.
Cardiff folk are 'laziest in all Europe'
Feb 27 2006
Lisa Jones, South Wales Echo


Workers in Cardiff take the easy option when it comes to getting to the office or factory.

According to a new website, the capital's workforce much prefer the car to the bike or their feet for their morning mode of transport.

Mae'r erthygl yn mynd ymlaen i sôn am sut mae Caerdydd yn cymharu'n anffafriol gyda dinasoedd ewropeaidd eraill o faint tebyg mewn arolwg o'r enw UrbanAudit.

Petawn i'n gweithio'n yn ddinas byddwn yn defnyddio fy meic, a dwi'n genfigennus iawn o'm cariad sy'n gallu bod yn ei gwaith o fewn 10-15 munud ar gefn ei beic a chael mynd trwy'r parciau pob dydd. Wedi dweud hynny, cyn cyrraedd y parc rhai mynd ar hyd ffyrdd prysur iawn ble does dim llwybrau beic, ac i wneud pethau'n waeth mae'r cyngor yn mynnu cloi giatiau'r parc am 5:00 neu'n gynharach yn y gaeaf. Mae hyn felly'n golygu na all neb sy'n gweithio'n y ddinas ddefnyddio'r llwybrau beic yn y parc i fynd adref.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:57 pm | dolen | 0 sylw |

Paid chwarae hefo hwnna!

O'r Gair Rhydd

Durham students were subject to a prank when they received an ‘official’ letter of complaint about excessive masturbation in the College showers.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:20 pm | dolen | 2 sylw |

Mwy o wenu, llai o wgu

15.3.06

Dwi'n teimlo bod rhaid mi ymddiheuro am dôn negyddol fy mlog, dwi'n gwneud dim ond cwyno. Bydde chi byth yn dychmygu fy mod yn berson llawen a happy-go-lucky yn y bod go iawn!

Mae'n anodd credu, ond mae rhai pobl yn blogio am hwyl - dwi'n gwbod, mae'n swnio'n beth hurt i'w wneud. Ta waeth, cynhaliwyd Gwobrau Blogio Iwerddon ar nos Fawrth yr 11eg o'r mis hwn, ac wrth ddarllen ennillwyr y categoriau, dyma fi'n dod ar draws ennillydd 'Post Doniolaf', sef New York Diary gan Twenty Major. Rhaid darllen i'r diwedd, mae'n werth gwneud.

Enillydd y categori 'Defnydd gorau o'r iaith Wyddeleg wrth flogio' oedd An tImeall. Mae awdur y blog, sef Conn Ó Muíneacháin newydd ddechrau blogio'n Saesneg hefyd, ac mae'r pyst cyntaf yn trafod blogio mewn iaith lleafrifol a sut mae hyn yn ffitio mewn gyda pethau fel Google, AdSense a Thagio. Cyn dod i'r penderfyniad i ddechrau blogio'n Saesneg yn ogystal a'r Wyddeleg, mi bostiodd (yn Saesneg) ar ei blog Gwyddeleg bost o dan y teitl; So, should I blog in English?. Mae'n bost hir ond mae'r canlynol yn swnio'n gyfarwydd:
When I started blogging, I chose to blog in Irish because:
1. It is my preferred language
2. I wanted to encourage others to do the same and so provide me with gael-blogs to read :-)
3. I didn't think I had anything to add to the discussions taking place on English language blogs.

Reasons 1 and 2 have not changed - but 3 has. Back then, I thought that there were so many people blogging in English, that anything I might say would probably have been said already, and better, by somebody else.

Fel y gwyddoch dwi hefyd yn cynnal blog yn Saesneg ac yn cyfrannu (yn anaml) at y blog aml-gyfranog They All Speak English?. Y rhesymeg tu cefn i'r ddau blog hyn yw rhoi safbwynt Cymraeg (h.y. siaradwyr Cymraeg) ar bynciau, ond yn Saesneg ac at gynulleidfa ehangach, ond tra'n parhau i flogio'n Gymraeg yn bennaf.


Digon i gnoi cîl drost yn fanna, a do dwi wedi llwyddo llithro i'r difrifol cyn diwedd y post hyd yn oed.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:05 pm | dolen | 0 sylw |

Mwy o ragrith gan y BBC a Meri on the ropes

14.3.06

Methais ddechrau'r rhaglen ond ar Wales@Work ar Radio Wales heno roedd ról y Gymraeg o fewn busnes yn cael ei drafod. Rhyw fath o ymateb oedd hyn dwi'n credu i gyhoeddiad adroddiad gan Martin Rhisiart o Ysgol Busnes Caerdydd i ddefnydd Cymraeg mewn busnes. Roedd o'n rhan o'r panel yn ogystal a Meri Huws o'r Bwrdd, a dau wr busnes (Nigel Roberts o gwmni dodrefn swyddfeydd a Siambr Fasnach ac Andreas Costas rhywbeth o gwmni ymgynghori i'r diwydiant awyrennau).

Doedd Meri Huws ddim yn swnio'n gyfforddus o gwbwl ac yn dod drosodd yn wan iawn gyda'i dadleuon o blaid defnyddio'r iaith pan yn ymateb i honiadau'r gwr diwydiant awyru bod dim defnydd i'r Gymraeg wrth iddynt ddelio gyda partneriaid yn Ffrainc, yr Eidal a'r dwyrain canol. Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gefnogol i'r iaith ond fod biliau nwy dwyieithog yn mynd dan ei groen a nad oedd yn hoffi cael yr iaith wedi ei wthio lawr ei gorn gwddw (tro'n daflen drosodd ta!) heb son am y gwastraff.

Ta waeth cafwyd clip o Lanberis ble roedd dau unigolyn wedi symud i'r ardal i fod yn berchnogion busensau ymwelwyr wedi dysgu'r iaith, ac yn dweud sut oedd hyn wedi eu helpu i wreiddio yn y gymuned ac sut roedd wedi bod o fudd i'r busnes gan iddynt allu gwasanaethu Cymry Cymraeg yn eu hiaith eu hunain ac hefyd defnyddio'r iaith i roi profiad unigryw i ymwelwyr o dramor.

Yn hytrach na derbyn bod gwerth gwirioneddol i'r iaith aeth y cyflwynydd ar y trywydd bod hi'n iawn yn y gogledd orllewin ond efallai ddim yn nunlle arall. Dywedodd MH y byddai cwsmweriaid ym mhob ran o Gymru'n siarad Cymraeg yn y dyfodol oherwydd addysg Gymraeg. Aeth y cyflwynydd Sarah Dickins ymlaen wedyn i awgrymmu bod y ffaith bod hanner cymaint o disgyblion yng Nghymru'n eistedd arholiadau TGAU mewn ieithoedd tramor i'w cymharu a disgyblion Lloegr yn rhywbeth i wneud a'r ffaith bod y Gymraeg yn orfodol, ac fe gytunodd Nigel gyda hyn a mynd ymlaen i ddweud bod cael y Gymraeg fel pwnc gorfodol yn debygol o droi buddsoddwyr o Loegr i ffwrdd ac nad oedd yn groesawgar gorfodi eu plant i ddysgu Cymraeg. Fel tasai hyn ddim yn ddigon aeth Sarah Dickins ymlaen i ddweud bod 25,000 yn gweithio yn y sector ariannol a byddai Cymraeg yn dda i ddim iddynt, a chwerthodd pan awgrymodd MH fod rhai o'r cwmniau hyn yn gweld manteision rhoi gwasanaeth Gymraeg ac yn ei gynnig yn barod (HSBC er engrhaifft).

Fel dwieddglo ychydig ysgafnach i'r rhaglen roedd gan Sarah Dickins lond bag o gynnyrch o'r archfarchnad i roi esiamplau o becynnu dwyieithog fel Tê Cymreig a Glengetie ("how we all laughed in the studio when we found out it came from England"), Braces (sut oedd rhai'n ddwyieithog a rhai ddim). Awgrymodd fod pecynnu'n ddwyieithog yn bod yn amharchus i'r Gymraeg gyda'i rhesymeg warped, a gorffenodd wedyn gyda dau engrhaifft da o ddau gwmni sy'n gwneud yn fawr o'u Cymreictog sef Brains a Felinfoel, ond sy'n defnyddio dim gair o Gymraeg (yn wir mae pecynnu Felinfoel yn Saesneg a Ffrangeg), roedd tôn Sarah Dickins fel petai'n dweud "Ti'n gweld Meri, sdim angen y Gymraeg ar y cwmniau hyn, am be ti'n rwdlan?"

Gallwch wrando ar y rhaglen yma (am y 7 diwrnod nesaf dwi'n meddwl), neu bydd yn cael ei ail-darlledu ar nos Sul y 26ain o Fawrth am 07:00.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:14 pm | dolen | 0 sylw |

Ychydig o newyddin da i'r Cochion

O'r BBC
Mae'r Llys Apêl wedi dyfarnu y dylai cartref Clwb Pêl-Droed Wrecsam aros yn nwylo'r gweinyddwyr.

O leiaf mae hyn yn ei wneud yn haws i'r gweinydwyr werthu'r clwb, ond mae amser yn rhedeg allan gyda'r Gyngrhair yn dal i fygwth gwahardd y clwb, ac hefyd pa sicrhwydd y gwerthi'r y clwb i'r bobl cywir?
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:37 am | dolen | 0 sylw |

Noson AMGEN, Caerdydd 6/3/06

8.3.06

Poster gwerth chweil

Noson Amgen

gyda

Shitmat

Stabmaster Vinyl v Trawsfynydd Lo-Fi Liberation Front

Gareth Bonello

+ DJ L@mbchop

Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Nos Iau 6ed o Ebrill

Difrod yn £4

9pm-1am
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:27 pm | dolen | 0 sylw |

Eisteddfod ar-lein

Mae Geraint am gynnal Eisteddfod ar-lein. Synaid syml, a dwi'n cymeryd bod croeso i unrhywun gymeryd rhan.
I'm going to host my own Eisteddfod ar-lein.
Leave a comment to compete in any of the following competitions:

Celf a Dylunio/Graffeg:
Design and create a simple picture on 'Paint' incorporating the theme 'Cariad.'

Celf a Dylunio(2):
Design and create a picture using pensil/beiro/paent/colaj, take a photograph and post on journal.

Cystadleuaeth infento/composo cân:
Just write down the lyrics in journal.

Ysgrifennu:
Stori/ymson/dyddiadur- sgwennu yn y journal.

Comments erbyn whenneva.

I don't know how I'm going to to the Seremoni cadeirio eto, but twill be very cŵl.
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:44 pm | dolen | 4 sylw |

Gweld a phrofi meddalwedd 17/3/06

7.3.06

Mae Cymdeithas Meddalwedd Cymraeg am wadd ffrindiau i ymuno â ni mewn sesiwn gweld a phrofi meddalwedd Cymraeg.

Mae'r Gymdeithas, sy'n cynrychioli darparwyr meddalwedd Cymraeg, yn awyddus i bawb gael cyfle i brofi'r ystod eang o feddalwedd sydd ar gael ar gyfer defnyddwyr Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae'r arlwy yn cynnwys croeso gan Hywel Williams AS, cyflwyniadau byr gan ddarparwyr a chyfle i brofi'r feddalwedd drosoch chi eich hun. Mae'r dewis yn un eang ac yn cynnwys rhaglenni swyddfa a hamdden yn ogystal ag offer gwirio iaith a geiriaduron.

Am fanylion pellach am y gynhadledd, ewch i wefan newydd y Gymdeithas.

Dewch draw ar brynhawn dydd Gwener Mawrth 17 i Techniwm CAST, Prifysgol Cymru Parc Menai, Bangor am 2.00 o'r gloch i weld, teimlo a chlywed... Bydd paned a sgons ar gael.

Cofrestrwch am ddim drwy:
cmc AT meddalweddcymraeg.org


O maes-e.com
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:53 am | dolen | 0 sylw |

Rhaglen am Killer Coke, ITV1 6/3/06

5.3.06

Wedi derbyn e-bost gan KillerCoke.org yn dweud y canlynol:
On Monday, March 6, 2006 from 8-8:30 pm, the UK's most watched current affairs program, "Tonight with Trevor McDonald" will be doing a half hour program on ITV1 about issues surrounding Killer Coke (The Coca-Cola Co.). The program will cover certain aspects of Coca-Cola, including human rights abuse allegations at its plants in Colombia.

Sdim llawer gyda fi ddweud wrth y brenhiniaeth-garwr Trevor McDonald, ond mi wyliai hwn.
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:00 pm | dolen | 0 sylw |

Y Crys-T perffaith

3.3.06

Beth am rannu eich syniadau ar gyfer ymgais i wneud the perfect t-shirt


trwy hippyshopper
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:07 am | dolen | 0 sylw |

Gwir bwrpas datganoli (yn ôl y Swyddfa Gymreig)

Wedi ei gymeryd o flog Ymgyrch Senedd i Loegr, mae ymateb gan Matthew Burchell ('ymgynghrydd arbennig' i'r Swyddfa Gymreig) i ymholiad gan awdur y blog. Dwi ddim yn sicr beth oedd yr ymholiad, ond mae'r ymateb yn dweud cyfrolau dwi'n meddwl.
Dear Sir,

Thank you for your email. Please accept my apologies for the delay in
replying.

The Secretary of State believes that, far from fuelling Welsh and Scottish
nationalism, devolution for Scotland and Wales has dealt it a severe blow,
and in doing so, has secured the future of the United Kingdom. This is
clearly demonstrated by the fact that support for separatist parties in
Scotland and Wales has declined since the establishment of the Scottish
Parliament and the National Assembly for Wales.

The Government does not support the Lord Baker's private members bill
because it would undermine the fundamental constitutional principle that all
MPs are equal and would lead to constitutional uncertainty.

Once again, thank you for taking the opportunity to write.

Yours faithfully,

Matthew Burchell

Felly nid er mwyn dod a democratiaeth y sefydlwyd y Cynulliad ond i gryfhau'r Deyrnas Gyfunol.

Hefyd yn yr un post, mae dolen at wefan (mwy-neu-lai uniaith Saesneg) Caernarfon On-line, ble mae'n dangos lluniau o sgrin fawr ar Faes Caernarfon i ddangos yr agoriad brenhinol.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:12 am | dolen | 0 sylw |

Dim llais

1.3.06

Mae'r cysylltiad i'r wê'n ffwcedig ar hyn o bryd, ond yn grynno, dwi newydd biciad adre wedi bod yn y bae yn gweiddi a bloeddio ar y Frenhines a phob Dic Siôn Dafydd (Urdd, Dafydd El, Rhodri Morgan...) o fewn golwg. Roedd yr awyrgylch yn wych, a gaiff y cyfryngau job ar y naw i olygu'r peth gan fod y swn yn fyddarol. Roedd gwrdystwyr yno o Gymdeithas yr Iaith, Gweriniaethwyr Cymreig, Gweriniaethwyr Prydeinig, cyn-weithwyr ASW, Sosialwyr, Anarchiaid a sawl un arall. Tybiwn i na welwn ni neb o deulu brenhinol Lloegr yng Ngymru am gryn amser wedi hyn. Da iawn bawd!

Dwi'n mynd rwan i ymuno â gorymdaith Dewi Sant drwy'r ddinas a byddai'n mynd i wylio Cymru'n chwarae pêl-droed heno. Dydd Gwyl Dewi Hapus i bawb.



Llun gan Sleepflower
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:17 pm | dolen | 2 sylw |

Ceisiwch cwis Mr Andrews

Tra'n pori wefan newyddion BBC Wales, dyma fi'n dod ar draws cwis 'ysgafn' i gyd fynd â'r diwrnod.


I ddechrau mae'n gofyn:
Are you crachach?
As the great and the good of Wales - or crachach as they're known - descend on Cardiff for the Senedd opening, try our quiz to find out if you should be on a VIP list or at least a committee.

Rhag ofn fydd y tudalen wedi diflannu, dyma'r cwestiynnau a'r dewis o atebion. Dwi wedi duo'r atebion cywir os ydych yn crachach.
Question 1 - Where do you live or where would you like to live?
A: Pontcanna; Vale of Glamorgan or Usk Valley
B: Anywhere else in Wales
C: Anywhere else in the world

Question 2 - Where do you take your weekend breaks?
A: Costa del Anywhere via Easyjet
B: Solva, Newport (Pembs) or Llandeilo?
C: Newport, home of rappers GLC

Question 3 - Ydych chi'n siarad Cymraeg?
A: Whaa?
B: Dw i'n dysgu
C: Ydw

Question 4 - Where were you educated?
A: School of hard knocks and university of life
B: Bog standard comp
C: Ysgol gyfun/gynradd

Question 5 - Where do you watch Wales play rugby?
A: Corporate hospitality or debenture seat
B: Through Currys' window
C: Down the Con club with the boys

Question 6 - What is on your living room wall?
A: An Ikea print
B: A Kyffin Williams, personally signed of course
C: Woodchip wallpaper and Artex

Pwy sgwennod y cwis yma tybed, Leighton Andrews efallai?
postiwyd gan Rhys Wynne, 12:27 pm | dolen | 4 sylw |