<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Mwy o ragrith gan y BBC a Meri on the ropes

14.3.06

Methais ddechrau'r rhaglen ond ar Wales@Work ar Radio Wales heno roedd ról y Gymraeg o fewn busnes yn cael ei drafod. Rhyw fath o ymateb oedd hyn dwi'n credu i gyhoeddiad adroddiad gan Martin Rhisiart o Ysgol Busnes Caerdydd i ddefnydd Cymraeg mewn busnes. Roedd o'n rhan o'r panel yn ogystal a Meri Huws o'r Bwrdd, a dau wr busnes (Nigel Roberts o gwmni dodrefn swyddfeydd a Siambr Fasnach ac Andreas Costas rhywbeth o gwmni ymgynghori i'r diwydiant awyrennau).

Doedd Meri Huws ddim yn swnio'n gyfforddus o gwbwl ac yn dod drosodd yn wan iawn gyda'i dadleuon o blaid defnyddio'r iaith pan yn ymateb i honiadau'r gwr diwydiant awyru bod dim defnydd i'r Gymraeg wrth iddynt ddelio gyda partneriaid yn Ffrainc, yr Eidal a'r dwyrain canol. Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn gefnogol i'r iaith ond fod biliau nwy dwyieithog yn mynd dan ei groen a nad oedd yn hoffi cael yr iaith wedi ei wthio lawr ei gorn gwddw (tro'n daflen drosodd ta!) heb son am y gwastraff.

Ta waeth cafwyd clip o Lanberis ble roedd dau unigolyn wedi symud i'r ardal i fod yn berchnogion busensau ymwelwyr wedi dysgu'r iaith, ac yn dweud sut oedd hyn wedi eu helpu i wreiddio yn y gymuned ac sut roedd wedi bod o fudd i'r busnes gan iddynt allu gwasanaethu Cymry Cymraeg yn eu hiaith eu hunain ac hefyd defnyddio'r iaith i roi profiad unigryw i ymwelwyr o dramor.

Yn hytrach na derbyn bod gwerth gwirioneddol i'r iaith aeth y cyflwynydd ar y trywydd bod hi'n iawn yn y gogledd orllewin ond efallai ddim yn nunlle arall. Dywedodd MH y byddai cwsmweriaid ym mhob ran o Gymru'n siarad Cymraeg yn y dyfodol oherwydd addysg Gymraeg. Aeth y cyflwynydd Sarah Dickins ymlaen wedyn i awgrymmu bod y ffaith bod hanner cymaint o disgyblion yng Nghymru'n eistedd arholiadau TGAU mewn ieithoedd tramor i'w cymharu a disgyblion Lloegr yn rhywbeth i wneud a'r ffaith bod y Gymraeg yn orfodol, ac fe gytunodd Nigel gyda hyn a mynd ymlaen i ddweud bod cael y Gymraeg fel pwnc gorfodol yn debygol o droi buddsoddwyr o Loegr i ffwrdd ac nad oedd yn groesawgar gorfodi eu plant i ddysgu Cymraeg. Fel tasai hyn ddim yn ddigon aeth Sarah Dickins ymlaen i ddweud bod 25,000 yn gweithio yn y sector ariannol a byddai Cymraeg yn dda i ddim iddynt, a chwerthodd pan awgrymodd MH fod rhai o'r cwmniau hyn yn gweld manteision rhoi gwasanaeth Gymraeg ac yn ei gynnig yn barod (HSBC er engrhaifft).

Fel dwieddglo ychydig ysgafnach i'r rhaglen roedd gan Sarah Dickins lond bag o gynnyrch o'r archfarchnad i roi esiamplau o becynnu dwyieithog fel Tê Cymreig a Glengetie ("how we all laughed in the studio when we found out it came from England"), Braces (sut oedd rhai'n ddwyieithog a rhai ddim). Awgrymodd fod pecynnu'n ddwyieithog yn bod yn amharchus i'r Gymraeg gyda'i rhesymeg warped, a gorffenodd wedyn gyda dau engrhaifft da o ddau gwmni sy'n gwneud yn fawr o'u Cymreictog sef Brains a Felinfoel, ond sy'n defnyddio dim gair o Gymraeg (yn wir mae pecynnu Felinfoel yn Saesneg a Ffrangeg), roedd tôn Sarah Dickins fel petai'n dweud "Ti'n gweld Meri, sdim angen y Gymraeg ar y cwmniau hyn, am be ti'n rwdlan?"

Gallwch wrando ar y rhaglen yma (am y 7 diwrnod nesaf dwi'n meddwl), neu bydd yn cael ei ail-darlledu ar nos Sul y 26ain o Fawrth am 07:00.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:14 pm

0 sylw:

Gadawa sylw