<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



O ia, fel o'n i'n deud....

20.3.06

DWI DDIM EISIAU CLYWED BE SGIN TI DDEUD Y FFWCSYN, dwi 'di talu £9 i ddod yma i wrando ar Euros Childs a Radio Luxembourg.

Roedd y twats allan in force Nos Wener, ac er cafwyd perfformiadau gwych gan y ddau uchod, mi lwyddo'n nhw i ddifetha'r noson. Yn ogystal a'r "Heia ciw"'s sy'n bla mewn nosweithiau gan brif artisitaid Cymraeg, dwi'n amau bod canran o ddilynwyr nosweithau Forcast hefyd yn cynnwys pricks hunan bwysig sy'n mwynhau clywed eu lleisiau diflas eu hunain dros lais anhygoel Euros. Cyfuniad uffernol felly, a arweiniodd fi a'm ffrindiau i deimlo'n hollol tensed trwy'r gig gan fy mod yn ceisio rheoli'r ysfa i ddyrnu'r cwpwl tu cefn i mi oedd yn siarad yn ddi-baid, a'r criw i'r chwith oedd hefyd yn siarad ac yn chwifio'u sigared yn wyneb fy ngahriad.

Mae Sarah a fi di penderfynnu o hyn ymlaen i beidio trafferthu mynd i gigs gan artisitiaid fel Euros Childs a Gruff Rhys pan mae'nt ar daith yn Nghymru a mynd i'w gweld yn chwarae'n Lloegr yn lle, ble dim ond gwir ffans fydd yn mynychu gobeithio, rhai sydd eisiau gwrando.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:44 am

2 sylw:

Cabledd!

O 'mhrofiad i, prin iawn yng Nghaerdydd cei di gynnulleidfa fwy parchus tuag at yr artist ar y llwyfan na mewn gig Forecast.

Dwi'n amau fod canran llawer uwch o "pricks hunan bwysig sy'n mwynhau clywed eu lleisiau diflas eu hunain dros lais anhygoel Euros" ymysg y rheini sy'n dilyn unrhywbeth Cymreig, na sydd yn dy avarage gig Forecast...

Do'n i ddim yna nos Wener, ond dwi'n ffyddiog taw nôd ddidwyll y trefnwyr, a'r criw selog sy'n mynd i lot o'u gigs nhw, yw rhoi chwarae teg i bob math o gerddoriaeth 'amgen' na fyddet ti'n profi yn fyw yng nghaerdydd fel arall. Dwi'n amau mai'r broblem tro 'ma, yw fod Euros Childs yn eithriad i'r rheol yna. Fel Gruff Rhys, ma'r cysylltiad gyda band enwog yn creu heip ar draul y gerddoriaeth - sy'n biti. Ond chei di ddim a beio Forecast am hynny!
sylw gan Blogger Dwlwen, 1:47 pm  

Dwi'n amau fod canran llawer uwch o "pricks hunan bwysig sy'n mwynhau clywed eu lleisiau diflas eu hunain dros lais anhygoel Euros" ymysg y rheini sy'n dilyn unrhywbeth Cymreig, na sydd yn dy avarage gig Forecast...

Cytuno.

Dwi ddim eisiau gwenud cam â mynychwyr arferol gigs Forcast. Tydw i fy hunan heb fod i un o'u gigs nhw o'r blaen ond o weld y trefnwyr nos Wener a derbyn llyfryn bach del gyda'r tocynau drwy'r post, mae'n amlwg eu bod nhw o ddifri am eu cerddoriaeth ac eisiau gwneud eu nosweithiau'n rhai pleserus. Yn fy myd bach du a gwyn fi, mond siaradwyr Cymraeg sy'n ystyried Euros Childs yn enw mawr, ac felly mai selogion Forecast fyddai unrhywun di-gymraeg yn y gynulleidfa. Ond fel ti'n deud mae Euros Childs a Gruff Rhys et al yn enwau gweddol fawr ac yn siwr o ddenu cynulleidfa 'arbennig'.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 8:34 am  

Gadawa sylw