Rhys Wynne PhD
27.3.06
Dwi'n mwynhau darllen erthyglau Rhys a Dogfael yn Barn, ac roedd yn braf darllen erthygl Nic yn rhifyn diwethaf Y Faner Newydd am fy hoff grŵp Datblygu. Does gyda fi ddim y ddawn i ysgrifennu, felly mae'n anhebygol y gwelwch fy ngeiriau doeth yn y cylchgronnau hyn, ond dwi wedi llwyddo cael rhywbeth wedi ei gyhoeddi yn y New Scientist o bob man!
Dwi heb ddarganfod ffordd o wyrdroi y broses moeli na dim felly, ond draw ar negesfwrdd gwefan Urban75, dyma rhywun yn gofyn am gyfieithiad Cymraeg o
Doedd ddim yn fodlon dweud ar gyfer beth, ond wedi i mi anfon cyfieithiad ato/ati mewn neges breifat, dyma fo(neu hi)'n anfon dolen at yr erthygl hwn, gyda fy ngeiriau i yn yr ail erthygl. Mae'n sdori ddi-ddim sy'n gwneud fawr dim synnwyr ond mae'n gwneud fi'n hapus beth bynnag.
Dwi heb ddarganfod ffordd o wyrdroi y broses moeli na dim felly, ond draw ar negesfwrdd gwefan Urban75, dyma rhywun yn gofyn am gyfieithiad Cymraeg o
No-one will ever spot our plans for world domination
Doedd ddim yn fodlon dweud ar gyfer beth, ond wedi i mi anfon cyfieithiad ato/ati mewn neges breifat, dyma fo(neu hi)'n anfon dolen at yr erthygl hwn, gyda fy ngeiriau i yn yr ail erthygl. Mae'n sdori ddi-ddim sy'n gwneud fawr dim synnwyr ond mae'n gwneud fi'n hapus beth bynnag.
2 sylw:
sylw gan Nic, 8:40 pm
Dwi edrych ymlaen yn arw at y wefan
Falch dy fod di wedi joio'r peth yn y Faner. Jyst aros nes i ti weld y stwff bydd ar datblygu.com...