<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Mwy o wenu, llai o wgu

15.3.06

Dwi'n teimlo bod rhaid mi ymddiheuro am dôn negyddol fy mlog, dwi'n gwneud dim ond cwyno. Bydde chi byth yn dychmygu fy mod yn berson llawen a happy-go-lucky yn y bod go iawn!

Mae'n anodd credu, ond mae rhai pobl yn blogio am hwyl - dwi'n gwbod, mae'n swnio'n beth hurt i'w wneud. Ta waeth, cynhaliwyd Gwobrau Blogio Iwerddon ar nos Fawrth yr 11eg o'r mis hwn, ac wrth ddarllen ennillwyr y categoriau, dyma fi'n dod ar draws ennillydd 'Post Doniolaf', sef New York Diary gan Twenty Major. Rhaid darllen i'r diwedd, mae'n werth gwneud.

Enillydd y categori 'Defnydd gorau o'r iaith Wyddeleg wrth flogio' oedd An tImeall. Mae awdur y blog, sef Conn Ó Muíneacháin newydd ddechrau blogio'n Saesneg hefyd, ac mae'r pyst cyntaf yn trafod blogio mewn iaith lleafrifol a sut mae hyn yn ffitio mewn gyda pethau fel Google, AdSense a Thagio. Cyn dod i'r penderfyniad i ddechrau blogio'n Saesneg yn ogystal a'r Wyddeleg, mi bostiodd (yn Saesneg) ar ei blog Gwyddeleg bost o dan y teitl; So, should I blog in English?. Mae'n bost hir ond mae'r canlynol yn swnio'n gyfarwydd:
When I started blogging, I chose to blog in Irish because:
1. It is my preferred language
2. I wanted to encourage others to do the same and so provide me with gael-blogs to read :-)
3. I didn't think I had anything to add to the discussions taking place on English language blogs.

Reasons 1 and 2 have not changed - but 3 has. Back then, I thought that there were so many people blogging in English, that anything I might say would probably have been said already, and better, by somebody else.

Fel y gwyddoch dwi hefyd yn cynnal blog yn Saesneg ac yn cyfrannu (yn anaml) at y blog aml-gyfranog They All Speak English?. Y rhesymeg tu cefn i'r ddau blog hyn yw rhoi safbwynt Cymraeg (h.y. siaradwyr Cymraeg) ar bynciau, ond yn Saesneg ac at gynulleidfa ehangach, ond tra'n parhau i flogio'n Gymraeg yn bennaf.


Digon i gnoi cîl drost yn fanna, a do dwi wedi llwyddo llithro i'r difrifol cyn diwedd y post hyd yn oed.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:05 pm

0 sylw:

Gadawa sylw