<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dianc o'r Ddinas

17.3.06

Es i'r noson Dianc o'r Ddinas neithiwr a oedd wedi ei drefnu gan Menter a Busnes.

Mewn ffordd roedd y noson yn arloesol gan ei fod i ryw raddau'n enrhaifft o'r wladwriaeth yn ceisio dylanwadu a'r symudedd unigolion o fewn Cymru er mwyn gwrthnewid patrymau economaidd, cymdeithasol a ieithyddol. Efallai mod i'n gor-ddweud ychydig fan hyn, gan fod y noson wedi ei anelu at bobl sydd wedi symud i Gaerdydd o rannau eraill o Gymru ond sydd eisioes wedi dechrau meddwl am symud nôl i gefn gwlad Cymru, a phwrpas y noson oedd rhoi enrheifftiau o bobl sydd wedi gwenud hyn yn barod yn llwyddiannus.

Dwi wedi bod i sawl noson Menter a Busnes a threfnu, ac mae nhw'n anffurfiol dros ben a dwi yn eu mwynhau, ond roedd y noson yma'n dda iawn, y ddau siaradwr oedd Lowri, perchennog siop Dots yn Aberystwyth, ac Ifan sy'n bartner neu gyfarwyddwr cwmni Rhiannon yn Nhregaron.

Rhannodd y ddau eu profiadau o redeg cwmni, gan fod yn gwbwl onest wrth sôn am y manteision ac anfanteison o fod yn fos eich hunan. Er mai Lowri siaradodd orau am adael y ddinas a sefydlu cwmni (symud i ymuno â busnes ei fam wneath Ifan), gan fynd i sôn sut roedd ei sefyllfa gwaith yn y brifddinas ar y pryd hefyd wedi bod yn sbardun iddi, mi wnaeth Ifan roi llawer o gyngor/awgrymiadau defnyddiol oes oeddych yn gweld y cam o ad-leoli a dechrau busnes run pryd yn ormod, fel:
-Unai ceisio dechrau cwmni tra rydych yn byw yn y brifddinas, sydd ddim yn ddibynol ar ei leoliad (fel cynnig gwasanaeth, neu os gyda chi grefft), fel y gelli'r adleoli'n rhwydd.
-Peidio neidio mewn i rhywbeth os nad oes profiad gyda chi yn y maes. Fel rhedeg tafarn/gwesty e.e., gwell fyddai ceisio cael swydd rhan amser/dros dro (neu gweithio am ddim hyd yn oed) mewn busnes cyffelyb am gyfnod i fagu profiad ac insight.
-Os oes arian gyda chi, buddsoddi mewn i gwmni sy'n bodoli'n barod a threulio pob yn ail penwythnos yn helpu allan.

Dwi wedi sôn ers blwyddyn rwan yr hoffwn symud nôl i'r gogledd ac yn ddelfrydol gweithio i mi fy hunan. Mae ambell syniad bras gyda fi o beth hoffwn wneud, ond rhaid bod yn sicr mai nid breuddwydion gwrach ydynt a bod yn realistig. Byddai efallai'n syniad dod o hyd i swydd i ddechrau er mwyn setlo mewn cyn meddwl am ddechrau busnes. Dod o hyd i swyddi yw un o ofidion mawr fy nghariad (yn ogystal a byw yn agos i'm rhieni!), felly mae llawer gennym i'w ystyried.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:23 am

0 sylw:

Gadawa sylw