<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Gwlad y Basg

23.3.06

Kaixo.

Dwi erioed wedi bod i wylio Cymru'n chwarae oddi cartref o'r blaen, ond pan glywais eu bod am chwarae gêm gyfeillgar yng Ngwlad y Basg penderfynnais yn syth fy mod am fynd. Fel y rhagrithiwr ydw i, dwi'n hedfan i Bilbo (yr enw Basgeg am Bilbao, nid camsillafiad) o Heathrow, ac i fod yn deg byddai mordaith o Plymouth wedi cymeryd deuddydd. Dwi'n aros yno am bum noson gyda Glewlwyd Gafaelfawr sy'n deithiwr profiadol i gemau oddi cartref Cymru erbyn hyn.

Uchod mae llun o'r Ikurriña, sef banner Gwlad y Basg yn cael ei chwifio'n gyhoeddus cyn gêm rhwng Real Sociedad a Athletico Bilbao pan oedd chwifio'r fanner yn gyhoeddus yn waharddedig.

Dwi am osod rhai dolenni defnyddiol yn y post hwn, yn rhannol er fy mwyn i ond hefyd rhag ofn byddant o ddiddordeb i eraill.

Efallai awn i Donostia am y dydd, mae bysiau rheolaidd gan Pesa (gwefan yn y Basgeg a Sbaeneg) a Alsa (Saesneg a Sbaeneg)

Ychydig o eiriau Basgeg o wefan y BBC
Hanes yr iaith a geiriau Basgeg

Dwi di bod yn chwilio am fandiau Basgeg.
Metak (cylchgrawn ar-lein am fandiau Basgeg)
BilboRock-La Merced (Hen eglwys o'r 17G sydd rwan yn ganolfan cymunedol ar gyfer cerddoriaeth)
Euskadiko Soinuak (tebyg i Welsh Music Foundation)


Tatŵs Basgeg
- sylwch ar eu tebygrwydd i batrymau Celtaidd (paid poeni Sarah, ddoi ddim adre gyda un o'r rhain)

Byddai'n edrych am lefydd diwyllianol, llefydd i fwyta ac yfed ac hefyd mannau yn y wlad i gerdded os gai gyfle (a ddim gyda gormod o benmaenmawr).

Os ydych wedi bod i Wlad y Basg eich hunan a bod awgrymiadau gyda chi, gadewch fanylion yn y blwch sylwadau.


Eskerrik asko (Diolch)

Agur! (Hwyl!)


Gol.

Dwi wedi sefydlu tag 'Basg' ar fy rhestr del.icio.us*
*del.icio.us yw modd o osod Nodau Tudalen (Bookmarks) o dudalennau gwê rydych eisiau eu cadw. Mantais hyn dros eu gosod ar eich porwr arferol yw eich bod yn gallu gweld y rhestr yn unrhywle, nid ar eich cyfrifiadur eich hun yn unig ac mae'n bosib tagio't nodau fel ei fod yn haws eu darganfod eto.


, , , , , , ,
Generated By Technorati Tag Generator
postiwyd gan Rhys Wynne, 3:38 pm

4 sylw:

Dwi'n dechre cynhyrfu am y trip yma nawr.
Dwi'n credu ein bod ni am neud taith i Donosti hefyd, gan fod un o'r bois wedi bod yna llynedd ac yn dweud ei fod e'n "pisso ar Bilbo", er fod Bilbo dal yn le gwych.
sylw gan Blogger Siôn, 9:35 am  

Dwi'n cyrraedd yn hwyr nos Iau ac yn hedfan nol bore dydd Mawrth felly mae cyfle mynd i Donoista ar y Sul. Mae'r bysiau olaf yn ôl i Bilbo yn gadael yn hwyr (wel 10:00) ar nos Sul o be dwi'n ddeall.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 9:55 am  

Dwi hefyd bellach yn mynd ar y daith yma, ac yn edrych ymlaen. Bydd yn ddiddorol gweld pwy ydi GG!
sylw gan Blogger Aled, 10:25 am  

Gwych, gorau po fwyaf. Siwr o'ch gweld chi 'na. Mae Prysor a SbecsPelydrX yn mynd hefyd a lot mwy dwi'n nabod hefyd mae'n siwr.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 12:36 pm  

Gadawa sylw