<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Dim llais

1.3.06

Mae'r cysylltiad i'r wê'n ffwcedig ar hyn o bryd, ond yn grynno, dwi newydd biciad adre wedi bod yn y bae yn gweiddi a bloeddio ar y Frenhines a phob Dic Siôn Dafydd (Urdd, Dafydd El, Rhodri Morgan...) o fewn golwg. Roedd yr awyrgylch yn wych, a gaiff y cyfryngau job ar y naw i olygu'r peth gan fod y swn yn fyddarol. Roedd gwrdystwyr yno o Gymdeithas yr Iaith, Gweriniaethwyr Cymreig, Gweriniaethwyr Prydeinig, cyn-weithwyr ASW, Sosialwyr, Anarchiaid a sawl un arall. Tybiwn i na welwn ni neb o deulu brenhinol Lloegr yng Ngymru am gryn amser wedi hyn. Da iawn bawd!

Dwi'n mynd rwan i ymuno â gorymdaith Dewi Sant drwy'r ddinas a byddai'n mynd i wylio Cymru'n chwarae pêl-droed heno. Dydd Gwyl Dewi Hapus i bawb.



Llun gan Sleepflower
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:17 pm

2 sylw:

Rhys, mae hon yn swnio'n wych! Be' oedd y gwrthdystiad?
sylw gan Blogger Tom Parsons, 3:06 pm  

Tu allan i adeilad newydd y Cynulliad (sy'n cael ei alw'n Senedd). Roedd i fod yn ddiwrnod arbennig i bob Cymro a Chymraes (sy'n credu yn ein hawl i reoli'n hunain), ond cafodd rhywun y syniad gwych o wahodd Brenhines Lloegr i'w agor. Er ei bod hi'n ddynes ffein yn y bôn mae'n siwr, tydi hi ddim y person gorau i agor sefydliad democrataidd Cymreig. Siom oedd gweld aelodau etholedig o bob plaid yn cusansu ei thîn, ond braf oedd gweld a chlywed bod mwy o fobl yno i bwian ar y frenhines a'r holl fradwyr, nag oedd yno i dynu llun.
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 3:42 pm  

Gadawa sylw