<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Blog Small Nation

29.9.05

Diolch i Mr Nwdls am ein cyfeirio at wefan ddiddorol o'r enw Small Nation. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar Yr Alban ac Iwerddon, hefyd cymhariaethau gyda glwedydd bychain eraill a thrafod materion lleol a bydol.

Mae yna hefyd ddolen oddi ar y blog hwn ar Global Voices, sef casgliad o flogiau o ar draws y byd.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:54 am | dolen | 0 sylw |

Freeloading Cymru

Blog o'r enw Freeloading Cymru, ble mae Tony yn adrodd ei hanes yn trafeilio drwy bob awdurdod lleol yng Nghymru heb wario ceiniog ar drafnidiaeth, bwyn na lloches. Ei obaith yw cyhoeddi llyfr am ei brofiadau.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:48 am | dolen | 1 sylw |

Dim angen Gwyddeleg i ymuno â'r Garda

27.9.05

Bach iawn yw fy ngwybodaeth am yr iaith Wyddeleg, ond deallaf nad yw mewn cyflwr da iawn o gwbwl er fod nifer o ddefddfau i'w warchod yn y Weriniaeth. O ddarllen sawl blog, gan gynnwys Slugger O'Toole, dwi'n cael yr argraff bod mwy o 'language haters' yn Iwerddon na sydd yna yng Nghymru. Yn aml mae sefyllfa'r iaith Wyddeleg yn cael ei ddefnyddio fel esgus dros beidio creu deddfau a fyddai'n rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i ddefnyddio eu Cymraeg.

Mae Eurolang yn dweud bod newidiadau am fod, ble na fydd hi'n ofynol bellach i ymgesiwyr sydd eisiau ymuno â'r an Garda Síochána (heddlu) orfod gallu siarad Gywyddeleg. Eu rheswm yw er mwyn dennu mwy o heddweision o'r gymuned ethnig.
Mae hyn yn gwbwl warthus gan ei fod yn awgrymmu nad yw pobl o dras ethnig yn gallu dysgu'r iaith. Yma yng Nghymru hefyd mae'r language haters yn defnyddio presenoldeb poblogaeth ethnig fel esgus yn erbyn dwyieithrwydd, er mewn sawl achos mai'r pobl hyn yn aml-ieithog. Does ryfedd felly mae'r pobl sydd wedi lleisio anfodlonrwydd gyda'r syniad hyn yw iMeasc, sef grŵp o siaradwyr Gwyddelig sydd unai'n fewnfudwyr i'r wlad neu sydd o dras ethnig. Diddorol yw bodolaeth grŵp fel hyn hefyd.

Mwy ar flogiau
Back Seat Drivers
a Raiméis
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:14 pm | dolen | 4 sylw |

Insole Court, Llandaf

26.9.05


Fues i a Sarah yn cerdded o gwmpas gerddi Insole Court ddoe. Doedd yr un o'r ddau ohonom yn ymwybodol o fodolaeth y lle nes i ddynes ddigwydd sôn am y lle wrth Sarah un diwrnod yn ei gwaith. Mae'n adeilad steil Gothic sylweddol wedi ei ddulunio gan y pensaer William Burges ac yn berchen i Gyngor Caerdydd, ond y sôn yw fod y lle dan fygythiad a bod y cyngor eisiau gwerthu'r tir o'i amgylch i ddatblugu tai.

Mwy o luniau gan Dio Bach
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:51 pm | dolen | 0 sylw |

Arolwg 'Green Engage'

Oddi ar City Hippy

Efallai hoffech gymeryd rhan mewn arolwg o'r enw Green Engage i mewn i agweddau pobl at batrymau byw sy'n helpu'r amgylchedd. Mae'n astudiaeth ar y cyd rhwng: Transport 2000, World Wide Fund for Nature (WWF), Cyfeillion y Ddaear, Sustain, Y Gyngrhair Werdd, Passion for the Planet a Grownupgreen.

Gallwch ei gwbwlhau'n ddi-enw neu gallwch gael eich enw mewn het i ennill copi o 'Save Cash and Save the Planet'

Mae'n cymeryd tua 2 funud i'w gwbwlhau, a gallwch ei e-bostio eich atebion at green-engage@transport2000.org.uk neu ei argraffu a'i bostio, er mae'r dyddiad cau yn agos iawn sef y 30ain o Fedi 2005.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r holiadur.

Tagiau Technorati: , , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:12 am | dolen | 0 sylw |

Rhyw awyr agored

23.9.05

Stori oddi ar A Welsh View am fyfyrwyr yng Nghaerdydd yn taflynnu (project) ffilm porno ar ochr tŷ yn y ddinas.
Randy students were busted when they projected a porn film on to a neighbour’s house.

They set up the 20ft x 30ft screening so that all their pals could watch it in the street. But cops pulled the plug on the steamy action in Cardiff.

Student Nick Griffin, 20, said they were copying a stunt in The Sun when we projected an England flag in Paris last year.

He added: “The women were three times lifesize — it was great.”
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:10 am | dolen | 0 sylw |

Peidiwch troi i ffwrdd

Gwefan rhywbethwatch arall, y tro hwn StadiumWatch, sy'n cadw golwg ar stadiwm newydd Abertawe. Tra mae torfeydd y tymor hwn wedi bod yn dda iawn, llawer uwch an fyddai wedi bod yn y Vetch (ac yn uwch na thorfeydd CPD Dinas Caerdydd sydd mewn cyngrhair uwch) mae yna nifer fawr o broblemau, llawer oherwydd blerwch cwmni Stadco, sy'n rheoli'r stadiwm.

Profias i hyn fy hun wrth archebu tocynnau ar gyfer gêm cyfeillgar Cymru'n erbyn Slofenia yn ddiweddar. Archebais i y tocynnau drytaf er mwyn eistedd ar ochr y cae, ond derbyniais rhai i eistedd tu ôl y gôl. Roeddwn wedi nodi fy mod yn fodlon derbyn tocynnau gwahanol os nad oedd tocynnau ochr cae ar ôl, ond pan gyrrhaeddom ni'r gêm roedd y stadiwm yn hanner gwag gyda digonedd o seddi gwad ar yr ochrau. Gofynnais am arian yn ôl o Stadco am y gwahaniaeth ym mhris y tocynnau ac fe gefais siec drwy'r post (er yn amlwg roedd rhaid i mi ofyn am hyn). Prynnais i 4 tocyn, ac o'r herwydd mae'r Cymdeithas Pêl-droed (neu Stadco) wedi colli £20.00.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:59 am | dolen | 1 sylw |

Gwenu mewn Trennau

21.9.05

Wel, dwi ddim rili'n berson sy'n gwenu, ond byddai'n bendant yn mynd i'm gwaith ar y trên yfory gan ei bod yn In Town Without My Car Day. Dwi ddim fel arfer yn ymddwyn fel dafad gyda rhyw stunt's cyhoeddus, ond gan fy mod yn ceisio peidio defnyddio'r car unwaith yr wythnos, yna waeth iddo fod ar y diwrnod hwn.

Mae'r diwrnod In Town Without My Car yn disgyn o fewn wythnos European Mobility Week, ac ar y diwrnod hwn y bwriad yw bod canolfannau trefi a dinasoedd ar gau i geir fel ei bod yn haws i bobl feicio neu gerdded, ond does dim sôn am hyn ar wefan Cyngor Caerdydd.

Dwi'n gwbod mae hwn yn beth blynyddol ond clywais i ddim am y peth eleni nes i fy nghariad ddod o'i gwaith ddoe, wedi cael cynnig crys-T gan staff y cyngor tra'n beicio i'w gwaith. Gan bod Sarah wrthi'n llythyru'r cyngor ar hyn o bryd yn ceisio eu perswadio i adael giatiau'r parc ar agor yn hwyrach fel nad yw hi'n gorfod beicio o amgylch y castell, heb fawr o lwc, doedd y cynnig o grysau-T ond ei chythruddo fwy fyth. A phan ddwedodd hi nad oedd eisiau un, dywedodd y gweithiwr cyngor "Go on take it, you can use it to polish your car"!!!



Rhywbeth sy'n rhanol gysylltiedig yw cynllun Sail Rail, ble gallwch gael tocyn i gael trên at y terminal Fferi yng Nghaergybi neu sir Benfro, croesi i Iwerddon ar y Fferi ac yna trên ar yr ochr arall am un pris. Engrheifftiau yw Rhyl i Galway ac yn ôl am £66, neu o Gaerdydd i Cork ac yn ôl am £56.
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:00 pm | dolen | 4 sylw |

Gwleidydd yn dathlu ennill sedd mewn steil

20.9.05

Stori llawer ysgafnach na'r diwethaf, drwy City Hippy unwaith eto.

Mae Keith Locke, Aelod Seneddol Plaid Werdd Aotearoa (Seland Newydd) wedi 'ennill' bet gyda'i wrthwynebydd y byddai'n cipio'r sedd. Yn anffodus iddo y bet oedd os byddai'n ennill, yna byddai'n rhedeg yn noeth trwy'r dref.
postiwyd gan Rhys Wynne, 11:07 am | dolen | 0 sylw |

Stori drist o Farina Penarth


Wrth yrru adref neithwr ar hyd Heol Caerffili yn ardal Llwynbedw yng Ngogledd Caerdydd, gwelais ddyn ar achr ffordd tu allan i safle adeiladu Crest Nicholson yn dal arwydd mawr. I ddechrau dyma fi'n meddwl mai rhyw wallgofyn crefyddol oedd o, ond wrth i'r goleuadau traffig droi'n goch, stopiais gyferbyn a'r dyn a darllen ei neges:

Dwi newydd googlo 'Houseboat Eviction' ac mae'r darganfyddiad cyntaf yn cyfeirio at wefan Crest of Beauty...and a Family Shafted!. Mae'n adrodd ymgyrch teulu a symudodd i fyw ar gwch preswyl (houseboat) ym Marina Penaerth 7 mlynedd yn ôl. cawsant eu gwahodd yno gan Awdurdod Bae Caerdydd, ac reodd hyn cyn i'r ardal gael ei ddatblygu. Ond gyda dyfodiad y fflatiau crand, ymddengys nad oes croeso iddynt yno bellach ac mae cyfres o ddigwyddiadau anffodus iawn wedi cymeryd lle. Mae'n stori drist iawn am deulu ifanc lleol yn cael eu bwlio gan gwmni mawr, a dyw eu Haelod Seneddol lloeol, Alun Michael (rhywun yn ei gofio?) ddim fel petai gyda diddordeb yn eu hachos chwaith.
We have repeatedly contacted our Member of Parliament Mr. Alun Michael asking for his direct practical help to secure our personal private possessions. We have yet to receive any help in this regard but instead he has accused us of impolite and/or improper behaviour to his office staff. Despite our further polite request for a fair and proper investigation into his claims, and a right to reply, Mr. Alun Michael MP has yet to respond.

Stori drist dros ben.

Mwy ar Indymedia
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:21 am | dolen | 1 sylw |

Blog Seren

19.9.05

Un arall at fy rhestr Bloglines

Blog Seren. Mae hwn wedi ei selio ar y papur newydd gwleidyddol o'r un enw, sydd bellach wedi dod i ben hyd y gwydda i.

Mae'r ddau bost diwetha yn ymwneud â Dic Penderyn
-Un yn sôn am pa fath o ddathliadau dylid gael flwyddyn nesaf i goffau 175 mlynedd ers y Merthyr Risings yn 1831.
-Mae'r llall yn sôn am sut mae llawer o hanes 'terfysgol' Cymru yn cael ei sensro allan o hanes y dyddiau hyn.

Mae post diddorol gan Dogfael ar hyn hefyd, ble mae'n awgrymmu na fyddwn byth eto'n gallu dathlu a chlodfori ein harwyr gwerin o dan deddfau wrth-derfysgaeth arfaethedig y llywodraeth.

Newydd sylwi does dim cofnod am Dic Penderyn ar Wicipedia an Wikipedia
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:44 am | dolen | 0 sylw |

Ail-wisgo


Prynnais fy trainers Diadora bron i ddwy flynedd yn ôl am £20 yn Brantano's. Does gynnai'm syniad ym mle cawsant eu gwnued nag o dan pa amodau, ond gallaf ddyfalu . Rhaid i mi ddweud eu bod yn hynod gyfforddus, ac er mod i'n eu gwisgo'n ddyddiol bron, tydyn nhw ddim yn drewi (llawer) ac maen't mewn cyflwr rhyfeddol o dda. Felly does dim rheswn gyda fi i brynnu rhai newydd.

Dwi wedi bod yn pendronni sut rai fyddwn yn ei brynnu pan aiff fy Diadoras bach brown i nefoedd y trianers (h.y. safle tirlenwi Lamby Way). Dwi'n benderfynnol o gael rhai sydd wedi eu gwneud gan gwmni sy'n parchu hawliau eu gweuthwyr a gobeithio sy'n garedig i'r amgylchedd, ac mae hyn yn cyfyngu fy newis yn sylweddol. Hyd yn hyn yr unig ddewis welwn i oedd rhai gan y Vegetarian Shoes, neu No Sweat. Nid oes yna lawer yna sy'n cymeryd fy ffansi, ond allwch chi ddim bod yn ffysi a bod yn foesol run pryd.

O ia, pwynt y post yma. Dyma ddolen at trainers Wron Again (gweler llun uchod). Mae nhw wedi eu gwnud o hen siwtiau dynion a darnau o parasiwt! Mae nifer cyfyngedig o 2,000 yn cael eu gwnud, a gan fod patrymau ar y gwahanol siwtiau yn mynd i amrywio, ni fydd dim dau bar yr un fath.

Diolch i City Hippy


Tagiau Technorati: ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:25 am | dolen | 0 sylw |

Cefnogwyr Wrecsam yn gorymdeithio


Cyn y gêm oddi cartref yn Llundin yn erbyn Leyton Orient dydd Sadwrn, aeth 150 o gefnogwyr Wrecsam i dref Woking i orymdeithio a gwrthdystio tu allan i swyddfeydd Andy Smith a'i gwmni UPA sydd eisiau prynnu clwb pêl-droed Wrecsam. Nid oes neb yn siwr iawn beth yw bwriad Andy Smith, ond beth sy'n amlwg ar hyn o bryd yw nad oes ganddo'r arian, ac mae rhai'n amau ei fod yn rhan o gynllwyn gan y perchenog presenol Alex Hamilton i atal prynnwyr eraill rhag dod mewn a rhoi trefn a sefydlogrwydd i'r clwb. Mae Neville Dickens, gŵr busnes o Wrecsam sydd â chysylltiadau â'r clwb ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn barod i gymeryd y clwb drosto, ond byddai'n well gan Alex Hamilton weld y clwb yn diflannu er mwyn cael datblygu'r tir.
Dywedodd llefarydd ar ran y cefnogwyr:
"There is an offer on the table from the Moss/Dickens consortium which all Wrexham fans are backing, however Hamilton is unlikely to take that offer whilst UPA is offering silly money that they don't seem to have. We do not know what UPAs plans are but they seem incapable of finding backers willing to fund the deal for them. They are currently 3 months into a 3 week lockout agreement with Hamilton and that tells you all you need to know about UPA and Andy Smith. We will not accept any deal that does not put the club first."

Stori ar BBC Wales, Red Passion a Times Online

Lluniau
o'r orymdaith a'r gwrthdystiad (gan SE18)


Tagiau Technorati: , , , , ,
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:46 am | dolen | 0 sylw |

Y Deflators

15.9.05


Mae grŵp o bobl ym Mharis sydd wedi cael digon ar fobl y ddinas yn gyrru o gwmpas mewn anghenfilod fel 4x4's ac SUV's yn taro'n ôl gan adael gwynt o deiars y cerbydau fin nôs a thaflu mwd atynt. Eu slogan yw "os na ddaw'r cerbyd i'r wlad, daw'r wlad at y cerbyd". Mae'nt yn galw eu hunain yn y Deflators, a'u gobaith yw spardno eraill yn ninasoedd eraill Ffrainc i wneud yr un peth. Gan nad ydynt yn niweidio'r cerbyd mewn unrhyw ffordd nid yw'r heddlu'n gwnud dim i'w rhwytro sy'n gwylltio'r lembos sy'n berchen ar y cerbydau hyn (ha ha).

Dwi wedi sylwi'n ddiweddar ar gynnydd arthuthrol yn y cerbydau gyrriant 4 olwyn sgleniog sydd ar ffyrdd Caerdydd, ac yn meddwl ei fod yn warthus.
Mae'r llygredd di-angen a'r ffaith na fyddai gan gerddwr neu feiciwr siawns yn y byd petai nhw'n cael eu taro gan un yn eu gwneud yn un o'r pethau mwyaf wrth-gymdeithasol i'r crachach fod yn berchen arnynt ers cryn amser.

Rhywbeth arall sy'n debygol o gynnyddu gwerthiant yw rheolau treth ar company cars. Ar hyn o bryd os ydych yn cael car gyda'ch gwaith, gallwch ddisgwyl talu treth ar ffigwr o £2,000 (sy'n cynyddu gyda faint maint o CO2 mae'r cerbyd yn greu) gan ei fod yn cael ei ystyried fel benfit in kind, ond os ydych yn cael pick-up neu fan gyda'ch gwaith does on rhaid talu treth ar £500 (a dim ceiniog am danwydd yn wahanol i gar). Y rheswm am y gwahaniaeth yw ei bod yn go anhybygol y byddai rhywun yn mynd a'i wraig ai blant am dro mewn fan ar y penwythnos (sori am fod yn sexist).

Pan weithiais i Gyllid y Wlad doedd twin cab ddim i fod i gael eu hystyried fel fan, ond siaradais gyda salesman cwmni lleol yn ddiweddar ac roedd o'n brolio bod o wedi cael un o'r twin cab pick-up's yma a mai mond £500 oedd yn dalu. Unai mae rheolau treth wedi newid neu mae cyfrifydd y cwmni'n rhoi gwybodaeth anghywir iddynt. O ddarllen yr erthygl hwn yn yr Independent, ymddengys mae'r rheolau sydd wedi newid. Felly ar ôl trawsnewid y sustem dreth tua 4 mlynedd yn ôl i drethu pobl yn uwch am yrru ceir sy'n creu mwy o lygredd, ymddengys bod y llywodraeth/Cyllid y Wlad nawr yn caniatau y loophole hyn. Grêt.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:08 pm | dolen | 3 sylw |

Irac yn 'ffenest siop' i gwmniau arfau

14.9.05

O'r Independent

Mae ffair arfau mawr ymlaen yn Llundain ar hyn o bryd. Mae nifer o'r arfau diweddaraf sy'n cael eu defnyddio yn Irac yn cael eu cynnig i'r gwestai o wledydd fel Tseina, Clolymbia, Gwlad Sawdi, Algeria ac Indonesia.

I wneud pethau'n waeth, ni y trethdalwyr sy'n talu am y bil plismona sy'n debygol o fod yn filiynnau o bunoedd (£4 miliwn?). Mae Sue Davies ar Wales Comment yn pwyntio allan pa mor anghyfiawn yw hyn tra bod elusenau fel y Bâd Achub yn y Mumbles wedi cael bil o £5,000 i un o'u digwyddiadau codi arian.
postiwyd gan Rhys Wynne, 1:03 pm | dolen | 0 sylw |

Gem bêl-droed Occitània v Tibet



Sylwais ar hwn oddi ar Eurolang, ond allai ddim dod o hyd i unrhyw wybodaethh yn Gymraeg (na Saesneg) am y gêm. Byddai wedi bod yn ddiddorol gwybod sut aeth.

Gwefan Cymdeithas Pêl-Droed Occitània.


Golygwyd.
Mae'n debyg na ddigwyddodd y gêm wedi'r cwbwl oherwydd gwrthodwyd Visa i'r tîm.

Crysau Pêl-droed Tibet ar werth yma.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:16 am | dolen | 0 sylw |

Pennaeth sianel TF1 yn beirniadu triniaeth Ffrainc o'r iaith Lydaweg


O Eurolang
On September 1st Patrick le Lay, the Breton chief of France’s main TV channel TF1, hit the French headlines following a frank interview with 'Bretons' magazine. In the interview he denounces the French government’s cultural genocide of the Breton people, jacobinist centralist policies, and how in France he feels that he is a foreigner.

Ymddengys mai Llydawr yw pennaeth TF1 sef prif sianel deledu Ffrainc. O beth wela i mae gwladwriaeth Ffrainc yn ragrithiol ofnadwy yn y modd y mae'n trin ei ieithoedd lleafrifol, ond eto'n ceisio ymddangos fel eu bod yn ymfalchio yn ei amrywiaeth ieithyddol.
Mae'r ymateb yn y wasg wedi bod yn siomedig, ond gallaf dychmygu mai'r un fath fyddai yma ym Mhrydain gyda chyfryngau Llundain petai Cymro wedi lleisio'r un farn.
Since the news broke most of the French press, TV and radio have covered the story, many aiming to laugh off the matter. Liberation described le Lay as getting "too much sunburn this summer", l’Express said that he had " lost his mind", le Monde said the at least he had a "strong sense of humour". However, the press failed to discuss the real issues affecting Breton language and culture, one Breton political commentator commented that le Lay is merely stating what Bretons know already.
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:52 am | dolen | 0 sylw |

Ennill a Ennill

13.9.05

Dwi dim yn siwr beth mae hyn yn ddweud amdana i, ond ers trychineb Katrina dwi wedi bod yn meddwl am y gwaith o lanhau ac ail-adeiladu'r rhanbarth. Cefais yr ateb yn yr Observer gyda'r newyddion bod hoff gwmni Gwerinaethwyr, sef Halliburton wedi ennill rhai o'r cytundebau mwyaf. Dwi'n deall bod rhaid i rhywun wenud y gwaith, ond dyma'r cwmni sydd â chysylltiadau cryf gyda Dick Cheney, Is-Lywydd y wlad a sydd wedi eu cyhuddo o ennill cytundebau yn Irac heb gystadleuaerth ac yna plingo'r llywodraeth drwy chwyddo prisiau nwyddau.

Observer 11/9/05: All eyes on Halliburton as contacts turn into contracts
Observer 11/9/05: Congress probes hurricane clean-up contracts
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:01 am | dolen | 0 sylw |

Pecyn am Gymru i fewnfudwyr

O wefan y BBC
Mae cynllun i geisio codi ymwybyddiaeth pobl sydd ar fin symud i Gymru am ei natur ieithyddol a diwylliannol wedi cael ei lansio ddydd Llun.

Partneriaeth rhwng Bwrdd yr Iaith Gymraeg, y Mentrau Iaith ac arwerthwyr tai yw Symud i Gymru fydd yn cael ei rhoi ar waith pan fydd pobl yn cysylltu ag arwerthwyr tai.

Er i'r stori hwn ymddangos ar wefan BBC Cymru, nid yw wedi ei grybwyll ar wefan BBC Wales. Unwaith eto, dyma engrhaifft o stori sydd a chymaint o berthnasedd, os nad fwy i ddarllenwyr di-Gymraeg, ond sydd ddim yn ymddangos yn Saesneg.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:41 am | dolen | 1 sylw |

Darganfod Penarth

12.9.05


Daeth fy rhieni draw i aros am y penwythnos, felly rhaid oedd eu diddannu. Fe aethom i Benarth ddoe ar ôl bod weld Morglawdd Bae Caerdydd. Er ei fod yn agos iawn i Gaerdydd, tydw i ddim yn gyfarwydd iawn â Phenarth, ac ond wedi bod yno ddwywaith i Oriel Turner ac i briodas ffrind o gwrs Cymraeg Sarah.

Roedd mam wedi gweld eitem ar S4C oedd yn sôn am yffaith bod siop Aml Adran Dan Evans yn y Barri a Phenarth yn mynd i gau, ar ôl bod ar agor am 100 mlynedd. Mae'n drueni ei bod yn cau, gan mai prin iawn yw busnesau mawr fel hyn sy'n berchen i Gymru Cymraeg yn y de ddwyrain.

Yn anffodus doedd y siop ddim ar agor ar y Sul ond aethom i Oriel Washington am rhywbeth i fwyta. Roedd y coffi bychan ar lawr gwaelod yr oriel yn brysur iawn a roedd yn hawdd gweld pam gyda bwydlen digon diddorol o byr brydau blasus. Sylwais bod yna siaradwyr Cymraeg eraill yn bwyta yno ar dri o'r byrddau eraill, rhywbeth a wnaeth fy synnu. Hefyd cefais fy synnu ar gymaint o arwyddion dwyiethog oedd ar y siopau ar y stryd fawr, a nid ar y siopau cangen yn unig.

Ar ôl bwyta es i a'm rhieni o amgylch yr oriel, a fel mae'n digwydd roedd yna arddangosfa gan artist o Ddinbych sef Huw Jones, gyda'i gasgliad 'Chwyn' yn yr orial uchaf (gweler llun uchod). Yn yr oriel isaf roedd arddangosfa gan artist o'r enw Brian Watkins o Gaerdydd (gweler llun isod).
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:59 am | dolen | 2 sylw |

Pam cefnogi Cymru a Man U?

9.9.05

Oddi ar y BBC

Mewn cynhadledd ym Mangor bydd haneswyr, cymdeithasegwyr, rhai sy'n astudio llenyddiaeth, y cyfryngau a cherddoriaeth yn trafod hunaniaeth a'r dylanwadau hanesyddol a chyfoes ar bobl. Perthnasol iawn ar hyn o bryd wedi gemau'r Llewod dros yr haf, y gêm fawr pêl-droed rhwng Cymru a Lloegr a nawr llwyddiant* tîm criced 'Lloegr'.

*sgyn ai'm syniad na diddordeb beth ddigwyddodd yn y criced
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:36 pm | dolen | 2 sylw |

Rali Deddf Iaith - Dyma'r Cyfle



Derbyniais e-bost heddiw gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglŷn â Rali yn galw am Ddeddf Iaith newydd fydd yn cymeryd lle yng Nghaerdydd ar y 1af o Hydref 2005.

Pan roedd y blaid Geidwadol yn llunio'r ddeddf nôl yn 1993, gwrthododd Rhodri Morgan ei gefnogi am nad oedd yn mynd digon pell, dyma ei eiriau:
"The Government calls this a Welsh Language Bill, but it would be better described as a Welsh Language Quango Bill. What one could call a Quango for the lingo ...... We shall be abstaining tonight because we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language messure when we are in Government."

Ond pan ofynwyd i Rhodri Morgan yn yr Eisteddfod eleni am Deddf Iaith newydd o ystyried bod yna nawr Gynulliad Cenedlaethol a mai ei blaid ef sef Llafur sy'n ei reoli, ei ymatoeb oedd:
"Boring, Boring , Boring"

Er mwyn codi ymwybyddiaeth am y Rali, mae'r Gymdeithas yn bwriadu talu am hysbysebion yn y wasg. Mae hyn yn mynd i gostio arian wrth gwrs, felly os gallwch gyfrannu, plis gwnewch.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:19 am | dolen | 0 sylw |

David druan mewn dŵr poeth

8.9.05

Yn ôl y BBC mae'r Aelod Cynullaid (ac Aelod Seneddol) Ceidwadol David Davies wedi cael ei feirniadu am lythyr 'tafod yn y boch' a anfonodd at Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi iddo glywed am fwriad i ariannu ffim i godi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion ysgol am arferion byw y gymuned sipsiwn.

Er mod i'n cytuno a'r feiriniadaeth nad yw'n cyfrannu dim at bontio rhwng cymunedau, rhaid i mi gyfaddef pan ddarllenais i'r llythyr ar ei flog rhai dyddiau'n ôl mod i wedi gwenu ar y ffordd mae wedi ei ysgrifennu. Gall gwleidyddiaeth David Davies ddim bod ymhellach oddiwrth un fi ar bron iawn popeth, ond mae'r boi yn gallu bod yn ddigri.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:20 am | dolen | 2 sylw |

Mae dy wraig yn gneuen

Roedd David Collins o Gymdeithas Pêl-droed Cymru'n flin gacwn yn y Western Mail dydd Mawrth ac yn ymddiheuro bod y Goldie Lookin Chain wedi dedicatio eu can newydd Your Wife's a Nutter i wraig David Beckham cyn y gêm fawr dydd Sadwrn, ac fel ymddiheurodd yn ffurfiol i'r cwpwl. Ond yn yr NME mae'r grŵp o Gasnewydd yn dweud eu hochr nhw:
“The Beckhams should be honoured that we dedicated our performance to them as an act of friendship and respect, in what could have been in ‘sporting terms’ a political hotbed. We are currently thinking of dedicating our next single to Geri Halliwell, we hope that this will not cause an equally unexpected and misconstrued outcry.”

Da iawn hogie, a Mr Collins callia.

Diolch i Mollten
postiwyd gan Rhys Wynne, 9:12 am | dolen | 0 sylw |

Câr dy gymydog

5.9.05

Gymaint a wnes i fwynhau ymweliad ein cymdogion dydd Sadwrn, fyddwn i ddim eisiau rhannu tîm pêl-droed gyda nhw. Tra mae Cymdeithas Pêl-droed yr Alban wedi datgan yn glir nad ydyn nhw eisiau dim i'w wneud gyda thîm Prydeining, mae cyfarwyddwr Cymdeithas Pêl-droed Lloegr yn frwd iawn am y peth. Diolch byth nad yw pawb yn Lloegr yn teimlo yr un fath, ac mae Little Man in Toque wedi llunio poster gwych a dechrau casglu llofnodion ar ei flog. Mae wedi gadael sylw ar fy mlog Saesneg yn annog cyd-weithrediad rhwng cefnogwyr Cymru, Lloegr a'r Alban. Copiwch y llun isod i'ch blogiau a rhoi dolen at ei ddeiseb.

Mae Alfie the Ok yn codi pwynt da ynglyn â David Taylor o Gymdeithas Pêl-droed Lloegr hefyd, yn ei atgoffa mai buddiannau Lloegr y mae'n cael ei gyflogi i'w hyrwyddo.

Golygwyd: David Taylor dylai fod nid David Davies (er siwr bod y ddau yn rhannu'r un meddylfryd)!

Erthygl dda o safbwynt yr Alban yn y Sunday Herald, ond mae'r pwyntiau yr un mor berthnasol i Gymru.
postiwyd gan Rhys Wynne, 7:47 am | dolen | 4 sylw |

Brash to Blair: rein in the Welsh!

2.9.05

Bues i Aotearoa (Seland Newydd) ar ddechrau'r flwyddyn ar gyfer priodas brawd Sarah. Roeddwn wedi bwriadu ysgrifennu adolygiad o'm taith ar y blog hwn, ond hyd eto dwi heb drafferthu (ac allai'm dod o hyd i fy notebook ble gadwais rhyw fath o dyddiadaur o'm mis yn y wlad - typical fi!). Tra yno, ceisiais ddod i wybod mwy am gymdeithas y wlad ac yn arbennig agweddau pobl tuag at ei phoblogaeth brodorol sef y Maori.

Ar y wyneb mae'n ymddangos bod ymdrechion i wneud yn iawn am anghyfiawnderau'r gorffennol ac mae tiroedd a physgodfeydd yn cael eu rhoi yn ôl i feddiant llwythau ac mae gan y brodorion hawl statudol i ymarfer rhai o'u traddodiadau. Fel y gallwch ddychmygu, nid yw hyn yn plesio pawb. Er bod Aoteatroa yn wlad digon laid-back, modern a goddefgar, mae yna elfennau mwy 'traddodiadol' ac asgell dde.

Wrth ddarllen y New Zealand Herald, roeddwn yn cael fy synnu a'n nychryn gan rai o bolisiau arfaethedig Don Brash, arweinydd y National Party sef yr wrthblaid. Byddai rhai o'r polisiau yma'n gwneud i ennau'u Gwerinaethwyr yr UDA a phlaid John Howard yn Awstralia ddisgyn i'r llawr dwi'n meddwl. Ymysg ei bolisiau fel gorfodi plant o deuluoedd tlawd i gael eu mabwysiadu a sbaddu troseddwyr rhyw, mae plaid Mr Brash yn awyddus i gyfyngu ar hawliau y Maori. Dyma dwi'n meddwl yw ysbrydoliaeth yr e-bost spoof yma:
Dear Tony,

Don Brash here: Prime Minister of New Zealand in waiting. I write to warn you of an issue that could bring down your government and tear apart your country. No, not the war in Iraq - I'd need more information before I could venture an opinion (or even answer a simple question) on that.

No, I mean the Welsh. And for that matter, the Scots.

I am surprised that a man of your charm and intelligence has not realised that allowing these groups to have separate Parliaments and particular cultural practices is taking your nation down the road the racial separatism.

I invite you to take a look at the policy on such matters developed by the National Party at the suggestion of a friend of mine called Roger. In it, we enforce the principle of One Law for All.

I urge you to abolish your race-based assemblies before your country becomes a North Atlantic Zimbabwe. (I am particularly concerned that you allow the courts in Scotland to practice a traditional version of the law that is peculiar to the Scottish race.)

You must also take steps to curb the politically correct practice of encouraging the use of minority languages, and even the operation of an entire Welsh TV channel to force it on people. You really must crack down on this; perhaps by forbidding your student teachers to pronounce Welsh correctly. (I expect this will not be difficult.)

You may also wish to follow our example and organise a purge on the way history is taught in schools to bring it in line with new policy expectations. (I understand you are familiar with the phrase "fix the facts around the policy".)

Actually, the school curriculum thing isn't so much policy as something I blurted out when that hippie guy from Scoop got me a bit rattled a few days ago, but I'm very pleased with it. I find that once you set your sights on One Law for All, it's very easy to come up with things on the spur of the moment. My deputy leader calls it "pulling policy out of my ass", but I find this a little distasteful, as I suspect would you if you saw my deputy leader.

Anyway, I have policy to discover and a campaign to conduct, so I'll leave you with one key word: Resentment. It has never been hard to get the English to dislike the Welsh, and of course the Scots will always harbour grudges. If you play your cards right, you'll have your majority resenting your Celtic minorities before you know it. It has certainly worked for us.

Kind regards,

Don Brash

PS: What do you think about this Iraq thing? Should we have gone in?

Oddi ar Frogblog, blog Plaid Werdd Aotearoa.
postiwyd gan Rhys Wynne, 8:46 am | dolen | 0 sylw |