Darganfod Penarth
12.9.05
Daeth fy rhieni draw i aros am y penwythnos, felly rhaid oedd eu diddannu. Fe aethom i Benarth ddoe ar ôl bod weld Morglawdd Bae Caerdydd. Er ei fod yn agos iawn i Gaerdydd, tydw i ddim yn gyfarwydd iawn â Phenarth, ac ond wedi bod yno ddwywaith i Oriel Turner ac i briodas ffrind o gwrs Cymraeg Sarah.
Roedd mam wedi gweld eitem ar S4C oedd yn sôn am yffaith bod siop Aml Adran Dan Evans yn y Barri a Phenarth yn mynd i gau, ar ôl bod ar agor am 100 mlynedd. Mae'n drueni ei bod yn cau, gan mai prin iawn yw busnesau mawr fel hyn sy'n berchen i Gymru Cymraeg yn y de ddwyrain.
Yn anffodus doedd y siop ddim ar agor ar y Sul ond aethom i Oriel Washington am rhywbeth i fwyta. Roedd y coffi bychan ar lawr gwaelod yr oriel yn brysur iawn a roedd yn hawdd gweld pam gyda bwydlen digon diddorol o byr brydau blasus. Sylwais bod yna siaradwyr Cymraeg eraill yn bwyta yno ar dri o'r byrddau eraill, rhywbeth a wnaeth fy synnu. Hefyd cefais fy synnu ar gymaint o arwyddion dwyiethog oedd ar y siopau ar y stryd fawr, a nid ar y siopau cangen yn unig.
Ar ôl bwyta es i a'm rhieni o amgylch yr oriel, a fel mae'n digwydd roedd yna arddangosfa gan artist o Ddinbych sef Huw Jones, gyda'i gasgliad 'Chwyn' yn yr orial uchaf (gweler llun uchod). Yn yr oriel isaf roedd arddangosfa gan artist o'r enw Brian Watkins o Gaerdydd (gweler llun isod).
2 sylw:
Fues i weld arddangosfa Huw Jones lan yn Rhuthin rhai misoedd nôl, mi o ni'n hoff iawn o'r arddangosfa. Ma na gwpwl o lunie gwych ar y linc yr wyt ti di bostio am Huw Jones - ma'r llun o Salman Rushdie yn ffantastig.
sylw gan Chicken Legs, Twm and The Kid, 12:59 pm
Ie, dwi'n hoffi hwnw. Ar waelod y dudalen ar fy nolen, mae na ddolen arall at wefan personl Huw Jones sy'n cynnwys mwy fyth o luniau enwogion o sawl maes gyda rhywbeth rhyfedd am eu pennau neu yn lle eu cyrff. Ond roedd yn well gyda fi'r casgliad lluniau ar y dudalen rois i ddolen ati.
Bydde'n i'n argymell trip i Benarth tro nesa ddoi di i Gaerdydd i'r oriel yma ac i Dŷ Turner sydd ar draws y ffordd iddo.
Bydde'n i'n argymell trip i Benarth tro nesa ddoi di i Gaerdydd i'r oriel yma ac i Dŷ Turner sydd ar draws y ffordd iddo.