<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar.g?targetBlogID\x3d9291287\x26blogName\x3dGwenu+dan+Fysiau\x26publishMode\x3dPUBLISH_MODE_BLOGSPOT\x26navbarType\x3dBLUE\x26layoutType\x3dCLASSIC\x26searchRoot\x3dhttps://gwenudanfysiau.blogspot.com/search\x26blogLocale\x3den_GB\x26v\x3d2\x26homepageUrl\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com/\x26vt\x3d1473940451298658911', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe", messageHandlersFilter: gapi.iframes.CROSS_ORIGIN_IFRAMES_FILTER, messageHandlers: { 'blogger-ping': function() {} } }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



Pam cefnogi Cymru a Man U?

9.9.05

Oddi ar y BBC

Mewn cynhadledd ym Mangor bydd haneswyr, cymdeithasegwyr, rhai sy'n astudio llenyddiaeth, y cyfryngau a cherddoriaeth yn trafod hunaniaeth a'r dylanwadau hanesyddol a chyfoes ar bobl. Perthnasol iawn ar hyn o bryd wedi gemau'r Llewod dros yr haf, y gêm fawr pêl-droed rhwng Cymru a Lloegr a nawr llwyddiant* tîm criced 'Lloegr'.

*sgyn ai'm syniad na diddordeb beth ddigwyddodd yn y criced
postiwyd gan Rhys Wynne, 2:36 pm

2 sylw:

Dw i'n meddwl am hyn eithaf lot oherwydd mae Americanwyr yn angen rhyw fath o stereotype i meddwl am pobl cenhedloedd eraill. Mae syniad cryf o beth ydy Albanwr gyda nhw, mae syniad cryf o beth ydy Saeson gyda nhw, mae syniad cryf o beth ydy Gwyddel gyda nhw. Ond does dim dealltwriaeth gyda'r mwyafrif y pobl yma am y Cymreig.

Dw i wedi dweud o'r blaen ar fy mlog, y ddylai'r pobl Cymru yn gweithio i creu rhyw fath o hunaniaeth genedlaethol. Eithaf doniol i creu hunaniaeth efallai, ond dw i'n meddwl y bydd hi'n helpu Cymru a Cymraeg i rhoi 'stronger sense' o beth mae hi'n golygu i bod Cymreig.
sylw gan Blogger Chris Cope, 11:01 pm  

Mae llawer o Gymry yn ansicr eu hunain beth ydynt. Mae llaer o'r di-Gymraeg yn teimlo bod siaradwyr Cymraeg yn eu hystyried yn llai o Gymry am nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Nid yw hyn yn wir wrth gwrth gwrs (er mae'n siwr bod un neu ddau yn teimlo felly), ond mae rhai, yn y blaid Lafur er engrhiafft yn hoffi defnyddio'r iaith fel arf i wahanu'r genedl. Mae gwrthwynebwyr Blaid Cymru (neu unrhyw blaid cenedlaetholgar) yn hoff iawn o ddweud mai plaid i siaradwyr Cymraeg yn unig yw hi. Ond os edrychwch ar ganlyniadau etholiadol yn y de ddwyrain, Plaid Cymru sy'n dod yn ail mewn llawer iawn o'r seddi ble mae Llafur yn ennill, ac yn aml iawn gyda chanran(%) llawer iawn uwch o'r bleidlais(of the vote) na sydd yna o siaradwyr Cymraeg.

Mae ymdimlad o Gymreictod (a feeling of Welshness) ar i fyny ymysg poblogaeth Cymru dwi'n credu, a gobeithio ymhen amser fe ddaw hyn yn amlwg i rai du allan i'r wlad. Wedi dweud hynny, nid perception Americanwyr o'r byd yw'r be all and end all o bell ffordd ;-)
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 1:47 pm  

Gadawa sylw