<body><script type="text/javascript"> function setAttributeOnload(object, attribute, val) { if(window.addEventListener) { window.addEventListener('load', function(){ object[attribute] = val; }, false); } else { window.attachEvent('onload', function(){ object[attribute] = val; }); } } </script> <div id="navbar-iframe-container"></div> <script type="text/javascript" src="https://apis.google.com/js/platform.js"></script> <script type="text/javascript"> gapi.load("gapi.iframes:gapi.iframes.style.bubble", function() { if (gapi.iframes && gapi.iframes.getContext) { gapi.iframes.getContext().openChild({ url: 'https://www.blogger.com/navbar/9291287?origin\x3dhttp://gwenudanfysiau.blogspot.com', where: document.getElementById("navbar-iframe-container"), id: "navbar-iframe" }); } }); </script>

Gwenu dan Fysiau

Llawlyfr y Piwritan Newydd



David druan mewn dŵr poeth

8.9.05

Yn ôl y BBC mae'r Aelod Cynullaid (ac Aelod Seneddol) Ceidwadol David Davies wedi cael ei feirniadu am lythyr 'tafod yn y boch' a anfonodd at Gronfa Dreftadaeth y Loteri wedi iddo glywed am fwriad i ariannu ffim i godi ymwybyddiaeth ymysg disgyblion ysgol am arferion byw y gymuned sipsiwn.

Er mod i'n cytuno a'r feiriniadaeth nad yw'n cyfrannu dim at bontio rhwng cymunedau, rhaid i mi gyfaddef pan ddarllenais i'r llythyr ar ei flog rhai dyddiau'n ôl mod i wedi gwenu ar y ffordd mae wedi ei ysgrifennu. Gall gwleidyddiaeth David Davies ddim bod ymhellach oddiwrth un fi ar bron iawn popeth, ond mae'r boi yn gallu bod yn ddigri.
postiwyd gan Rhys Wynne, 10:20 am

2 sylw:

Na, mae'n syniad gwych. Yn enwidg gan rhywun fel David Davies sy'n licio deud beth sydd ar ei feddwl!
sylw gan Blogger Rhys Wynne, 11:25 am  

Dyw, mi oedd hwna'n reit ddifyr, erioed di darllen i flog o'r blaen. Gwrddes i David Davies yng Nglwb Ifor Bach yn ystod gêm rygbi, dwi'n meddwl taw gêm Cymru v Lloegr(yr un yn Wembley lle hedfanodd yr angel Gibbs dros y linell i sgorio cais yn y munude ola). Mi oedd David yno gyda Rod Richards, y ddau yn feddw gachu, brynodd e beint i fi chware teg, mi oedd e'n cadw dweud wrtha i i fod e'n gyrru lorie(mi oedd hyn jyst cyn iddo fe ddod yn AM).

Gadawa sylw